Gwybodaeth am hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Mae'r rhan fwyaf (ond nid y cyfan) o’r deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron.
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r wybodaeth sy'n destun hawlfraint y Goron ar y wefan hon (heb gynnwys logos nac unrhyw ddelweddau) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored. Gan nad yw'r holl gynnwys ar y wefan hon yn destun hawlfraint y Goron, mae'n rhaid i chi gysylltu ag GwefanyDiwydiant@llyw.cymru cyn defnyddio unrhyw gynnwys o'r fath.
Rhaid i chi atgynhyrchu ein deunydd yn gywir a pheidio â'i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Os oes unrhyw un o eitemau hawlfraint y Goron ar y wefan hon yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint (e.e. Hawlfraint y Goron © Croeso Cymru). Hefyd, rydym yn eich annog i greu dolenni hyperdestun i'r wefan hon fel rhan o'r gydnabyddiaeth ac yn unol â thelerau defnyddio ein gwefan. Wrth ddefnyddio cynnwys hawlfraint y Goron ar-lein rhaid i chi gynnwys tag cydnabyddedig sy'n cyfeirio at ffynhonnell wreiddiol y wybodaeth.
Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon y nodir bod ei hawlfraint yn perthyn i drydydd parti. Bydd angen gofyn i ddeiliad hawliau'r trydydd parti am ganiatâd i atgynhyrchu deunydd o'r fath.
Oni nodir yn wahanol, mae'r delweddau yn destun © Hawlfraint y Goron.
Gwaherddir defnyddio logo Croeso Cymru neu unrhyw logo arall Llywodraeth Cymru heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol. Er mwyn gofyn am ganiatâd i ddefnyddio unrhyw logo Llywodraeth Cymru, e-bostiwch: ymholiadaubrandio@llyw.cymru
Ymwadiad gweithgareddau
Nid yw industry.visitwales.com yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os ydych chi'n cymryd rhan yn unrhyw un o'r gweithgareddau sy'n ymddangos ar y wefan hon. Rydych chi'n derbyn y risg wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, a chi sy'n gyfrifol am gwblhau'r gwiriadau angenrheidiol i sicrhau bod gweithgaredd yn diwallu eich anghenion penodol a bod gan ddarparwr y gweithgaredd y cymhwysedd a/neu'r achrediad cywir a bod ganddo'r yswiriant priodol. Mae'n bosibl na fydd gwybodaeth ar y wefan hon sy'n cael ei chyflenwi gan ddarparwyr gweithgareddau yn gywir, yn gyflawn neu'n gyfredol, ac mae industry.visitwales.com yn eithrio pob atebolrwydd mewn perthynas â phob hawliad, boed mewn contract neu gamwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall sy’n deillio o gynnwys y wefan hon neu mewn cysylltiad â chynnwys y wefan hon.
Cynnwys trydydd partϊon
Nid yw industry.visitwales.com yn gallu gwarantu cywirdeb na dibynadwyedd y delweddau a ddangosir gan sefydliadau trydydd parti ar y wefan hon. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau ein bod yn dangos cynrychiolaeth gywir o Gymru. Rydym drwy hyn yn gwadu unrhyw gyfrifoldeb am wallau, hepgoriadau neu gamliwio.
Mae delweddau o'r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu mewngludo gan feddalwedd a ddefnyddir gan y gwefannau cymdeithasol perthnasol ac nid ydynt wedi cael eu cadw â llaw gan VisitWales.com. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os ydych chi am i ddelwedd gael ei dileu, cysylltwch ag GwefanyDiwydiant@llyw.cymru.
Amodau a thelerau
Mae'r telerau defnyddio hyn (ynghyd â'r uchod a'r dogfennau y cyfeirir atynt yma) yn nodi'r telerau sy'n gymwys wrth i chi ddefnyddio ein gwefan www.diwydiant.croeso.cymru (y "Wefan”).
Hefyd, mae ein polisi preifatrwydd yn nodi'r telerau sy’n gymwys pan fyddwn yn prosesu unrhyw ddata personol rydym yn ei gasglu gennych chi, neu sy'n cael ei ddarparu gennych chi i ni. Trwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn cydsynio i’r prosesu hwnnw ac yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.
Darllenwch y telerau defnyddio hyn a'n polisi preifatrwydd (y "Telerau Defnyddwyr" gyda’i gilydd) yn ofalus cyn dechrau defnyddio ein Gwefan. Trwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y Telerau Defnyddwyr a'ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych chi’n cytuno â’r Telerau Defnyddwyr, peidiwch â defnyddio ein Gwefan.
Gweler hefyd ein Polisi Cwcis, sy'n nodi gwybodaeth am sut mae cwcis yn cael eu defnyddio ar ein Gwefan.
1. Y GWASANAETH
1.1 Rydym yn darparu gwasanaeth sy'n caniatáu i unigolion gyrchu a phori gwybodaeth yn ymwneud â'r canlynol:
(a) cymorth busnes wedi'i deilwra ar gyfer busnesau twristiaeth;
(b) cyfleoedd ariannu a gynigir gan industry.visitwales.com;
(c) cynlluniau graddio ansawdd seiliedig ar sêr ar gyfer llety ac atyniadau ymwelwyr; a
(d) hyrwyddo eu busnes twristiaeth (y "Gwasanaeth”).
Os ydych chi am ddefnyddio'r Gwasanaeth, mae'n rhaid i chi gytuno â'r Telerau Defnyddwyr.
1.2 Rydym yn cytuno i ddarparu'r Gwasanaeth i chi ar yr amod eich bod yn derbyn y Telerau Defnyddwyr. Drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth, bernir eich bod wedi derbyn y Telerau Defnyddwyr.
1.3 Cewch ddefnyddio'r Gwasanaeth i nodi busnesau trydydd parti penodol a allai gynorthwyo eich busnes twristiaeth ("Busnesau”). Os ydych chi'n dewis cysylltu ag unrhyw Fusnes, ac yna ymrwymo i drefniadau gydag unrhyw Fusnes, noder y bydd unrhyw gontract sy'n cael ei wneud yn gontract rhyngoch chi a'r Busnes rydych wedi gosod archeb ag ef, ac yn ddarostyngedig i delerau ac amodau'r Busnes hwnnw. Rhaid i chi ddarllen yr holl delerau ac amodau cyn ymrwymo i unrhyw gontract gyda Busnes. Ni fyddwch yn ymrwymo i gontract gyda Llywodraeth Cymru na Croeso Cymru pan fyddwch yn gwneud unrhyw drefniant contractiol gyda Busnes, ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas ag unrhyw gontract o'r fath.
1.4 Noder y bydd ein polisi preifatrwydd yn gymwys i'n defnydd o unrhyw Wybodaeth Bersonol neu wybodaeth arall amdanoch y gallwn ei chasglu o ganlyniad i'ch defnydd o'r Wefan a'r Gwasanaeth.
1.5 Mae diogelwch a phreifatrwydd holl ddefnyddwyr y Wefan yn bwysig i ni; yn enwedig plant ac oedolion ifanc. Am y rheswm hwn, os ydych o dan 18 oed, gallwch gyrchu a phori'r Wefan, ond ni chaniateir i chi ddefnyddio'r Gwasanaeth i ymrwymo i gontractau neu drefniadau tebyg.
2. EICH RHWYMEDIGAETHAU
2.1 Yn gyfnewid am ganiatáu i chi ddefnyddio'r Gwasanaeth, rydych chi'n cytuno i wneud y canlynol: (a) darparu gwybodaeth wir, gywir, gyfredol a chyflawn amdanoch chi eich hun (gan gynnwys unrhyw wybodaeth am gardiau credyd neu ddebyd); a (b) cynnal a diweddaru'r wybodaeth a ddarperir i ni yn brydlon er mwyn sicrhau ei bod yn wir, yn gywir, yn gyfredol ac yn gyflawn.
2.2 Os ydych chi'n darparu unrhyw wybodaeth sy'n anwir, yn anghywir, yn hen neu'n anghyflawn, neu os oes gennym sail resymol dros amau bod gwybodaeth o'r fath yn anwir, yn anghywir, yn hen neu'n anghyflawn, mae gennym yr hawl i’ch atal rhag defnyddio'r Gwasanaeth dros dro neu’n barhaol.
2.3 Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i gael mynediad at y Wefan a/neu'r Gwasanaeth.
2.4 Hefyd, chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n cael mynediad at y Wefan trwy eich cysylltiad â’r Rhyngrwyd yn ymwybodol o’r Telerau Defnyddwyr, a’u bod yn cydymffurfio â hwy.
3. DEFNYDDIO'R WEFAN A'R GWASANAETH
3.1 Rydych chi'n gwarantu i ni na fyddwch yn defnyddio'r Wefan neu'r Gwasanaeth at unrhyw ddiben sy'n anghyfreithlon neu sydd wedi'i wahardd gan y Telerau Defnyddwyr. Yn benodol, rydych chi'n cytuno i beidio â defnyddio'r Wefan neu'r Gwasanaeth at y dibenion canlynol:-
3.1.1 trin neu newid fel arall ddyfeisiau adnabod er mwyn cuddio tarddiad unrhyw neges a drosglwyddir trwy'r Gwasanaeth;
3.1.2 amharu ar weithrediad, neu ymyrryd â gweithrediad, y Gwasanaeth, y Wefan neu unrhyw weinyddion neu rwydweithiau sy'n gysylltiedig â'r Wefan;
3.1.3 gweithredu yn groes i unrhyw gyfraith y DU neu ryngwladol;
3.1.4 atgynhyrchu, dyblygu, copïo, gwerthu, ailwerthu neu ddefnyddio at unrhyw ddibenion masnachol unrhyw ran o'r Gwasanaeth, defnydd o'r Gwasanaeth neu fynediad at y Gwasanaeth; neu
3.1.5 casglu neu gadw data personol yn ymwneud â defnyddwyr eraill y Wefan neu'r Gwasanaeth; neu
3.1.6 cynnal, hwyluso, awdurdodi neu ganiatáu unrhyw gloddio testun neu ddata neu we-grafu mewn perthynas â'r Wefan neu'r Gwasanaeth.
3.2 Rydych yn deall y gall prosesu a thrawsyrru technegol y Gwasanaeth gynnwys (a) trawsyrru dros rwydweithiau amrywiol; a (b) newidiadau er mwyn cydymffurfio ac addasu i ofynion technegol rhwydweithiau neu ddyfeisiau sydd wedi'u cysylltu.
3.3 Rydym yn cadw'r hawl ar unrhyw adeg ac o bryd i'w gilydd, yn ôl ein disgresiwn llwyr a gyda neu heb rybudd, i addasu neu derfynu, dros dro neu'n barhaol, y Wefan neu'r Gwasanaeth (neu unrhyw ran ohoni/ohono) neu eich defnydd unigol o'r Gwasanaeth. Cawn atal dros dro neu ddileu neu gyfyngu ar argaeledd unrhyw ran neu bob rhan o'r Wefan (neu'r Gwasanaeth) am resymau busnes a gweithredol. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi os ydym yn atal dros dro neu'n dileu'r Wefan neu'r Gwasanaeth. Rydych chi'n cytuno na fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw achos o addasu, atal dros dro neu derfynu'r Wefan neu'r Gwasanaeth.
3.4 Mae ein hawliau o dan yr adran hon yn ychwanegol at ein holl hawliau a rhwymedïau eraill ac nid ydynt yn lleihau effaith yr hawliau a’r rhwymedïau hynny.
4. PERCHNOGAETH A DEFNYDD O HAWLIAU PERCHNOGOL
4.1 Mae holl nodweddion y Gwasanaeth (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, dyluniad y Wefan, yr holl logos, testun a graffeg ar y Wefan) yn ddarostyngedig i hawlfraint y Goron neu hawliau eiddo deallusol eraill sy'n eiddo i ni; ac eithrio rhai nodweddion sy'n eiddo i drydydd partïon (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Fusnesau, gwasanaethau manwerthu a gwasanaethau ar-lein).
4.2 Cewch atgynhyrchu nodweddion y Gwasanaeth (ac eithrio logos) nad ydynt yn eiddo i drydydd partïon yn unol â'r wybodaeth am hawlfraint a nodir ar ddechrau'r ddogfen hon.
4.3 Rydym yn berchen ar yr holl feddalwedd a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth (y "Feddalwedd”), a/neu mae gennym drwydded i'w defnyddio.
4.4 Rydym drwy hyn yn rhoi i chi hawl a thrwydded bersonol (neu is-drwydded ar gyfer hawliau trydydd parti sydd wedi'u trwyddedu i ni), na ellir ei throsglwyddo ac nad yw’n llwyr-gyfyngedig, i ddefnyddio'r Feddalwedd at ddibenion cyrchu'r Gwasanaeth, ar yr amod nad ydych yn gwneud unrhyw un o'r canlynol (ac nad ydych yn caniatáu i unrhyw drydydd parti wneud unrhyw un o’r canlynol): copïo, addasu, creu gwaith deilliadol, ôl-beiriannu, ôl-gydosod neu geisio mewn rhyw ffordd arall i ddarganfod unrhyw god ffynhonnell y Feddalwedd neu werthu, aseinio, is-drwyddedu, rhoi buddiant diogelwch mewn unrhyw hawl yn y Feddalwedd neu ei throsglwyddo fel arall.
4.5 Os ydych chi'n argraffu, yn copïo, yn lawrlwytho, yn rhannu neu'n ailbostio unrhyw ran o'r Wefan (neu nodweddion y Gwasanaeth) yn groes i'r Telerau Defnyddwyr hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio'r Wefan yn dod i ben ar unwaith a bydd yn rhaid i chi, os ydym yn dewis, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o'r deunyddiau rydych chi wedi'u gwneud.
5. YMWADIAD
5.1 Rydych chi'n deall ac yn cytuno’n ffurfiol eich bod chi'n defnyddio'r Wefan a/neu'r Gwasanaethau ar eich risg eich hun. Darperir y Wefan a'r Gwasanaeth (gan gynnwys y Feddalwedd) ac unrhyw wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti "fel y maent" ac "fel y maent ar gael," heb unrhyw sylwadau neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau goblygedig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, cydymffurfiaeth, cydweddoldeb, diogelwch a chywirdeb.
5.2 Yn benodol, nid ydym yn gwarantu'r canlynol: (a) y bydd y Gwasanaeth yn bodloni eich gofynion; (ii) y bydd eich defnydd o'r Wefan a/neu'r Gwasanaeth yn ddi-dor, yn amserol, yn ddiogel neu'n rhydd o wallau; (iii) y bydd y deunyddiau sydd ar y Wefan a'r canlyniadau a allai ddeillio o'ch defnydd o'r Gwasanaeth yn gywir neu'n ddibynadwy; (iv) y bydd ansawdd unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau, gwybodaeth, neu ddeunyddiau eraill a brynir gennych neu a gewch drwy'r Gwasanaeth yn bodloni eich disgwyliadau; (v) y bydd unrhyw ddiffygion neu anghywirdebau yn cael eu hunioni; neu (vi) y bydd y Wefan a/neu'r Feddalwedd yn rhydd o feirysau neu unrhyw beth a allai gynnwys elfennau dinistriol.
5.3 Bydd unrhyw gynnwys a gaiff ei lawrlwytho neu a geir fel arall drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth yn cael ei wneud yn ôl eich disgresiwn a'ch menter eich hun ac rydych yn deall ac yn cytuno y byddwch yn gwbl gyfrifol am unrhyw achos o ddifrod i'ch system gyfrifiadurol neu golli data yn sgil lawrlwytho unrhyw gynnwys o'r fath
5.4 Er ein bod yn gwneud pob ymdrech resymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar y Wefan, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantiadau neu warantau, boed yn ddatganedig neu'n oblygedig, bod y cynnwys ar ein Gwefan yn gyflawn neu’n gyfredol.
5.5 Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw achos am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, nac unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o’r defnydd neu golli defnydd o ddata, neu elw, sy'n deillio o ddefnyddio'r Wefan a/neu'r Gwasanaeth neu mewn cysylltiad â defnyddio'r Wefan a/neu'r Gwasanaeth.
6. CYFYNGIAD RHWYMEDIGAETH
6.1 Mae eich gohebiaeth neu'ch trafodion (busnes neu fel arall) gyda Busnesau neu hysbysebwyr a geir ar y Gwasanaeth neu trwy'r Gwasanaeth, neu eich cyfranogiad mewn gweithgareddau hyrwyddo’r Busnesau neu hysbysebwyr hynny, gan gynnwys talu a danfon nwyddau neu wasanaethau cysylltiedig, ac unrhyw delerau, amodau, gwarantau neu sylwadau eraill sy'n gysylltiedig â thrafodion o'r fath, yn digwydd rhyngoch chi a'r cyfryw Fusnesau neu hysbysebwr yn unig. Rydych yn cytuno na fyddwn yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath sy'n deillio o unrhyw drafodion o'r fath neu o ganlyniad i bresenoldeb Busnesau neu hysbysebwyr ar y Gwasanaeth.
6.2 I'r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, rydym trwy hyn yn eithrio'r holl amodau, gwarantau, sylwadau neu delerau eraill a allai fod yn gymwys i'r Wefan neu'r Gwasanaeth, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig.
6.3 Ni fyddwn yn atebol i unrhyw un sy'n defnyddio'r Wefan neu'r Gwasanaeth am unrhyw golled neu ddifrod, boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), tor-dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os gellid ei ragweld, sy'n deillio o dan y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol: (a) defnyddio, neu anallu i ddefnyddio, y Wefan neu'r Gwasanaeth; neu ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys a ddangosir ar y Wefan neu sy'n ffurfio rhan o'r Gwasanaeth.
6.4 Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw iawndal sy'n deillio o'ch defnydd o'r Gwasanaeth gan gynnwys iawndal am golli data, colli elw neu golled sy'n gysylltiedig â defnyddio'r Gwasanaeth neu berfformiad y Gwasanaeth, neu am yr oedi neu'r anallu i ddefnyddio'r Gwasanaeth neu am gynhyrchion neu wasanaethau gwybodaeth a gafwyd trwy'r Gwasanaeth.
6.5 Yn benodol, ni fyddwn yn atebol am unrhyw un o'r canlynol a allai ddeillio o ddefnyddio'r Wefan a/neu'r Gwasanaeth: (a) colli elw, gwerthiant, busnes, neu refeniw; (b) aflonyddu ar eich busnes; (c) colli arbedion a ragwelir; (d) colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; neu (e) unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol.
6.6 Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan feirws neu ddeunydd arall sy'n niweidiol yn dechnolegol a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchnogol arall o ganlyniad i’ch defnydd o'r Wefan, y Gwasanaeth neu'r Feddalwedd neu o ganlyniad i lawrlwytho unrhyw gynnwys neu ddeunyddiau. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd gwrthfeirysau eich hun.
6.7 Rydych yn cytuno na fydd gennym unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd mewn perthynas â dileu neu fethu â storio unrhyw negeseuon a chyfathrebiadau eraill sy'n cael eu cynnal neu eu trawsyrru gan y Gwasanaeth.
6.8 Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd unrhyw beth yn y Telerau Defnyddwyr yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd i chi pan fyddai'n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am unrhyw ddatganiad twyllodrus neu am anaf personol neu farwolaeth a achosir gan ein hesgeulustod.
6.9 Nid yw rhai awdurdodaethau yn caniatáu eithrio gwarantiadau penodol neu gyfyngu ar neu eithrio atebolrwydd am iawndal cysylltiedig neu ganlyniadol, ac mae cyfreithiau'r awdurdodaethau hyn yn drech nag unrhyw rwymedigaethau contractiol sy'n honni cyflawni hynny. Yn unol â hynny, mae'n bosibl na fydd rhai o'r cyfyngiadau uchod yn gymwys i chi.
7. INDEMNIAD
7.1 Rydych drwy hyn yn cytuno’n llawn i indemnio, parhau i indemnio a'n diogelu ni neu unrhyw un o'n swyddogion, cyflogeion, asiantau, is-gontractwyr a chwmnïau cysylltiedig rhag ac yn erbyn unrhyw a phob cost, hawliad, colled, iawndal neu rwymedigaeth a thraul (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ffioedd cyfreithiol) a wneir gan unrhyw drydydd parti mewn unrhyw awdurdodaeth yn sgil neu'n deillio o'ch defnydd o'r Gwasanaeth, eich cysylltiad â'r Gwasanaeth, torri'r Telerau Defnyddwyr neu unrhyw achos arall o dorri unrhyw hawliau trydydd parti gennych. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gennym o ganlyniad i'ch tor-hawliau.
8. DOLENNI TRYDYDD PARTÏON
8.1 Gall y Gwasanaeth gynnwys dolenni i wefannau a weithredir gan bartïon heblaw ni. Caiff y dolenni hyn eu darparu er hwylustod i chi yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys gwefannau sydd â dolenni ar y Wefan ac nid ydym yn gyfrifol am y cynnwys. Drwy gynnig y dolenni hyn, nid ydym yn ddatganedig nac yn oblygedig yn cymeradwyo unrhyw beth a geir ar y cyfryw wefannau, ac nid oes gennym unrhyw gysylltiad â gweithredwyr y cyfryw wefannau. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o'ch defnydd o wefannau â dolenni. Rydym hefyd yn eithrio'n ddatganedig unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunydd anghywir, sarhaus, difenwol neu anweddus a allai ymddangos ar y gwefannau hyn.
9. CREU DOLEN I'R WEFAN
9.1 Cewch greu dolen i'r Wefan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n deg a chyfreithlon ac nad yw'n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.
9.2 Rhaid i chi beidio â gosod dolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad neu gymeradwyaeth ar ein rhan ni lle nad oes cysylltiad neu gymeradwyaeth o’r fath yn bodoli.
9.3 Rhaid i chi beidio â gosod dolen i'r Wefan mewn unrhyw wefan nad ydych chi’n berchen arni. Dim ond hafan y Wefan y gellir ei fframio ar unrhyw wefan arall. Rhaid i chi beidio â chreu dolen o hafan y Wefan sydd wedi’i fframio i unrhyw ran o'r Wefan heblaw'r hafan.
9.4 Rydym yn cadw'r hawl i dynnu yn ôl caniatâd i osod dolen heb roi rhybudd.
9.5 Os ydych chi eisiau creu dolen i unrhyw gynnwys ar y Wefan neu ei ddefnyddio, ac eithrio’r hyn a nodir uchod, cysylltwch â ni.
10. NEWIDIADAU I'R WEFAN A'R GWASANAETH
Gallwn ddiweddaru'r Wefan o bryd i'w gilydd, a gallwn newid y cynnwys (gan gynnwys y Gwasanaeth) ar unrhyw adeg i adlewyrchu newidiadau i'r Gwasanaeth neu anghenion defnyddwyr ein Gwefan. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi am unrhyw newidiadau mawr. Gallwn hefyd ddiwygio'r Telerau Defnyddwyr ar unrhyw adeg. Gallwn roi hysbysiad am newidiadau i'r Telerau Defnyddwyr neu faterion eraill drwy gyhoeddi hysbysiadau neu ddolenni i hysbysiadau i chi'n gyffredinol ar y Wefan. Cofiwch edrych ar y Wefan a darllen y Telerau Defnyddwyr yn rheolaidd er mwyn gweld unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud, gan eu bod yn eich rhwymo. Trwy barhau i ddefnyddio'r Wefan rydych yn cytuno i dderbyn unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud.
11. CYFFREDINOL
11.1 Ni fydd unrhyw hepgoriad gennym os byddwch yn torri'r Telerau Defnyddwyr yn cael ei ystyried yn hepgoriad ar gyfer unrhyw achos dilynol o dorri'r un ddarpariaeth neu unrhyw ddarpariaeth arall.
11.2 Os bydd unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau Defnyddwyr neu o ddarpariaeth yn ddi-rym am ba reswm bynnag, tybir bod y geiriau sy’n peri tramgwydd wedi'u dileu a bydd y darpariaethau sy'n weddill yn parhau mewn grym llawn.
11.3 Mae eich hawliau a'ch rhwymedigaethau o dan y Telerau Defnyddwyr yn bersonol i chi ac rydych yn ymrwymo na fyddwch yn aseinio, yn prydlesu, yn ymddiried, yn is-drwyddedu nac yn trosglwyddo fel arall y cyfryw hawliau a rhwymedigaethau yn rhannol neu'n llawn, nac yn honni gwneud hynny.
11.4 Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau Defnyddwyr yn creu unrhyw hawl na budd i unrhyw drydydd parti o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999.
11.5 Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled a ddioddefir gennych, nac yn cael ein barnu i fod yn ddiffygiol am unrhyw oedi neu fethiannau mewn perfformiad sy'n deillio o weithredoedd neu achosion y tu hwnt i'n rheolaeth resymol neu o unrhyw weithredoedd Duw, gweithredoedd neu reoliadau unrhyw awdurdod llywodraethol neu uwch-genedlaethol neu os nad yw ein gweinyddion yn gweithio.
11.6 Caiff penawdau adrannau eu cynnwys er hwylustod yn unig ac ni chânt eu hystyried yn rhan o'r Telerau Defnyddwyr, na’u defnyddio i'w dehongli.
12. CYFRAITH AC AWDURDODAETH
12.1 Os ydych yn ddefnyddiwr, nodwch y bydd y Telerau Defnyddwyr, eu deunydd pwnc a'u ffurfiad, yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Rydych chi a ninnau yn cytuno i ufuddhau i awdurdodaeth nad yw'n llwyr-gyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.
12.2 Os ydych yn fusnes, neu'n gweithredu ar ran busnes, bydd y Telerau Defnyddwyr, eu deunydd pwnc a'u ffurfiad (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn gontractiol), yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Rydych chi a ninnau yn cytuno i ufuddhau i awdurdodaeth llwyr-gyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.
13. DEHONGLI
13.1 Bydd gan y geiriau a'r ymadroddion canlynol yr ystyron canlynol yn y Telerau Defnyddwyr:
(i) ystyr "ni" ac "ein" yw VisitWales.com, adran weinyddol Llywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo Cymru. Prif leoliad busnes Llywodraeth Cymru yw Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
(ii) ystyr "chi", "eich" a "chi eich hun" yw chi, yr unigolyn sy'n dymuno defnyddio'r Wefan a/neu'r Gwasanaeth; waeth a ydych yn gweithredu mewn rhinwedd bersonol neu ar ran busnes.
14.1 CYSYLLTU Â NI
Gellir cysylltu ag diwydiant.croeso.cymru drwy GwefanyDiwydiant@llyw.cymru.