Dulliau ymarferol o gyrraedd cwsmeriaid newydd

Mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i gyfres o dri sesiwn hyfforddi ar-lein ymarferol, hawdd eu dilyn sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddysgu am ffyrdd newydd o gyrraedd cwsmeriaid newydd.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn eich helpu:

  • Ddeall sut mae'r diwydiant deithio yn gweithio a pham mae'n bwysig i'ch busnes
  • Gwnewch y gorau o sianeli dosbarthu - cwmniau teithiau, asiantau teithio, a phlatfformau ar-lein, i gynyddu gwelededd ac archebion.
  • Magu hyder a darganfod y tueddiadau diweddaraf, p'un a ydych yn newydd i'r diwydiant teithio neu angen gloywi.

Mae recordiad o Sesiwn 1 (a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2025), ynghyd â dolenni defnyddiol eraill, ar gael isod.  Bydd sesiynau yn y dyfodol yn adeiladu ar y sylfeini hyn ac yn archwilio strategaethau ychwanegol i helpu'ch busnes i ffynnu.

Sesiwn 1: Deall y Diwydiant Teithio

Cyflwyniad i gyrraedd cwsmeriaid newydd trwy'r diwydiant teithio a dosbarthu ar-lein.  Rydym yn cynnwys:

  • Beth yw'r "diwydiant teithio" (traddodiadol a digidol)?
  • Sut mae'r diwydiant teithio yn gweithio?
  • Pam gweithio gyda'r diwydiant teithio?
  • Beth mae gwahanol farchnadoedd yn chwilio amdano?

Gwybodaeth ddefnyddiol:

Cysylltwch â ni

Peidiwch â cholli mas! - Ymuno â'r Sesiynau sy'n Weddill

I gael y manteision llawn, mynychwch neu gwyliwch bob un o'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein*.  Cofiwch lenwi ffurflen archebu ar wahân ar gyfer pob un o'r tair sesiwn hyfforddi. 

*Archwiliadau busnes am ddim - Yn ogystal, mae lleoedd cyfyngedig ar gael ar gyfer archwiliadau busnes un-i-un a mentora i'r busnesau hynny sy'n cwblhau'r hyfforddiant.  I fod yn gymwys i wneud cais am un o'r 10 lle cychwynnol sydd ar gael, bydd angen i chi fod wedi mynychu neu wylio'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein erbyn 28 Ionawr 2026 a chwblhau ffurflen ar-lein (bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn meini prawf penodol). Bydd yr archwiliadau un-i-un yn cael eu cynnal ar-lein rhwng Chwefror a diwedd Mawrth 2026 gan ddarparu cymorth wedi'i deilwra a map ffordd.

Straeon Perthnasol