Eich data a ni

Mae timau’r Diwydiant Twristiaeth a Datblygu yn Llywodraeth Cymru yn parchu ac yn dymuno diogelu preifatrwydd ein cleientiaid a'n partneriaid. Mae'r hysbysiadau preifatrwydd isod yn nodi'r manylion mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth a gasglwn

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Twristiaeth Llywodraeth Cymru

Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru

Gweminarau Croeso Cymru – Recordiad Microsoft Teams

Diwylliant a Chwaraeon Digwyddiadau Cymru
 

IndustryStakeholderCyPNLlC yn Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ym Maes Twristiaeth - Hysbysiad Preifatrwydd

08/07/2022

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth rhanddeiliaid allweddol yn y sector twristiaeth yr ydych chi’n ei darparu, a byddwn yn ei phrosesu yn unol â’n gorchwyl cyhoeddus i ymgysylltu â chi, fel rhanddeiliad allweddol ym maes twristiaeth, er mwyn gwneud y canlynol: 

  • darparu gwybodaeth i chi
  • rhoi sylw i ddigwyddiadau perthnasol a’ch gwahodd iddynt
  • tynnu eich sylw at gyfleoedd datblygu busnes a chyfleoedd i drawsweithio a allai fod yn fuddiol i chi
  • eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymgyngoriadau, ymarferion ymchwil neu grwpiau ffocws 

Ar gyfer grwpiau penodol, mae’n bosibl y cewch wahoddiad i ymuno ar wahân. Yn yr achosion hyn, darperir rheolaethau a hysbysiadau preifatrwydd sy’n benodol i’r gweithgaredd.

Bydd eich gwybodaeth ar gael (fel y bo’n briodol) i staff / timau ehangach Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar brosiectau / gweithgareddau / ymchwil / ymgyngoriadau / digwyddiadau sy’n benodol i’r sector twristiaeth yn unig, a chaiff rheolaethau priodol eu cynnwys sy’n cwmpasu defnyddio a storio eich data.

Weithiau, gofynnir i drydydd parti fod yn gyfrifol am gyflawni prosiectau / gweithgareddau / ymchwil / ymgyngoriadau / digwyddiadau sy’n ymwneud â thwristiaeth, ar ran Llywodraeth Cymru, a byddwn yn rhoi eich manylion i’r parti hwnnw fel y gallent gysylltu â chi at y diben hwnnw. 

Bydd yr holl wybodaeth rydych yn ei darparu’n cael ei storio a, phan fo hynny’n briodol, ei rhannu’n ddiogel, ac yn cael ei defnyddio gan gydymffurfio’n llawn â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cadw eich manylion ac yn eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn gyfredol cyhyd ag yr ydych yn rhanddeiliad – ac am flwyddyn wedi hynny. Os nad ydych yn dymuno parhau i fod yn aelod o’r grŵp rhanddeiliaid hwn, anfonwch e-bost at quality.tourism@llyw.cymru a chaiff eich data ei archifo.  

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Caiff newidiadau eu postio yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Byddwn yn eich hysbysu pan wneir newidiadau i’r polisi hwn, drwy anfon e-bost atoch i’r cyfeiriad rydym wedi’i nodi, er mwyn i chi allu adolygu’r fersiwn newydd.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod pa ddata personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch, ac i gael mynediad ato;
  • i ofyn i ni gywiro data anghywir;
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol);
  • i ofyn i’ch data gael ei ddileu (o dan amgylchiadau penodol);
  • i symud data (o dan amgylchiadau penodol);
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o wybodaeth am y data y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw a’r ffordd maent yn cael eu defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Croeso Cymru – Ymgysylltu â’r diwydiant
E-bost:  quality.tourism@llyw.cymru

Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: 
DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail Lawr
Tŷ Churchill 
Ffordd Churchill 
Caerdydd
CF10 2HH

Teleffon: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: 
cymru@ico.org.uk
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

 

QualityAssuranceCyPNDatganiad Preifatrwydd - Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru

10/01/2023

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data at ddiben cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK-GDPR).  Mae prosesu’ch cais yn rhan o’n gorchwyl cyhoeddus i weinyddu’r gwasanaeth, a bydd yn rhan o’n contract.

Diben y Prosesu
Er mwyn prosesu’ch cais a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eich busnes a’ch statws achrediad i bartneriaid mewnol (adrannau eraill Llywodraeth Cymru) ac allanol (Partneriaid Data, Awdurdodau Lleol, Asiantau Rheoli Canolfannau Croeso), mae Llywodraeth Cymru yn gofyn ichi roi gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth fusnes yn unol â’r ffurflen gais. Mae angen prosesu’r data hyn er mwyn i Lywodraeth Cymru wneud y tasgau a ganlyn.

Mae angen manylion cyswllt arnom er mwyn i Groeso Cymru allu cysylltu â chi i wneud trefniadau ar gyfer yr ymweliad sicrhau ansawdd; anfon derbynebau, adroddiadau achrediad a thystysgrifau ac am resymau gweithredol.

Anfonir manylion cyswllt hefyd at Stiwardiaid Data Croeso Cymru (Twristiaeth Canolbarth Cymru, Twristiaeth Gogledd Cymru, ‘New Vision Group’) er mwyn iddynt allu cysylltu â chi at ddiben rhoi’ch manylion ar wefan ddefnyddwyr Croeso Cymru – www.croesocymru.com

Derbynwyr y Data
Caiff gwybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru am eich busnes ei rhannu â’r cyrff a ganlyn am y rhesymau a nodir uchod:

  • Adrannau eraill Llywodraeth Cymru
  • Stiwardiaid Data (Twristiaeth Canolbarth Cymru, Twristiaeth Gogledd Cymru, ‘New Vision Group’) – mae’r sefydliadau hyn yn darparu gwasanaethau i Groeso Cymru o dan gontract.
  • Sefydliadau Twristiaeth Cenedlaethol
  • Awdurdodau Lleol
  • Cymdeithas Twristiaeth Anturiaeth Cymru (WATO)

Cadw Data
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth bersonol at ddibenion graddio am 7 mlynedd.   

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth
Mae hawl gennych:

  • weld y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch; 
  • gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny; 
  • gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu arno (mewn amgylchiadau penodol);
  • i’ch data gael eu dileu (mewn rhai amgylchiadau); 
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Rhagor o wybodaeth
Am ragor o fanylion am yr wybodaeth sy’n cael ei chadw neu’i defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech ddefnyddio’ch hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Aberystwyth, SY23 3UR
E-bost: 
quality.tourism@llyw.cymru

Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
E-bost: 
DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)
Manylion Cyswllt:
Ail Lawr, Churchill House, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400 neu 0303 123 1113
E-bost: 
cymru@ico.org.uk
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

WebinarTeamsRecordCyPNGweminar Croeso Cymru - Recordiad Microsoft Teams

14/10/2021

Recordiadau Microsoft Teams a chi: sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a chyda phwy rydym yn ei rhannu 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth cyfarfodydd 'byw' wrth gael effaith gadarnhaol ar ei chysylltiad â rhanddeiliaid y sector twristiaeth wrth i ni weithio tuag at adfer yr economi ymwelwyr yng Nghymru. Gall y ffordd y mae busnesau'n parhau i weithio yn ystod y coronafeirws (Covid-19) ei gwneud yn anodd i bawb fynd i gyfarfodydd 'byw' y diwydiant twristiaeth a gynhelir gennym drwy Microsoft Teams. Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i sesiynau’r diwydiant twristiaeth, rydym yn mynd i recordio'r sesiwn a sicrhau eu bod ar gael i'w gweld ar wefan Diwydiant Twristiaeth Llywodraeth Cymru am gyfnod cyfyngedig i alluogi'r rhai na allent fod yn bresennol ddal i fyny â'r newyddion diweddaraf. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheolwr data ar gyfer data personol mewn perthynas â chofnodi cyfarfodydd y diwydiant. At ddibenion y cofnodi, rydym yn dibynnu ar ddarpariaethau cyfreithlon canlynol Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR): 

  • Tasg Gyhoeddus – mae angen prosesu er budd y cyhoedd neu ar gyfer swyddogaethau swyddogol ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.

Os byddwch yn dewis cymryd rhan mewn sesiwn ryngweithiol byw, byddwch yn ymwybodol y gall eich delwedd a'ch data llais ymddangos ar y sgrin a bydd eich enw i'w weld. Os nad ydych am ymddangos mewn recordiadau, sicrhewch fod eich fideo a/neu feicroffon wedi'u diffodd yn y feddalwedd.

Dylai cyfranwyr fod yn ymwybodol bod recordiadau yn ddarostyngedig i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod recordiadau'n cael eu storio'n ddiogel ac ni fyddant ond ar gael drwy ddolen ddiogel i sianel YouTube Croeso Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd ar-lein) (Saesneg yn unig), ar wefan Twristiaeth Busnes Cymru, cylchlythyrau’r diwydiant a rhwydweithiau Croeso Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol.  Bydd y recordiadau ar gael i'n rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Bydd y recordiadau yn cael eu cadw ac ar gael i’w gweld drwy’r dolenni am gyfnod o flwyddyn i ddyddiad y digwyddiad cyn eu dileu o'r holl fannau a ffynonellau a enwir, oni nodir yn wahanol.
Ni fyddwn yn rhannu recordiadau yn ehangach na thrwy'r wefan a nodir oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith (e.e. y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth).

Rydym yn defnyddio Microsoft Teams ar gyfer digwyddiadau ar-lein. Mae manylion hysbysiad preifatrwydd (Saesneg yn unig) a pholisïau diogelwch MS Teams ar gael yng Nghanolfan Ymddiriedolaeth Microsoft (Saesneg yn unig).
 
O dan y ddeddfwriaeth DU diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:

  • gael mynediad at eich data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi
  • ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
  • wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) i prosesu 
  • gofyn i'ch data gael ei 'ddileu'
  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)
  • gwneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Cyswllt y Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

Ymholiadau Pellach 
I gael rhagor o wybodaeth am y data sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yn:

Swyddog Gwarchod Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

EWCandSCyPNHysbysiad Preifatrwydd Diwylliant a Chwaraeon Digwyddiadau Cymru

04/03/2024

Hoffai Digwyddiadau Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddigwyddiadau, polisi sy'n gysylltiedig â'r diwydiant, newyddion ac ymchwil drwy e-bost. Er mwyn gwneud hyn mae angen prosesu rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw ar gronfa ddata cysylltiadau a'i storio gyda systemau diogel Llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych a bydd yn eu prosesu fel rhan o'i thasg gyhoeddus i gefnogi a datblygu'r sector digwyddiadau yng Nghymru, er mwyn gwneud y canlynol:

  • darparu gwybodaeth i chi
  • rhoi sylw i ddigwyddiadau perthnasol a’ch gwahodd iddynt
  • tynnu eich sylw at gyfleoedd datblygu busnes a chyfleoedd i drawsweithio a allai fod yn fuddiol i chi
  • eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymgyngoriadau, ymarferion ymchwil neu grwpiau ffocws

Ar gyfer grwpiau penodol, mae’n bosibl y cewch wahoddiad i ymuno ar wahân. Yn yr achosion hyn, darperir rheolaethau a hysbysiadau preifatrwydd sy’n benodol i’r gweithgaredd.

Bydd eich gwybodaeth ar gael (fel y bo’n briodol) i staff / timau ehangach Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar brosiectau / gweithgareddau / ymchwil / ymgyngoriadau / digwyddiadau sy’n benodol i’r sector twristiaeth yn unig, a chaiff rheolaethau priodol eu cynnwys sy’n cwmpasu defnyddio a storio eich data.

Gall Digwyddiad Cymru rannu eich gwybodaeth bersonol gyda thrydydd partïon ond dim ond pan fyddant yn darparu gwasanaethau o dan gontract at y dibenion a amlinellir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu os oes rheidrwydd arnom i wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Bydd yr holl wybodaeth rydych yn ei darparu’n cael ei storio a, phan fo hynny’n briodol, ei rhannu’n ddiogel, ac yn cael ei defnyddio gan gydymffurfio’n llawn â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.

Os ydych yn dymuno i'ch gwybodaeth bersonol gael ei thynnu o'r gronfa ddata cysylltiadau ar unrhyw adeg, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at Digwyddiadau Cymru yn digwyddiadaucymru@llyw.cymru 

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar y gronfa ddata nes i chi ddewis optio allan o dderbyn y diweddariadau. 

Eich hawliau:

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU mae gennych yr hawliau canlynol;

  • Cael gafael ar gopi o'ch data eich hun; 
  • I ni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • Er mwyn i'ch data gael eu 'dileu' (mewn rhai amgylchiadau); 
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Gwybodaeth Gyswllt

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. 

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: https://cy.ico.org.uk/ 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd hwn neu am sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data:  

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru 

Straeon Perthnasol