Sut i gysylltu â ni

Rhowch wybod inni os ydych chi’n gweithio gyda’r Diwydiant Teithio, neu eisiau gwneud hynny, drwy gysylltu â’r tîm er mwyn ein gwneud ni’n ymwybodol o’ch cynnyrch neu wasanaeth.

Ymddangos ar ein gwefan

Gwnewch yn siŵr bod eich cynnyrch wedi’i restru yn ein cronfa ddata o gynhyrchion twristiaeth er mwyn ymddangos ar ein gwefan i’r Diwydiant Teithio, a sicrhewch eich bod yn cynnwys cymaint o wybodaeth berthnasol ar gyfer y farchnad hon â phosibl, gan gynnwys dolenni i wefannau, cyfraddau arbennig, delweddau cyfredol a niferoedd ystafelloedd / grwpiau. Bydd hyn yn helpu darpar brynwyr i ddod o hyd i’ch cynnyrch yn rhwydd.

Rhannu’ch newyddion

Rhannwch eich newyddion â ni a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau er mwyn iddynt ymddangos ar dudalennau newyddion ein gwefan, ein bwletinau e-newyddion a’n diweddariadau cynnyrch. Pan fyddwn ni’n datblygu taflenni gwybodaeth ac amserlenni ar gyfer y farchnad, gallwn ni eich cynnwys chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon yr wybodaeth ymhell ymlaen llaw i newyddioncynnyrch@llyw.cymru oherwydd bod y Diwydiant Teithio’n gweithio o leiaf flwyddyn ymlaen llaw. Byddwn ni hefyd yn rhannu diweddariadau perthnasol â threfnwyr teithiau, cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus, VisitBritain ac adrannau eraill o fewn Croeso Cymru.

Y cyfryngau cymdeithasol

Mae gennym gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’u cynllunio’n benodol i dargedu a siarad â’r Diwydiant Teithio. Rhowch wybod inni os oes gennych negeseuon penodol i’w rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y Diwydiant Teithio drwy ein tagio ar y sianeli perthnasol:
X
Facebook 
LinkedIn

Byddwn ni’n rhannu negeseuon perthnasol ar draws y sianeli hyn. 

Rhoi sylw i’ch busnes

Mae ymweliadau ymgyfarwyddo yn ein galluogi i ddatblygu gwybodaeth a perthnasoedd gyda chyflenwyr yng Nghymru a phrynwyr. Mae’n brofiad cadarnhaol i brynwyr – mae Cymru’n gwerthu ei hun! 

Cefnogwch ni pan fyddwn ni’n dod â threfnwyr teithiau / asiantaethau teithio ar ymweliadau ymgyfarwyddo â Chymru, sy’n helpu i greu rhaglenni gwell, a mwy ohonynt. I gael y mwyaf allan o gefnogi ymweliadau ymgyfarwyddo, mae’n bwysig croesawu’r prynwyr a darparu gwybodaeth berthnasol iddynt am eich busnes. Mae hefyd yn syniad da i gyfathrebu â’r prynwyr ar ôl eu hymweliad. 

Ymuno â ni mewn digwyddiadau

Rydyn ni’n mynychu gweithdai ac arddangosfeydd B2B (Busnes i Fusnes), y mae llawer ohonynt yn cynnig cyfleoedd i’w mynychu fel partner. Ymunwch â ni mewn digwyddiad – mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.  

Bod yn aelod o gymdeithas twristiaeth

Mae Croeso Cymru yn aelod o’r canlynol:

UKinbound (UKi)
European Tour Operators Association (ETOA)
Coach Tourism Association (CTA)
Association of Group Travel Organisers (AGTO)
International Association of Golf Tour Operators (IAGTO)
United States Tour Operators Association (USTOA)
Adventure Travel Trade Association
(ATTA).

Mae hon yn ffordd ddefnyddiol o gyrraedd prynwyr a dargedir yn uniongyrchol.

Straeon Perthnasol