Er bod y cynllun hwn yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ac yn egluro'r blaenoriaethau ar gyfer Croeso Cymru, dim ond un o nifer o bartneriaid ydym ni sydd â rhan i'w chwarae er mwyn cyflawni'r nodau hyn. O ganlyniad, nid ydym wedi datblygu'r cynllun hwn ar ein pennau ein hunain. Mae wedi'i lunio drwy sgwrs eang â'r diwydiant a rhan-ddeiliaid.

Mae'r cynllun wedi'i lywio gan dueddiadau hirdymor sy'n dylanwadu ar dwristiaeth yn fyd-eang, o'r modd y mae disgwyliadau ymwelwyr yn newid, i'r ffactorau mawr sy'n llywio'r ffordd y mae pobl yn teithio. Yn ei hanfod, mae hefyd yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o berfformiad presennol yr economi ymwelwyr yng Nghymru, ei ragolygon a'i botensial ar gyfer twf yn y dyfodol.

Uchelgais a nodau.

  • Ein huchelgais yw tyfu twristiaeth er budd Cymru. Mae hyn yn golygu cyflawni twf economaidd sy'n sicrhau budd i bobl a lleoedd gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol a buddiannau iechyd.
  • Prif nod ein cynllun fydd defnyddio'r potensial ar gyfer twristiaeth i wella llesiant economaidd ehangach Cymru.

Ein partneriaid pwysicaf yn hyn oll yw busnesau twristiaeth yng Nghymru. Mae twristiaeth yn sector byd-eang hynod gystadleuol ac mae ein llwyddiant yn y dyfodol yn dibynnu'n llwyr ar fuddsoddiad, arloesedd a chydweithrediad parhaus gan y sector preifat. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu'r ffordd y byddwn yn eich helpu chi i wneud i hynny ddigwydd, ac rydym yn gofyn i'r diwydiant gefnogi ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Gallwch weld y cynllun gweithredu twristiaeth diweddaraf a gwybodaeth berthnasol arall yma.

Lansio'r cynllun gweithredu ar dwristiaeth yn Rest Bay, Porthcawl ym mis Chwefror 2020
Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth 2020

Straeon Perthnasol

Edrych ar draws marina Aberdaugleddau tuag at gychod, podiau glampio sy’n arnofio, ac adeiladau

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw