Darganfyddwch Bŵer Mewnwelediadau Twristiaeth gyda Croeso Cymru
14 Hydref 2025, 2:00 yp – 3:00 yp
Ymunwch â thîm Ymchwil a Mewnwelediadau Croeso Cymru ar gyfer gweminar bwrpasol sy'n arddangos yr ystod eang o ddata a deallusrwydd sydd ar gael i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
O dueddiadau twristiaeth domestig a gafodd eu casglu trwy Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), i fewnwelediadau ymwelwyr rhyngwladol o'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol (IPS), bydd y sesiwn hwn yn tynnu sylw at ddyfnder y dystiolaeth a all eich helpu i ddeall eich ymwelwyr posibl yn well.
Byddwn hefyd yn rhannu canfyddiadau o'n Harolygon Galw yn y Diwydiant, gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i helpu busnesau a chyrchfannau i wneud penderfyniadau gwybodus, sylwi ar gyfleoedd ac ymateb i anghenion ymwelwyr sy'n newid
Bydd y weminar yn archwilio nid yn unig pa ddata sydd ar gael, ond hefyd sut mae'n bwydo i uchelgeisiau ehangach twristiaeth Cymru, megis gwella profiadau ymwelwyr a chryfhau safleCymru mewn marchnad fyd-eang gystadleuol.
P'un a ydych yn gwmni twristiaeth, rheolwr cyrchfan, neu randdeiliad sydd â diddordeb mewn tueddiadau ymwelwyr, mae hwn yn gyfle gwerthfawr i weld sut y gall ymchwil a mewnwelediadau fod o fudd uniongyrchol i'ch gwaith.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn holi ac ateb byr.
Bydd y gweminar am ddim yn cael ei chynnal trwy Microsoft Teams ar 14 Hydref 2025, 2:00 yp - 3:00 yp.
Sylwer, bydd y cyfarfod hwn yn cael ei recordio a bydd ar gael i’w gweld ar wefan diwydiant twristiaeth Llywodraeth Cymru.
Gweminar Croeso Cymru - Hysbysiad preifatrwydd recordiad Microsoft Teams.