Beth yw TXGB?

Mae TXGB (Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr) yn blatfform digidol sy’n cysylltu cyflenwyr llety, atyniadau, profiadau a theithiau â rhagor o gwsmeriaid.

Mae’n galluogi cyflenwyr twristiaeth i gontractio a chysylltu eu cynhyrchion, eu hargaeledd a’u prisiau ag ystod amrywiol o sianeli gwerthu ar yr un pryd, a hynny mewn un man.

Ymunwch unwaith i ddefnyddio nifer o sianeli gwerthu ac amrediad cynyddol o ddosbarthwyr arbenigol a gwefannau cyrchfannau.

Cewch ymuno â TXGB am ddim. Mae ymuno’n syml ac nid oes unrhyw gostau ymlaen llaw na chost gysylltu. Y cyfan mae angen ichi ei wneud yw talu ffi archebu yn ogystal â’r comisiwn i’r dosbarthwr rydych wedi ei ddewis (mae llawer o ddosbarthwyr yn cynnig comisiwn 0%) am unrhyw archebion rydych yn eu cael.

Mae Croeso Cymru / Llywodraeth Cymru wedi trwyddedu platfform TXGB Cymru Wales i’w wneud ar gael i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae TXGB eisoes yn cael ei ddefnyddio gan Visit Britain, Visit England a Tourism Northern Ireland. Mae wedi’i hen sefydlu yn Awstralia ac mae llawer o wledydd eraill wrthi’n ei drwyddedu.

Sut mae TXGB yn gweithio?

Gall cyflenwyr gysylltu â TXGB drwy system archebu gyfredol, system rheoli eiddo, rheolwr sianeli neu drwy’r offeryn llwytho cynhyrchion sydd ar gael am ddim.

Os nad oes gennych wefan ar hyn o bryd, neu os nad oes modd archebu gyda chi ar-lein ar hyn o bryd, mae offeryn llwytho cynhyrchion TXGB, sydd ar gael am ddim, yn eich galluogi i ddechrau gwerthu ar-lein.

Rhesymau dros gofrestru gyda TXGB

  • sianeli talu uniongyrchol – derbyn taliadau’n uniongyrchol, ar adeg y gwerthu. Mae hyn yn diogelu eich llif arian a data cwsmeriaid, wrth sicrhau bod archebion yn cael eu gwneud yn unol â’ch telerau eich hun;
  • mae ymuno’n hawdd ac nid oes unrhyw gostau ymlaen llaw – Cewch gysylltu â TXGB drwy eich systemau archebu presennol, neu ddefnyddio ein offeryn gwerthiannau mewnol, TXLoad;
  • hyblygrwydd – chi sy’n dewis y partneriaethau gwerthu / dosbarthu gorau ar gyfer eich busnes. Cewch optio i mewn neu allan o’r sianeli perthnasol ar eich dangosfwrdd personol eich hun;
  • dim archebion, dim ffi – dim ffioedd misol na ffioedd tanysgrifio. Dim ond ffi archebu 2.5% i TXGB, yn ogystal â chomisiwn i’r sianeli gwerthu rydych wedi’u dewis pan fydd yr archeb wedi’i gwneud;
  • manteisio i’r eithaf ar gostau comisiwn – mynediad at amrediad eang o sianeli unigryw am gomisiwn isel neu ddim comisiwn ochr yn ochr â brandiau enwog;
  • rhannu data dwyffordd mewn amser real – Mynediad at amrediad eang o sianeli unigryw am gomisiwn isel neu ddim comisiwn ochr yn ochr â brandiau enwog.

Ymgyrchoedd

Mae bod yn rhan o TXGB yn eich galluogi i optio i mewn i ymgyrchoedd rhanbarthol a chenedlaethol. TXGB oedd y platfform a ddefnyddiwyd ar gyfer gwerthu a phrynu cynhyrchion twristiaeth adeg Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd yn 2021, ac i gyflenwi cynhyrchion atyniadau ar gyfer  Ymgyrch Diwrnodau Allan y Loteri Genedlaethol a gyflwynwyd gan Visit Britain. Roedd hon yn ymgyrch lwyddiannus mewn partneriaeth â Camelot a Visit Britain lle roedd cwsmeriaid y loteri’n gallu prynu taleb £25 i’w gwario ar unrhyw atyniad neu weithgaredd, neu yn siop Visit Britain. Roedd y cynllun yn llwyddiannus iawn gyda busnesau yn cofnodi gwerthiannau uchel.   

Fideo hyrwyddo a astudiaethau achos

Fideo Hyrwyddo TXGB

Gweld nifer o astudiaethau achos o fusnesau ledled y DU sydd wedi defnyddio TXGB yn llwyddiannus.

Rhaeadrau Pontarfynach (sy’n defnyddio TXLoad)
Letteran Lodges (sy’n defnyddio TXLoad)
Adventure Valley (sy’n defnyddio Digitickets)

Mae hefyd amrediad o astudiaethau achos ar gael ar Wefan TXGB.

Sut mae cael rhagor o wybodaeth?

Os ydych yn fusnes twristiaeth yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cymryd rhan neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cwblhewch y ffurflen datgan diddordeb a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi. 

Straeon Perthnasol