Pam y gallai’r Diwydiant Teithio fod yn sector pwysig i chi

Diffiniad y Diwydiant Teithio

Mae’r Diwydiant Teithio (neu’r Travel Trade yn Saesneg) yn derm cyffredinol ar gyfer busnesau trefnu fel cwmnïau teithio, asiantaethau teithio a chyfanwerthwyr sy’n gyswllt rhyngoch chi, diwydiant twristiaeth Cymru (h.y. darparwyr llety, atyniadau a darparwyr cludiant) a’r defnyddiwr (h.y. y cwsmer).

Prynwyr a gwerthwyr eich cynnyrch yw’r Diwydiant Teithio, sydd wedyn yn gwerthu teithiau, gwyliau a phrofiadau yn uniongyrchol i’r cwsmer neu brynwyr eraill.

I lawer o bobl dramor sy’n dod ar wyliau, mae’r Diwydiant Teithio’n chwarae rhan bwysig o ran darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i allu cynllunio trip a gall gael dylanwad anferth ar ble maen nhw’n mynd ar wyliau.

Pwy sy’n cael gweithio gyda’r Diwydiant Teithio?

Unrhyw un! Cyn belled â’ch bod chi’n gallu cynnig cyfraddau arbennig i fusnesau teithiau! Yr enw cyffredin ar y rhain yw cyfraddau net / cyfraddau comisiwn / cyfraddau FIT (teithio cwbl annibynnol) / cyfraddau grŵp.  Mae’n fyth mai dim ond llety sydd â llawer o stafelloedd neu atyniadau sy’n gallu darparu ar gyfer grwpiau mawr sy’n gallu elwa ar y Diwydiant Teithio. Mae busnesau teithiau ar-lein yn dwyn cyfran fwyaf o’r farchnad, er enghraifft mae pecynnau arbenigol ar Travelzoo, Virgin Experience Days a Groupon yn blatfformau y gall unrhyw fusnes sy’n fodlon gweithio gyda’r farchnad fanteisio arnyn nhw.

Ar eich gwefan, mae’n bwysig rhoi gwybod i'r Diwydiant Teithio eich bod yn hapus i weithio gyda nhw, a rhoi gwybod iddynt am yr hyn sydd gennych chi i’w gynnig.

Pwysigrwydd y Diwydiant Teithio

Yn ôl ein hymchwil i’r Diwydiant Teithio yn 2023:  

  • ar sail ein sampl ymchwil, gwnaeth y Diwydiant Teithio greu gwerth rhyw £33 miliwn o fusnes dros nos i Gymru yn 2023;
  • gwnaeth cwmnïau teithio gyflwyno rhyw 106 o deithiau neu raglenni newydd, diolch i’r cydweithio â Croeso Cymru, yn 2023;
  • mae 59% o’r cwmnïau yn awyddus i ddatblygu/gwerthu mwy o gynnyrch Cymru.

Felly, yn ogystal â Croeso Cymru’n marchnata’n uniongyrchol i gwsmeriaid, mae gennym dîm hefyd sy’n marchnata ac yn gweithio â’r Diwydiant Teithio. Cyfeirir at hyn hefyd fel gweithio Busnes i Fusnes neu B2B.

Prif amcanion gweithgareddau tîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru yw:

  • cynyddu nifer y cynnyrch a’r gwasanaethau o Gymru a gynhwysir yn y teithiau a’r rhaglenni a werthir i asiantaethau a chwmnïau teithio;
  • gwella’r rhwydwaith dosbarthu drwy weithio â chyfanwerthwyr a chwmnïau gwyliau;
  • cynyddu’r ymwybyddiaeth o Gymru fel cyrchfan i dwristiaid er mwyn annog y Diwydiant Teithio i ddewis Cymru dros gyrchfannau eraill mewn marchnad gystadleuol.
Dyn gyda sach gefn yn edrych ar draws bryniau i ddŵr Craig Goch yng Nghwm Elan.
Craig Goch, Cwm Elan

Manteision

Chwe mantais i chi a’ch busnes o weithio gyda’r Diwydiant Teithio

1. Ehangu’ch busnes

Mae’n hawdd meddwl weithiau bod y Diwydiant Teithio’n ceisio dwyn eich busnes oddi arnoch chi. Dyna fyth arall! Y cyfan yw’r Diwydiant Teithio yw cyfrwng arall i’ch helpu i gael busnes newydd. Fel arfer, ni fyddan nhw’n gofyn i chi am ffi ymlaen llaw. Gofynnir i chi yn lle hynny i gynnig cyfraddau net/prisiau disgownt da y gall y busnesau teithiau ychwanegu eu comisiwn ato.

2. Cysylltu â chwsmeriaid newydd

Mae’n anodd cyrraedd marchnadoedd weithiau ac mae gweithio gyda chwmnïau teithio yn golygu y gallai’ch busnes gael ei hyrwyddo mewn llefydd rydych wedi’i chael yn anodd eu cyrraedd o’r blaen oherwydd eich capasiti gweinyddu a marchnata, neu oherwydd eich diffyg ymwybyddiaeth o’r farchnad.

3. Mwy o archebion

Os ydych eisoes yn gwerthu cymaint ag y medrwch ei werthu , yna rydyn ni’n falch iawn drosoch chi. Os nad ydych chi, efallai’ch bod yn meddwl y daw’ch cwsmeriaid atoch chi’n uniongyrchol ac nad oes angen i chi weithio gyda’r diwydiant i gael rhagor o archebion. Bydd cwsmeriaid newydd, ac yn bendant gwsmeriaid tramor yn aml iawn yn bwcio drwy asiant neu gwmni teithiau yn gyntaf. Drwy bennu prisiau fydd yn gadael i’r cwmni wneud elw neu drwy gynnig disgownt, gallwch werthu mwy a chynyddu nifer yr ymwelwyr neu lenwi llefydd gwag. Yn aml, gall trefnwyr teithiau ddod â chwsmeriaid ichi yn ystod cyfnodau tawel.

4. Talu am ganlyniadau’n unig

Er mwyn i’r Diwydiant Teithio lwyddo, rhaid i’r cwmni sy’n gwerthu’ch cynnyrch neu wasanaeth hefyd wneud elw. Fel arfer, dim ond comisiwn y bydd angen i chi ei dalu, neu gynnig disgownt pan fydd yn gwerthu’ch cynnyrch. Mae’n gyfle i’ch cynnyrch gael ei hyrwyddo i farchnad fwy heb i chi orfod talu fawr ddim mwy am hynny.

5. Ffurfio perthynas tymor hir Daw’r Diwydiant Teithio i’ch adnabod a theimlo’n hyderus y gwnewch chi ddarparu cynnyrch da’n gyson. Bydd yn dal i hyrwyddo a gwerthu’ch cynnyrch flwyddyn ar ôl blwyddyn neu tan i alw’r farchnad awgrymu’n wahanol.

6. Llai o ffwdan!

Y Diwydiant Teithio yw’r ddolen rhyngoch chi a’ch cwsmeriaid tan eu bod yn cyrraedd wrth eich drws. Maent yn delio â chwestiynau, yr ochr ariannol ac unrhyw broblemau y daw’r cwsmer ar eu traws. Maen nhw hefyd yn gallu trefnu holl elfennau eraill o’r gwyliau i’r teithiwr. Mae gweithio gyda threfnwyr teithiau i ymwelwyr rhyngwladol yn rhoi’r cyfle i’ch busnes gael ymwelwyr rhyngwladol, wrth i’r busnes gael ei wneud yn y DU, yn Saesneg, gyda thaliadau mewn sterling. Mae gan drefnwyr teithiau i ymwelwyr rhyngwladol sylfaen gleientiaid fyd-eang er efallai y bydd rhai yn arbenigo mewn marchnadoedd penodol, e.e. Gogledd America, Ewrop neu Asia, sy’n eich helpu i dargedu marchnadoedd penodol a hefyd yn eich galluogi i fanteisio ar eu cysylltiadau pan fydd archebion yn cael eu gwneud gyda chi.  

Straeon Perthnasol