Dulliau ymarferol o gyrraedd cwsmeriaid newydd

Mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i gyfres o dri sesiwn hyfforddi ar-lein ymarferol, hawdd eu dilyn sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddysgu am ffyrdd newydd o gyrraedd cwsmeriaid newydd.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn eich helpu:

  • Ddeall sut mae'r diwydiant deithio yn gweithio a pham mae'n bwysig i'ch busnes
  • Gwnewch y gorau o sianeli dosbarthu - cwmniau teithiau, asiantau teithio, a phlatfformau ar-lein, i gynyddu gwelededd ac archebion.
  • Magu hyder a darganfod y tueddiadau diweddaraf, p'un a ydych yn newydd i'r diwydiant teithio neu angen gloywi.

Mae recordiad o Sesiwn 3 (a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2026), ynghyd â dolenni defnyddiol eraill, ar gael isod. 

Mae recordiad o sesiynau 1 a 2 ar gfael hefyd:

Sesiwn 3: Dosbarthu digidol a gwelededd 

Gwneud i bresenoldeb ac archebion ar-lein weithio i chi. Rydym yn cynnwys:

  • Beth yw'r diwydiant teithio digidol?
  • Pam dosbarthu digidol?
  • Beth sydd ei angen arnoch i werthu ar-lein
  • Sut gall AI helpu?
  • Sut gallwch chi hyrwyddo eich cynhyrchion yn ddigidol?

Gwybodaeth ddefnyddiol:

TTMentorCyfle mentora un-i-un

Er bod yr holl leoedd ar gyfer y sesiynau mentora busnes un-i-un bellach yn llawn, rydyn ni’n gobeithio cynnal yr un sesiynau yn y dyfodol agos. Os hoffech fod ar y rhestr aros i glywed gyntaf am unrhyw gyfleoedd eraill, ac i gael eich ystyried, cwblhewch a chyflwyno’r Ffurflen Gais ar-lein.

I fod yn gymwys i wneud cais bydd angen i chi fod wedi mynychu neu wylio'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn meini prawf penodol.

Cysylltwch â ni

I gael y manteision llawn, mynychwch neu gwyliwch bob un o'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein.

Straeon Perthnasol