Er nad oedd modd cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ystod pandemig Covid, parhaodd Croeso Cymru i gyfarfod â rhanddeiliaid yn aml drwy ddulliau rhithwir. Roedd y gweminarau ar gyfer y diwydiant yn amhrisiadwy i Croeso Cymru ac i'n rhanddeiliaid fel ei gilydd, ac maen nhw bellach yn rhan o'r digwyddiadau craidd rydym yn eu cynnal er mwyn ymgysylltu â'r diwydiant.
Bydd yr holl ddigwyddiadau y bwriedir eu cynnal yn y dyfodol yn cael eu rhestru yma unwaith y byddant wedi cael eu cadarnhau. Yn y cyfamser, ewch ati i weld sut y gallwch weithio gyda Croeso Cymru, gan gynnwys tanysgrifio i gael ein cylchlythyrau, a dysgu sut i gymryd rhan ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.
2026 Digwyddiadau wyneb yn wyneb
Galluogi eich busnes twristiaeth i elwa ar AI
- Gorffennaf-Hydref 2026 - AI Ymarferol: Gweithdy ymarferol am ddim | Diwydiant
Ymunwch â’n gweithdai wyneb yn wyneb ledled Cymru i ddysgu ffyrdd ymarferol syml i chi ddefnyddio offer AI i greu cynnwys, cysylltu â chwsmeriaid, cryfhau eich presenoldeb ar-lein a helpu i droi ymholiadau'n archebion.
Dywedodd y busnesau a fuodd yn y gweithdy o'r blaen iddyn nhw weld cynnydd o 63% ar gyfartaledd yn y traffig organig â'u gwefan.
Darganfyddwch raglen hyfforddi ymarferol ar-lein rhad ac am ddim sydd wedi'i chynllunio i helpu busnesau twristiaeth Cymru i ddenu cwsmeriaid newydd a chynyddu archebion a gwelededd. Trwy gyfres o sesiynau dan arweiniad arbenigwyr, byddwch yn dysgu sut y gall sianeli dosbarthu digidol a sianeli'r diwydiant teithio eich helpu i gyrraedd marchnadoedd newydd a'i gwneud hi'n haws i ymwelwyr ddod o hyd i'ch busnes a gosod archebion.
P'un a yw'r pynciau hyn yn rhai newydd i chi neu rydych chi'n edrych i gryfhau eich ffordd o weithio ar hyn o bryd, mae'r rhaglen yn cynnig canllawiau clir, y gallwch eu rhoi ar waith ar unwaith i'ch busnes.
Cyfle mentora un-i-un
Gall busnesau sy'n cwblhau'r rhaglen hyfforddi hefyd fod yn gymwys i wneud cais am gyfle mentora un-i-un, gan ddarparu cymorth wedi'i deilwra i helpu i droi'r hyn a ddysgwyd yn gamau gweithredu.
2025 Gweminarau
Hydref 2025
Cyfres o weminarau diwydiant sydd wedi'u cynllunio i gefnogi a llywio busnesau twristiaeth ledled Cymru. Bydd y sesiynau ar-lein hyn yn cynnig mewnwelediadau ymarferol ac arweiniad i'ch helpu i gynllunio ar gyfer y misoedd i ddod. Recordiadau ar gael nawr:
- 14 Hydref 2025 - Darganfyddwch Bŵer Mewnwelediadau Twristiaeth gyda Croeso Cymru
- 6 Tachwedd 2025 - Cymru ar lwyfan y byd: Pŵer Digwyddiadau Mawr
- 13 Tachwedd 2025 - Diweddariad marchnata Blwyddyn Croeso ac ymgyrch Hwyl
- 4 Rhagfyr 2025 - Datgloi Pŵer Digwyddiadau: Cyfle drwy gydol y flwyddyn
Gweminarau eraill
- 21 Mai 2025 - Sut i ddatgloi cyfleoedd twristiaeth gwariant uchel