Ers 2016 rydyn ni wedi bod yn hyrwyddo Cymru drwy gyfres o themâu, gan gynnwys y blynyddoedd canlynol:

Mae'r strategaeth yn cael ei gyrru gan Croeso Cymru mewn ymateb i heriau allweddol sy’n ei wynebu wrth hyrwyddo Cymru fel cyrchfan. Mae'r blynyddoedd thematig yn helpu ein huchelgais hirdymor i ddatblygu brand cryfach a mwy diffiniedig yng Nghymru ac yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar fuddsoddi ac arloesi yn y maes twristiaeth gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a'u gwerth bob blwyddyn. 

Yn y dolenni uchod byddwch yn gweld canllawiau ar gyfer y diwydiant gan gynnwys awgrymiadau a’r holl wybodaeth sydd ei hangen i gymryd rhan yn y thema.

2025Croeso2025: Blwyddyn Croeso

Bydd Croeso 25 yn lansio ym mis Ionawr 2025 ac yn nodi'r nesaf mewn cyfres lwyddiannus o flynyddoedd thema dan arweiniad Croeso Cymru.  Ein hymgyrch farchnata flaenllaw ar gyfer Cymru, Hwyl, a fydd yn cael ei chyflwyno o dan ymbarél y flwyddyn thematig, byddai’n canolbwyntio ar y teimladau o hwyl a llawenydd y gallwch eu profi "Yng Nghymru yn unig".

Byddwn yn gwahodd rhanddeiliaid o fewn y diwydiant i weithio'n agos gyda ni unwaith eto a gweiddi'n uwch fyth am ein Croeso Cymreig unigryw a dathlu ein profiadau, cynhyrchion, cyrchfannau a diwylliant eiconig, sydd i'w gweld yng Nghymru yn unig.

Dewiswyd Croeso fel thema yn rhannol oherwydd adborth ac mae’n: -

  • Thema y gall unrhyw randdeiliad (mewnol ac allanol, preifat, trydydd sector, y sector cyhoeddus) ei chynnwys (tebyg i Llwybrau Cymru)
  • Neges gref sy’n gweithio i’r defnyddiwr, y fasnach deithiau, cynulleidfaoedd cyfryngau a gweithgareddau
  • Sylfaen i'w defnyddio yn gysylltiedig â digwyddiadau mawr ac uchafbwyntiau gweithgarwch y cyfryngau
  • Perffaith at dynnu sylw at Naws am Le a'n Croeso unigryw

Am fwy o fanylion am Croeso 25 ac ymgyrch Hwyl, gwyliwch y weminar Marchnata Croeso Cymru a gynhaliwyd 17 Hydref.

2023YoT2023: Llwybrau Cymru.

Yn 2023 gwnaethom wahodd ymwelwyr a thrigolion Cymru i grwydro llwybrau epig Cymru, dros ddwy flynedd, wrth i ni ddangos yr hyn sydd ar gael - gan ddefnyddio llwybrau fel sbardun i brofiadau cyffrous a chyfleoedd newydd. 

Mae'r ymgyrch yn annog pobl i wneud y canlynol

  • dod o hyd i drysorau anghofiedig, 
  • croesawu teithiau o'r synhwyrau 
  • gwneud atgofion ar hyd llwybrau o amgylch atyniadau, gweithgareddau, tirweddau ac arfordiroedd. 

O Monet (Amgueddfa Cymru) i'r mynydd, o'r arfordir i'r cestyll, mae llwybrau i bob busnes eu dilyn, a llawer i ymwelwyr ei fwynhau.

Gan adeiladu ar lwyddiant ein pum thema flaenorol, mae "Llwybrau Cymru" yn anelu at ysbrydoli ein rhanddeiliaid, ein partneriaid a'r cyfryngau, i ddefnyddio'r thema fel ffordd o arddangos yr ystod lawn o gynnyrch sydd gan Gymru i'w gynnig.

Cafodd thema’r ymgyrch hon ei lansio hefyd yn dilyn Hydref hynod o broffil uchel a chyffrous i Gymru yn 2022, gyda Chwpan y Byd FIFA a misoedd lawer o weithgareddau (gan gynnwys teledu a fideo ar alw) gydag ymgyrch gwyliau'r Hydref a'r Gaeaf.  

Ysbrydoliaeth ac Adnoddau

Mae canllawiau “Llwybrau”, logo, canllawiau logo a delweddau o ansawdd uchel ar gael i bartneriaid yn y diwydiant eu lawrlwytho a’i defnyddio ar gyfer marchnata Llwybrau: Cymerwch olwg a'u lawrlwytho ar Assets: Llwybrau | Visit Wales.

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr y diwydiant

Tanysgrifiwch i gylchlythyr Croeso Cymru ar gyfer y diwydiant twristiaeth er mwyn derbyn y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf.

Straeon Perthnasol

Edrych ar draws marina Aberdaugleddau tuag at gychod, podiau glampio sy’n arnofio, ac adeiladau

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw