Yn 2023, croesawyd 897,000 o ymweliadau rhyngwladol â Chymru, y ffigur blynyddol trydydd orau erioed, a gwariwyd £458 miliwn. Ffynhonnell – Ffigurau'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol (IPS).
Os ydych wedi ennill eich plwyf yn y farchnad ddomestig ac yn awyddus i gyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol, hoffwn eich helpu i ddatblygu eich cynnyrch. Dyma'r manteision sy'n deillio o feddwl yn rhyngwladol:
- mynd i'r afael â natur dymhorol y diwydiant;
- mae ymwelwyr rhyngwladol ar gyfartaledd yn gwario mwy;
- mae amserau arwain hirach ar gyfer teithio rhyngwladol yn rhoi'r gallu ichi gynllunio ymlaen.
Ewch amdani!
- cofrestrwch eich cynnyrch am ddim ar ein gwefannau sy'n cael ei hyrwyddo ar draws y byd trwy y Gronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth.
Croeso Cymru (Cwsmeriaid)
Travel Trade (Diwydiant Teithio)
Meet In Wales (Cyfarfodydd, Cymhellion, Cynadleddau a Digwyddiadau; - rhannwch eich newyddion a'ch datblygiadau â ni drwy e-bostio newyddioncynnyrch@llyw.cymru. Byddwn yn rhannu diweddariadau perthnasol gyda'n cydeithwyr byd-eang, Diwydiant Teithio rhyngwladol, gwithredwyr Digwyddiadau Busnes, cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus a VisitBritain;
- cofrestrwch i gael ein cylchlythyr diwydiant;
- cewch gyfle i gwrdd â threfnyddion ac arddangos eich cynnyrch ar ein teithiau ymgyfarwyddo. I fod yn rhan, bydd angen ichi ddangos eich bod wrthi'n gweithio gyda'r Diwydiant Teithio a Digwyddiadau Busnes a bod eich cynnyrch yn ymddangos ar ein gwefannau;
- i gael mynediad i weithdai B2B, seminarau a digwyddiadau rhwydweithio dewch yn aelod o gymdeithasau fel UKinbound, European Tour Operators Association (ETOA) and International Congress & Convention Association (ICCA);
- Cewch gyfle i fynd i ddigwyddiad yn y DU neu dramor. Cadwch lygad am newyddion yn ein e-gylchlythyr ynglŷn â digwyddiadau sydd ar y gweill.
Mwy of fanylion ynglûn â digwyddiadau Diwydiant Teithio.
Mwy o fanylion ynglûn â digwyddiadau Diwydiant Digwyddiadau Busnes.
VisitBritain
Mae gan VisitBritain amrywiaeth eang o ddulliau i'ch helpu i farchnata eich cynnyrch yn rhyngwladol. Dyma ychydig ohonynt i'ch rhoi ar ben ffordd:
- ymunwch â digwyddiad VisitBritain (yn y DU neu dramor) i gael apwyntiadau un i un sydd wedi eu trefnu ymlaen llaw gyda phrynwyr rhyngwladol;
- gwerthwch eich cynnyrch y gall pobl ei archebu mewn dros 90 o wledydd drwy visitbritainshop.com;
- deall eich marchnad. Mynnwch gipolwg ar dudalennau VisitBritain am wybodaeth benodol am y farchnad a fydd yn eich helpu i ddeall ymwelwyr rhyngwladol - cysylltiadau ymchwil a mewnwelediadau;
- mae gan VisitBritain raglen o weminarau am farchnadoedd allweddol sy'n dod i mewn i'r DU. Gallwch gael mynediad at recordiadau a sut i gofrestru ar gyfer gweminarau sydd ar ddod ar eu gwefan;
- gallwch wybod mwy am baratoi eich busnes ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol ar wefan VisitBritain.
TXGB
TXGB (Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr) wedi’i hwyluso gan Croeso Cymru a VisitBritain ac yn cysylltu systemau archebu a ddefnyddir gan fusnesau twristiaeth y DU, neu'ch rhestr eiddo eich hun, gyda rhwydwaith byd-eang o ddosbarthwyr i ddefnyddwyr ar gyfer archebu. Mae'n galluogi busnesau o bob math i reoli eu prisio, argaeledd a chynnwys eu hunain mewn un lle i'w ddefnyddio ar draws sawl sianel werthu (gan gynnwys rhai heb gomisiwn), a allai helpu i gynyddu archebion.
Cyfryngau cymdeithasol
Cofiwch ddilyn:
@VisitWalesTrade
@MeetInWales
@croesocymru
@VisitBritainBiz
@VisitBritainPR
@VisitBritain
Defnyddiwch #TravelTradeWales Croeso Cymru neu #LoveGreatBritain VisitBritain yn y cyfryngau cymdeithasol.