Os yw'ch busnes wedi'i gysylltu â Chyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) mae dewis eang o sianeli dosbarthu ichi fanteisio arnyn nhw. Mae'r sianeli yn cynnwys cwmnïau adnabyddus yn ogystal â rhai mwy arbenigol a phenodol ar gyfer cynulleidfaoedd wedi'u targedu;  i wneud eich cynnyrch yn fwy gweladwy, i gyrraedd mwy o gwsmeriaid posibl a hybu gwerthiant. Bydd cwsmeriaid gobeithio yn dod yn ymwelwyr cyson.

Dyma ddetholiad o ddosbarthwyr a allai fod o ddiddordeb i chi:

Llety

Away with the Kids – mae'r safle hwn yn rhestru llety addas i blant mewn 400 o gyrchfannau.

Bidnstay – os ydych chi am lenwi ystafelloedd gwag, cysylltwch â Bidnstay lle gall ymwelwyr â'r wefan ocsiwn hon gynnig am lety gwag am bris cadw sefydlog, cudd.

Google Accommodation - Mae Google Hotel Ads yn cynnig ffordd syml a di-dâl o ymddangos ar restrau chwilio ar-lein.

Pethau i'w gwneud

Day Out with the Kids – Os ydych chi'n cynnig profiad, gweithgaredd neu atyniad sy'n addas i'r teulu cyfan, gallwch gael eich cynnwys ar wefan bwrpasol (gyda thros 35 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn) ar gyfer teuluoedd sy’n chwilio am 'Bethau i'w gwneud'. Mantais arall Day Out With The Kids yw bod gennych y gynulleidfa gymdeithasol fwyaf yn y DU (yn cyrraedd dros 10 miliwn bob mis ar Facebook yn unig) ar gyfer trefnu 'diwrnod allan' . Gallai busnesau cysylltiedig weld eu cynnyrch mewn dros 100 o ddeunyddiau marchnata newydd bob mis, gan ysbrydoli teuluoedd sy'n chwilio am rywbeth i'w wneud (dros 10 miliwn o ymweliadau'r mis ar Google).  

Days Out – safle poblogaidd ar gyfer cynnig adolygiadau a gwybodaeth ddibynadwy i ymwelwyr am bethau i'w gwneud mewn cyrchfannau.

Google Things to Do (0% comisiwn) – Os ydych chi'n cynnig teithiau, atyniadau a gweithgareddau, rhowch hwb i'ch proffil ar-lein trwy ymuno â Google Things To Do.  Mae defnyddwyr yn cael chwilio am brofiadau ac archebu trwy Google Search a Maps.

Lovetovisit.com – Dewiswch lovetovisit.com er mwyn i gwsmeriaid allu cael hyd i'ch digwyddiadau, theatrau, atyniadau a phrofiadau ac archebu'n hawdd.

VisitBritain Shop yw'r siop ar-lein ar gyfer asiantaeth dwristiaeth swyddogol Prydain, lle gall ymwelwyr bori ac archebu'r teithiau, yr atyniadau a'r profiadau gorau a mwyaf cyffrous y gall Prydain a Gogledd Iwerddon eu cynnig.

Llety a phethau i'w gwneud:

Great Little Breaks – yn hyrwyddo cyrchfannau a gwyliau byr yn y DU

StayPlayUk - os ydych chi'n cynnig llety a phethau i'w gwneud i deuluoedd, ymunwch â StayPlayUK, gwefan gwyliau teuluol newydd lle gall darpar gwsmeriaid chwilio am lety a dyddiau allan sy'n addas i deuluoedd, a'u harchebu. Gallwch hefyd elwa o'u partneriaeth â Family Lowdown, grŵp Facebook poblogaidd gyda thros 1.2 miliwn o aelodau.

Mae gwefannau mawr OTA hefyd fel Airbnb a Booking.com, wedi'u cysylltu â TXGB.

Cyrchfannau Cymru

Comisiwn isel neu 0%:

Visit Mid Wales
ShowMeWales
Go North Wales

Ymwelwch â Sir Fynwy

Mae cyrchfannau eraill yng Nghymru wrthi'n datblygu gwefannau archebu gyda TXGB neu'n awyddus i ddatblygu gwefannau fel bod modd archebu arnyn nhw trwy gysylltu â TXGB. Rydyn ni'n gweithio gyda nhw ar hyn.  Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd mwy yn ymuno.

Rhestr lawn o ddosbarthwyr (Saesneg yn unig)

 

Ymholiadau

Mae Croeso Cymru / Llywodraeth Cymru wedi trwyddedu Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) (gwefan Saesneg yn unig) er mwyn sicrhau ei fod ar gael i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Marchnad ddigidol ganolog yw TXGB ar gyfer dosbarthu. Mae TXGB yn galluogi cyflenwyr fel darparwyr llety, teithiau, digwyddiadau ac atyniadau i reoli argaeledd byw, prisiau ac archebion ar draws nifer o sianeli dosbarthu, mewn un lle.

Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth a chynyddu dosbarthiad eich cynnyrch ledled y DU ac yn fyd-eang, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth gan gwblhau ein ffurfflen ar-lein

Straeon Perthnasol