Roedd mor dda gweld bron i 300 o randdeiliaid a ymunodd â ni ar gyfer gweminar marchnata Croeso Cymru a gynhaliwyd ar 17 Hydref. Diolch.

Mae recordiad o'r weminar, a dolenni defnyddiol eraill o'r sesiwn, bellach ar gael isod.

Cafwyd y newyddion diweddaraf ar:

  • Weithgaredd marchnata diweddar a chyfredol (defnyddwyr a'r diwydiant teithio)
  • Ein gwefan newydd ar gyfer y diwydiant
  • Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025

Fe wnaethom hefyd rannu ein cynlluniau ar gyfer Croeso 25 a buom yn siarad am yr ymgyrch farchnata flaenllaw ar gyfer Cymru, Hwyl, a fydd yn cael ei chyflwyno o dan ymbarél y flwyddyn thematig.

Bydd ymgyrch Hwyl yn lansio ym mis Ionawr 2025 ac yn canolbwyntio ar y teimladau o hwyl a llawenydd y gallwch eu profi "Yng Nghymru yn unig". Bydd yn anelu at:-

  • Ddangos pethau unigryw, rhaid eu gwneud y gallwch eu profi yng Nghymru yn unig.
  • Dod â phethau'n fyw mewn ffordd sy'n helpu Cymru i sefyll allan o'r dorf ac yn creu sgwrs.
  • Creu Cymru yn gyrchfan “rhestr bwced”.

Yn ogystal â theledu/ffrydio, partneriaethau digidol a chyfryngau y talwyd amdanynt, bydd “Wal Hwyl” yn ymddangos ar hafan Croeso Cymru  pan fydd yr ymgyrch yn lansio ym mis Ionawr 2025.  Bydd y "wal" yn llawn adegau o hwyl a llawenydd - hwyl - ledled Cymru ac wrth i'r ymgyrch fynd rhagddi, byddwn yn gofyn i ymwelwyr ein tagio fel ei bod yn cynnwys pobl yn cael hwyl yng Nghymru.  Bydd cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn ymddangos gydol y flwyddyn, ond i ddechrau, h.y. yn y lansiad, bydd Croeso Cymru yn defnyddio rhai o'n hoff bostiadau hwyliog ein hunain.

Os hoffech i'ch busnes neu'ch cyrchfan gael ei ystyried i fod yn rhan o gynnwys lansio’r Wal Hwyl, e-bostiwch Croeso@llyw.cymru – y cyfan sydd ei angen arnom yw enw cyswllt, e-bost, ac enw eich busnes, ac yna byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod pa fath o fideo neu bostiad yr ydym yn chwilio amdano a'ch helpu i gael eich cynnwys.

Edrychwch ar wefan y diwydiant yn rheolaidd wrth i ni barhau i ychwanegu adnoddau defnyddiol ar gyfer cymryd rhan yn Croeso 25: Ymgyrchoedd Blwyddyn Thematig | Cymryd rhan | Dywydiant Croeso Cymru

 

Recordiad o'r weminar - 17 Hydref 2024

Gweminar – gwybodaeth ddefnyddiol

Straeon Perthnasol

Grŵp yn bwrddio cwch Dale Princess ym Martin’s Haven, Sgomer, Sir Benfro.

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw