Defnyddio’r wefan hon

Croeso Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am i bawb sy’n defnyddio’r wefan deimlo bod croeso iddynt a chael profiad cadarnhaol. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Cafodd gwaith datlygu ychwanegol ei wneud ym mis Awst 2021 i wella’r eitemau uchod, gan gynnig rheolaeth ychwanegol dros elfennau animeiddio a fideo. Mae'r lliwiau cyfnewidiol, lefelau cyferbyniad a ffontiau hefyd ar ein cynllun datblygu, yn ogystal â'r gallu i chwyddo i mewn ar destun.

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae’r datblygiad wedi gweithredu dull hollol ymatebol gan sicrhau fod cynnwys yn hygyrch i’w weld ar ddyfeisau mor fach â ffonau symudol neu mor fawr â’r sgriniau pen desg mwyaf. Bu’n bwysig i’r datblygiad sicrhau nid yn unig fod testun yn cael ei wneud yn hygyrch ond hefyd bod y profiad o weld yn gyfartal ar draws meintiau sgrin, gan sicrhau fod ffotograffau’n canolbwyntio ar yr ardaloedd perthnasol wrth gael eu hailfeintioli, a bod trawsysgrifiadau ar gael o bob fideo a gomisiynir gennym trwy ddolenni YouTube neu Vimeo.

Rydym ni wedi gwneud pob ymdrech i wneud gwefan diwydiant.croeso.cymru yn hawdd i’w dilyn ac yn hygyrch i bawb. Rydym wedi anelu at gael y safle i lynu wrth y canllawiau canlynol:

  • HTML4/5
  • CSS 2/3.0
  • WCAG Version 2.1 (AA)

Mae gan AbilityNet (Saesneg yn unig) gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio.

Cydweddu â Phorwyr Rhyngrwyd

Cafodd gwefan diwydiant.croeso.cymru ei phrofi ar y rhan fwyaf o’r prif borwyr cyfoes.

Cafodd gwefan diwydiant.croeso.cymru ei phrofi ar y porwyr canlynol:

  • Chrome
  • Firefox
  • Internet Explorer
  • Safari

Ffontiau

Enghreifftiau o sans font Cymru Wales, yn dangos llythrennau penodol i’r Gymraeg

I gefnogi’r ymdeimlad o le a’r profiad diwylliannol o Gymru, mae gennym gasgliad o wynebau teip unigryw sy’n cael eu dylanwadu gan dreftadaeth deipograffig y Gymraeg.

Mae’r ffont yn gweithredu fel conglfaen i uno hunaniaeth y brand gweledol, gan gynrychioli Cymru gerbron y byd mewn dull gwirioneddol a chreadigol. Mae’r ffont yn cynnwys nifer o lythrennau Cymraeg. Byddwn ond yn eu defnyddio mewn geiriau nad ydynt yn cael eu cyfieithu o’r Gymraeg, fel enwau lleoedd neu pan roddir cyfieithiad Cymraeg i gefnogi’r profiad diwylliannol.  

Rydym ni wedi adeiladu cyfres o glyffau a diagraffau i’r ffont sy’n cefnogi ymdeimlad o le a chymeriad, yn ôl y galw.

  • Defnyddir Cymru / Wales Sans fel arfer fel ffont pennawd
  • Defnyddir Georgia Serif ar draws copi’r cynnwys

Datblygwyd ein ffontiau ar y cyd ag asiantaeth hygyrchedd i adolygu ac addasu’r ffont yn ôl y galw.

Ffotograffiaeth, Darluniau a Fideo

Ein nod yw gwneud ein holl asedau cyfryngau sy’n eiddo i ni’n hygyrch. Mae hyn yn cynnwys alt text disgrifiadol a chapsiynau ble bo’n addas. Yn aml, dangosir ein fideos drwy YouTube neu Vimeo ble bydd capsiynau ar gael.

Wrth wreiddio cynnwys trydydd parti i’n gwefan, ni allwn sicrhau fod pob parti allanol wedi dilyn yr un dull o weithio. 

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon

Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 30 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: GwefanyDiwydiant@llyw.cymru

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Croeso Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (Saesneg yn unig).

Sut aethom ati i brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym Mawrth 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Burdus Access, a cheir ei gynnal gan ein partneriaid datblygu cyfredol BoxUK Cyf.

Gwnaethom brofi’r canlynol:

Beth ydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae gwneud ein gwefan yn llwyr hygyrch yn broses barhaol ac rydym ni wedi ymrwymo i gynnig profiad o’n gwefan sy’n cydymffurfio a safonau hygyrchedd AA ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Ein dull arfaethedig o weithio yw cyfuno grwpiau technoleg a grwpiau ffocws fel ei gilydd sy’n cynnwys defnyddwyr anabl neu sy’n defnyddio technolegau cynhorthwyol.

Mae datblygiadau parhaol yn cael eu cyflawni gyda safon hygyrchedd AA fel nod craidd gan ein partneriaid datblygu BoxUK.

Cwblhawyd adolygiad allanol ym mis Mawrth 2021. Mae'r holl welliannau a nodwyd wedi'u rhoi ar waith.

Paratowyd y datganiad hwn ar 10 Awst 2024. Diweddarwyd ddiwethaf ar 05 Mehefin 2024.