VisitBritain yw Asiantaeth Twristiaeth Genedlaethol y DU, corff cyhoeddus anadrannol a ariennir gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).
Mae siop VisitBritain yn blatfform e-fasnach ar gyfer VisitBritain ac yn endid masnachol. Mae'n gweithio gyda dros 400 o gyflenwyr o bob rhan o'r DU ac yn gwerthu eu hatyniadau a'u profiadau ar wefan bwrpasol. Yn wahanol i weddill VisitBritain, mae siop VisitBritain yn gweithio ar sail comisiwn ac yn gwneud elw sy'n cael ei ailfuddsoddi mewn marchnata domestig a rhyngwladol, ynghyd â chynnal digwyddiadau ar gyfer y sector teithio fel 'Showcase Britain'. Mae VisitBritain yn cynnal gweithgareddau marchnata tymhorol, thematig a rhanbarthol sy'n hyrwyddo cynhyrchion perthnasol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r gallu i dderbyn archebion drwy'r siop hefyd yn golygu y gall busnesau elwa ar fod yn rhan o ymgyrchoedd cenedlaethol mawr fel Ymgyrchoedd y Loteri Genedlaethol sydd wedi cael eu cynnal mewn partneriaeth â Camelot.
Mae VisitBritain wedi cynnal dwy ymgyrch hyrwyddo ar y cyd â Camelot lle roedd chwaraewyr yn gallu defnyddio tocyn Lotto i hawlio taleb gwerth £25 i'w defnyddio mewn cannoedd o atyniadau twristiaeth gorau'r DU. Mae'r ymgyrchoedd wedi bod yn hynod lwyddiannus, gyda busnesau'n cofnodi cynnydd enfawr mewn gwerthiannau yn ystod y cyfnod.
Mae ymgyrchoedd a gynhelir gan VisitBritain a'r siop yn rhoi cyfle i gyflenwyr wneud y canlynol:
- ysgogi gwerthiannau a thargedu cwsmeriaid domestig a rhyngwladol newydd;
- cyrraedd hyd at ddwy filiwn o gwsmeriaid posibl ledled Prydain a Gogledd Iwerddon drwy gronfa ddata defnyddwyr siop VisitBritain;
- annog ymwelwyr i ddychwelyd yn uniongyrchol;
- cynyddu gwariant achlysurol yn eich busnes pan fydd cwsmeriaid yn cael cyfle i ymweld.
Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) yw partner technoleg siop VisitBritain ac mae'n sianel gwerthu / dosbarthu sydd ar gael i optio i mewn iddi drwy blatfform TXGB. Gall TXGB helpu cyflenwyr twristiaeth i gontractio a chysylltu eu cynhyrchion, eu hargaeledd a'u prisiau ag ystod amrywiol o ddosbarthwyr ar yr un pryd, a rheoli hyn mewn un lle. Caiff cyflenwyr ymuno am ddim ac mae wedi cael ei drwyddedu i Gymru gan Croeso Cymru / Llywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar wefan TXGB neu anfonwch ymholiad drwy ein ffurflen ar-lein.