Datgloi Cyfleoedd Busnes Newydd - Gwyliwch ein sesiynau hyfforddi ar-lein am ddim.

Ydych chi'n fusnes twristiaeth o Gymru sydd am gyrraedd cwsmeriaid newydd a rhoi hwb i'ch archebion?

Mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i sesiynau hyfforddi ar-lein ymarferol, hawdd eu dilyn sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddysgu am ffyrdd newydd o gyrraedd cwsmeriaid newydd. Mae hyn yn cynnwys eich helpu i wneud y gorau o sianeli dosbarthu teithio gan gynnwys y diwydiant teithio (cwmniau teithiau ac asiantau) ac ar-lein i gynyddu gwelededd ac archebion.

Mae'r sesiynau hyn yn addas i bawb – p'un a ydych yn fusnes bach neu fawr, yn newydd i'r diwydiant teithio, ac yn defnyddio sianeli ar-lein ai peidio. Ar gyfer busnesau sydd eisoes yn brofiadol, yn gweithio gyda'r diwydiant teithio neu sianeli archebu ar-lein, mae hwn yn gyfle gwych i loywi ac yn gyfle i ddarganfod y tueddiadau diweddaraf i fynd â'ch busnes ymhellach.  Croeso i fusnesau o bob maint a phrofiad.

  • Dysgwch sut i gynyddu archebion trwy weithio gyda thrydydd parti, tra'n lleihau risgiau a lleihau gwariant marchnata.
  • Clywed am ffyrdd effeithlon o reoli'ch busnes, gan gynnwys sut y gall AI eich helpu i arbed amser a gwaith.
  • Cael atebion clir i bryderon cyffredin am ddosbarthu eich cynnyrch trwy'r diwydiant teithio a sianeli ar-lein.
  • Manteisiwch ar adnoddau defnyddiol, templedi, a chefnogaeth barhaus i'ch helpu i lwyddo.

Cyfle ar gyfer mentora un‑i‑un

Yn rhan o'r rhaglen, treialodd Croeso Cymru hefyd gynllun mentora busnes un‑i‑un gyda nifer fach o fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Rydyn ni'n gobeithio cynnal y rhaglen hon eto yn y dyfodol. Os hoffech gael eich rhoi ar restr aros i glywed yn gyntaf am y cyfle ac i gael eich ystyried, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen gais ar-lein.

I fod yn gymwys i wneud cais, bydd angen i chi fod wedi mynychu neu wylio'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn meini prawf penodol.

Amlinelliad o gynnwys ar gyfer pob un o'r tair sesiwn hyfforddi:

I gael y manteision llawn, gwyliwch bob un o'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein. Recordiadau ar gael nawr:

Sesiwn 1: Deall y Diwydiant Teithio 

  • Beth yw'r "diwydiant teithio" (traddodiadol a digidol)?
  • Sut mae'r diwydiant teithio yn gweithio?
  • Pam gweithio gyda'r diwydiant teithio?
  • Beth mae gwahanol farchnadoedd yn chwilio amdano?

Sesiwn 2: Dosbarthu yn y Diwydiant Teithio 

  • Beth yw'r diwydiant teithio traddodiadol?
  • Beth mae'r diwydiant teithio yn ei ddisgwyl gennych chi?
  • Sut ydych chi'n prisio'ch cynnyrch ar gyfer y diwydiant teithio?
  • Sut ydych chi'n cysylltu â'r diwydiant teithio?

Sesiwn 3: Dosbarthu digidol a gwelededd 

  • Beth yw'r diwydiant teithio digidol?
  • Pam dosbarthu digidol?
  • Beth sydd ei angen arnoch i werthu ar-lein?
  • Sut gall AI helpu?
  • Sut gallwch chi hyrwyddo eich cynhyrchion yn ddigidol?

Gweminar olaf:

Y sesiwn olaf yn y gyfres hyfforddiant am ddim ar y Diwydiant Teithio. Mae'n dwyn  ynghyd grynodeb o bopeth rydych chi wedi'i ddysgu am y Diwydiant Teithio a dosbarthu digidol i fel y gallwch gymryd y camau nesaf clir i gynyddu eich archebion. 

Straeon Perthnasol