Rydych chi wedi penderfynu archwilio’r posibilrwydd o weithio gyda’r Diwydiant Teithio. Beth nesaf?

Arddangoswch mewn un o’r sioeau mwyaf ar gyfer y Diwydiant Teithio gan gwrdd â phrynwyr yn uniongyrchol

Mae gan y Diwydiant Teithio ddetholiad helaeth o gynnyrch a chyrchfannau i ddewis ohonynt, felly mater i chi yw cwrdd a chynnal busnes gyda hwy. Cyn eich bod yn gwneud hynny, mae’n well nodi’r hyn yr ydych yn dymuno’i gael o’r farchnad a’r rhai y byddech o bosibl yn hoffi cynnal busnes gyda hwy.

Mae’r Diwydiant Teithio’n ymwneud â thyfu perthnasoedd gyda’r rhai a fydd yn gweddu i chi a’ch busnes. Ni fydd pob un ohonynt yn gweddu i chi ac nid chi fydd y cynnyrch cywir ar eu cyfer hwy bob amser. Dylech adnabod cysylltiadau posibl a’u gwahodd i siarad gyda chi. Cofiwch – mae’n well bod ag ychydig o berthnasoedd da sy’n eich cadw i fynd yn hytrach na llawer o berthnasoedd nad ydych yn eu datblygu.

Mae hefyd yn cymryd amser. Nid yw hon yn farchnad lle mae busnes yn digwydd dros nos. Cofiwch eu bod yn gweithio o fewn ffrâm amser hir. Yn nodweddiadol bydd busnesau teithiau yn Ewrop a’r Unol Daleithiau’n ceisio dysgu am gynnyrch newydd rhwng mis Medi a mis Mawrth drwy ymweld ag arddangosfeydd a mynd ar deithiau ymgyfarwyddo. Maent wedyn yn crynhoi’r wybodaeth hon yn ystod y gwanwyn a’r haf ac yn ei rhoi yn eu llyfryn newydd, gan weithio o leiaf 1 – 2 flynedd ymlaen llaw.

Mae yna amrywiaeth eang o ddigwyddiadau B2B (Busnes i Fusnes) sy’n targedu gwahanol ranbarthau a chynulleidfaoedd.

Cofrestrwch i gael e-newyddlen y diwydiant er mwyn cael y manylion recriwtio diweddaraf gennym ar gyfer digwyddiadau.

Yn gyffredinol, mae Croeso Cymru yn mynychu’r digwyddiadau canlynol, ac mae yna nifer o gyfleoedd i bartneru â ni. Mae rhagor o wybodaeth am bob digwyddiad isod. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un neu ragor o’r rheini sydd wedi’u rhestru, mae croeso ichi anfon e-bost i traveltradewales@llyw.cymru.

Britain & Ireland Marketplace (BIM), Llundain – Ionawr 

Gweithdy VisitBritain Ffrainc, gwahanol leoliadau - Chwefror (
Mae'r digwyddiad hwn yn digwydd bob yn ail flwyddyn)

Gweithdy VisitBritain Nordics, gwahanol leoliadau – Chwefror (Mae'r digwyddiad hwn yn digwydd bob yn ail flwyddyn)

Coach Tourism Association (CTA)gwahanol ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn  (aelodau yn unig)

ITB Berlin – Mawrth  

British Tourism & Travel Show (BTTS), Birmingham – Mawrth

AdventureELEVATE Adventure Travel Trade Association (ATTA), gwahanol leoliadau yng Ngogledd America – Gwanwyn (aelodau yn unig)

Student & Youth Travel Association (SYTA) Annual Conference, gwahanol leoliadau yng Ngogledd America Awst (aelodau yn unig).  

Destination Britain North America, gwahanol leoliadau yng Ngogledd America – Medi

UKinbound Annual Conventiongwahanol leoliadau yn y DU – Medi (aelodau yn unig)

World Travel Market London – Llundain, Tachwedd

USTOA Annual Conference & Marketplace, gwahanol leoliadau yng Ngogledd America – Rhagfyr (aelodau yn unig)

Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth am bob digwyddiad:

Pobl yn siarad ar stondin mewn arddangosfa Diwydiant Teithio.
ITB Berlin

Rhagor o wybodaeth am bob digwyddiad

AdventureELEVATE Adventure Travel Trade Association (ATTA)
Cynhadledd tri diwrnod yw hon a gynhelir mewn gwahanol leoliadau ar draws Gogledd America, gydag oddeutu 35 o gyfarfodydd a drefnir ymlaen llaw. Mae tua 250 o weithwyr teithio proffesiynol yn eu mynychu fel arfer. Mae’r prynwyr yn dod o bob rhan o’r byd ac yn gwerthu i sawl marchnad, ac maent eisoes yn gwerthu cynhyrchion yn y DU ac Iwerddon yn bennaf.

Britain & Ireland Marketplace (BIM)
Gweithdy undydd yw hwn a gynhelir yn Llundain ym mis Ionawr ac a drefnir gan European Tour Operators Association (ETOA) gyda thros 32 o apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw. Y prynwyr sy’n bresennol fydd y rhai sydd eisoes yn gwerthu yn y DU ac Iwerddon ac sy’n chwilio am gynnyrch newydd i’w werthu. Bydd prynwyr wedi’u lleoli yn y DU yn bennaf (neu bydd ganddynt swyddfeydd yma o leiaf). Bydd trefnwyr teithiau allan o wledydd eraill yn Ewrop a Gogledd America yn bresennol hefyd.

British Tourism & Travel Show (BTTS)
Hwn yw digwyddiad twristiaeth ddomestig mwyaf blaenllaw’r DU ac mae’n dod â hyd at 300 o arddangoswyr a hyd at 3000 o brynwyr a dargedir ynghyd – fe’i cynhelir ym mis Mawrth yn yr NEC yn Birmingham.  Cyfle i arddangos yn BTTS 2025.

Digwyddiadau Coach Tourism Association (CTA)
Mae’r Coach Tourism Association (CTA) yn cynnig arlwy o ddigwyddiadau rhwydweithio ar gyfer ei aelodau drwy gydol y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau yn y DU, ac mae’n canolbwyntio ar y farchnad ddomestig. Ymhlith y prif ddigwyddiadau mae Cynhadledd a Gweithdy’r CTA  a Digwyddiad Rhwydweithio’r Gwanwyn a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol y CTA. Mae’r ddau ddigwyddiad yn cynnwys gweithdai, siaradwyr a chyfleoedd rhwydweithio gyda chyflenwyr a threfnwyr gwyliau coetsys o’r DU.

Destination Britain North America
Digwyddiad tri-diwrnod yw hwn a gynhelir gan VisitBritain mewn gwahanol leoliadau ar draws Gogledd America gyda hyd at 45 o gyfarfod sydd a drefnir ymlaen llaw. Mae oddeutu 50 o brynwyr sydd eisoes yn gwerthu cynhyrchion yn y DU ac Iwerddon yn ei fynychu. Mae’r prynwyr yn dod o Ogledd America ac yn gwerthu i bobl yng Ngogledd America.

ITB Berlin
Mae ITB Berlin yn ddigwyddiad tri-diwrnod ac yn ffair fasnach dwristiaeth fwyaf yn y byd, a gynhelir ym mis Mawrth. Gyda thua 10,000 o arddangoswyr yn cynrychioli pob sector o'r diwydiant twristiaeth. Daw tua 25% o'r ymwelwyr masnach o wledydd heblaw'r Almaen (rhan fawr o'r marchnadoedd datblygol Dwyrain Ewropeaidd).

Cynhadledd Flynyddol Student and Youth Travel Association (SYTA)
Mae y Student and Youth Travel Association (SYTA) yn gynhadledd pum-niwrnod a drefnir gan SYTA ac a gynhelir mewn gwahanol leoliadau ar draws Gogledd America, gyda hyd at 114 o apwyntiadau a drefnir ymlaen llaw. Mae oddeutu 700 o brynwyr yn ei mynychu (ffigur sy’n debygol o barhau i dyfu) nad ydynt i gyd yn gwerthu y tu allan i Ogledd America, ond mae rhai yn ystyried ehangu i’r DU. Mae’r prynwyr yn dod o bob rhan o’r byd, ond yn dod o Ogledd America yn bennaf.

Cynhadledd Flynyddol UKinbound
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn ar agor i holl aelodau UKinbound, a hwn yw ei brif ddigwyddiad, gyda thua 250 o fusnesau sy’n ymwneud â theithiau i ymwelwyr rhyngwladol yn y DU. Mae’n cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod mewn gwahanol leoliadau ar draws y DU. Ymhlith uchafbwyntiau’r gynhadledd mae seminarau, cyfarfodydd busnes un i un, trafodaethau panel i drafod y prif broblemau y mae’r diwydiant teithiau i ymwelwyr rhyngwladol yn eu hwynebu a chyfleoedd rhwydweithio.

USTOA Annual Conference & Marketplace
Mae hwn yn ddigwyddiad pedwar diwrnod sy'n cael ei gynnal mewn gwahanol leoliadau ledled Gogledd America gan USTOA gyda thua 40 o gyfarfodydd a osodwyd ymlaen llaw. Fel arfer mae dros 800 o weithwyr proffesiynol teithio yn bresennol sy'n gwerthu i farchnadoedd ledled y byd ac yn bennaf eisoes yn gwerthu'r DU ac Iwerddon.

Gweithdy VisitBritain Ffrainc
Gweithdy undydd i gyflenwyr y DU gwrdd â phrynwyr o Ffrainc.

Gweithdy VisitBritain Nordics    
Gweithdy undydd yw hwn a drefnir gan VisitBritain bob blwyddyn ac a gynhelir mewn gwahanol leoliadau ar draws Sgandinafia. Mae’r digwyddiad yn cynnwys cyfarfodydd 10 munud, a archebir ymlaen llaw, sy’n cynnig y cyfle i gwrdd â threfnwyr o Norwy, Denmarc a Sweden. Mae yna hefyd gyfleoedd rhwydweithio ar gyfer cwrdd â chyflenwyr o Brydain a phrynwyr.  

World Travel Market
Cynhelir y digwyddiad blynyddol Busnes i Fusnes hwn ym mis Tachwedd yn ExCeL yn Llundain. Mae’n cyflwyno ystod eang o gyrchfannau a sectorau diwydiant i broffesiynolion teithio rhyngwladol a phroffesiynolion teithio o’r DU. Mae’n gyfle i uwch-weithwyr proffesiynol yn y diwydiant teithio, gweinidogion llywodraeth a’r wasg ryngwladol i rwydweithio, negodi, gwneud busnes a darganfod y farn a’r tueddiadau diweddaraf yn y diwydiant.

Darganfyddwch fwy am ddigwyddiadau VisitBritain ac i gofrestru eich diddordeb. (Saesneg yn unig).

Straeon Perthnasol