Diweddariad marchnata Blwyddyn Croeso ac ymgyrch Hwyl
13 Tachwedd 2025, 2:00 yp – 3:30 yp
Ymunwch â'n gweminar marchnata twristiaeth i ddysgu mwy am sut rydym yn marchnata Cymru a'r cyfleoedd i ni weithio gyda'n gilydd. P'un a ydych yn fusnes twristiaeth, rhanddeiliad, neu bartner diwydiant, mae hwn yn gyfle gwych i:
- Ddysgu am ein cyfeiriad marchnata strategol ar gyfer 2026 a thu hwnt
- Archwilio sut mae ein hymdrechion cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan
- Clywed am ein gwaith gyda phartneriaid y diwydiant teithio a chyfleoedd i gymryd rhan
Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn holi ac ateb fyw, gan roi cyfle i chi ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i'n timau.
Bydd mwy o fanylion ar gael cyn bo hir.
Bydd y gweminar am ddim yn cael ei chynnal trwy Microsoft Teams ar 13 Tachwedd 2025, 2:00 yp - 3:30 yp.
Sylwer, bydd y cyfarfod hwn yn cael ei recordio a bydd ar gael i’w gweld ar wefan diwydiant twristiaeth Llywodraeth Cymru.
Gweminar Croeso Cymru - Hysbysiad preifatrwydd recordiad Microsoft Teams.