Pwy yw’r Diwydiant Teithio?

Mae’r Diwydiant Teithio’n cynnwys sefydliadau amrywiol iawn sy’n gweithredu fel cyrff cyswllt o fewn y Diwydiant Teithio a thwristiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:

Asiantaethau Teithio

Yn trefnu teithiau a llety personol i deithwyr. Maen nhw’n darparu’r gwasanaethau i’r cwsmer ar ran y cyflenwyr fel cwmnïau awyrennau, gwestai, rheilffyrdd a threfnwyr teithiau pecyn e.e. Trailfinders.

Asiantaethau Teithio Ar-lein

Yn gweithio’r un ffordd â chwmnïau teithio, ond yn gwneud y cyfan ar-lein e.e. Expedia, booking.com, Viator.

Cwmnïau Rheoli Cyrchfannau (DMC)

Cwmnïau sydd â gwybodaeth leol arbenigol sy’n trin archebion ac yn trefnu teithiau, yn aml yn rhai sydd wedi’u creu’n arbennig.

Cyfanwerthwyr

Yn datblygu ac yn cyflenwi pecynnau teithiau a llety cynhwysol i asiantaethau teithio sy’n eu gwerthu ymlaen i’r cwsmer. Maen nhw’n aml yn gwerthu i elfennau eraill y Diwydiant Teithio fel cwmnïau teithio a chwmnïau coetsys a ddim yn uniongyrchol i’r cwsmer.

Trefnwyr Gwyliau Coetsys

Cwmnïau sy’n cynnig gwyliau coets dros nos a theithiau undydd yng Nghymru.

Trefnwyr Lleol (Ground Handlers)

Yn gwneud trefniadau i deithwyr tramor o’r funud y maen nhw’n cyrraedd y DU tan yr eiliad y maen nhw’n gadael. Mae’r gwaith yn golygu gofalu am brofiad yr ymwelydd tra’i fod yn dwrist rhyngwladol yn y wlad.

Trefnwyr Teithiau (Tour Operators)

Yn creu pecyn o’r holl elfennau sy’n ffurfio gwyliau neu daith a bydd hynny’n aml yn cynnwys amrywiaeth o gwmnïau eraill gan gynnwys cwmnïau coetsys, llety a gweithgareddau yn y gyrchfan e.e. TUI.

Trefnwyr teithiau i ymwelwyr rhyngwladol (Inbound Tour Operators)

Cwmnïau sy’n creu teithiau ar gyfer cwmnïau rhyngwladol (cynrychiolir llawer ohonynt gan UKinbound, cymdeithas trefnwyr teithiau i’r wlad).

Deall y Diwydiant Teithio gan VisitBritain  (Saesneg yn unig).

Rôl tîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru

Ein rôl ni yw dylanwadu ar brynwyr yn sector y Diwydiant Teithio yn fyd-eang i’w hannog i ddod â busnes i Gymru ac i weithio gyda busnesau yng Nghymru sydd am weithio gyda’r Diwydiant Teithio a chynnig cyfraddau’r Diwydiant Teithio (y mae modd ychwanegu comisiwn atynt). Mae hyn yn golygu sefydlu a chynnal perthnasoedd ag unigolion a chwmnïau sydd naill ai’n cynnwys Cymru yn eu rhaglenni neu sydd â’r potensial i wneud hynny. Yn fwy penodol, mae hyn yn cynnwys:

  • cefnogi busnesau yn y Diwydiant Teithio drwy sicrhau bod adnoddau ar gael iddynt y mae’n angenrheidiol iddynt eu cael i werthu Cymru i’w cwsmeriaid. Un o’r offerynnau cefnogol mwyaf yr ydym yn ei gynnig yw’r wefan i’r Diwydiant Teithio;
  • mynychu sioeau ac arddangosfeydd masnach B2B (Busnes i Fusnes), y mae llawer ohonynt yn cynnig cyfleoedd i’w mynychu fel partner;
  • trefnu ymweliadau ymgyfarwyddo ar gyfer y Diwydiant Teithio i samplu’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig. Bydd cymryd rhan mewn teithiau ymgyfarwyddo yn eich galluogi i gwrdd â busnesau teithiau a rhoi sylw i’ch cynnyrch. I gymryd rhan, bydd angen ichi ddangos eich bod yn gweithredu ym marchnad y Diwydiant Teithio a bod eich cynnyrch i’w weld ar y wefan i’r Diwydiant Teithio fel y bo’n briodol (h.y. wedi’i gynnwys yn y rhestr o gynhyrchion yn ein cronfa ddata o gynhyrchion twristiaeth);
  • llunio e-newyddlenni sy’n targedu sectorau perthnasol;
  • ymgysylltu’n weithredol â’r cyfryngau cymdeithasol – X, LinkedIn a Facebook;
  • cynnal gweminarau ochr yn ochr â chyrchfannau a busnesau o Gymru;
  • gweithio’n agos gyda VisitBritain a chymdeithasau’r diwydiant, gan gynnwys UKinbound (UKi), European Tour Operators Association (ETOA), y Coach Tourism Association (CTA), Association of Group Travel Organisers (AGTO), International Association of Golf Tour Operators (IAGTO), United States Tour Operators Association (USTOA), Adventure Travel Trade Association (ATTA);
  • darparu cefnogaeth busnes un i un, megis helpu i ddatblygu amserlenni pwrpasol i fusnesau teithiau a chyflwyno cysylltiadau er mwyn gwneud busnes â hwy. 

Os hoffech chi greu mwy o fusnes i gynyddu nifer eich ymwelwyr a llenwi lleoedd gwag, yna beth am weithio gyda’r sectorau teithiau hamdden?

Cysylltwch â’r tîm Diwydiant Teithio drwy anfon e-bost i traveltradewales@llyw.cymru

Dolenni defnyddiol

Gweminar ar y Diwydiant Teithio – Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd (Saesneg yn unig)

Mae llawer o fanteision i’w cael o weithio gyda’r Diwydiant Teithio 

Cysylltwch â ni os hoffech chi gael pecyn cymorth ar sut i gael y gorau allan o weithio gyda’r Diwydiant Teithio.

Straeon Perthnasol