Tripiau i Gymru
- Yn 2024, aeth trigolion Prydain ar 7.61 miliwn o dripiau dros nos yng Nghymru gyda 22.30 miliwn o nosweithiau a £2.24 biliwn wedi'i wario yn ystod y tripiau hyn.
- Roedd 38% o'r dripiau dros nos yng Nghymru yn ystod 2024 yn wyliau. Roedd 34% yn ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau (VFR), 7% at ddibenion busnes a 22% at ddibenion amrywiol/eraill.
- Roedd tua 7% o'r holl dripiau ym Mhrydain yn cynnwys arhosiad dros nos yng Nghymru. Roedd cyfrannau cyfanswm nosweithiau a gwariant o Brydain hefyd yn 7%.
- Hyd cyfartalog tripiau i Gymru yn 2024 oedd 2.9 noson gyda gwariant cyfartalog o £295 fesul trip.
- O'i gymharu â 2023, roedd nifer y tripiau i Gymru yn 2024 10% yn is, tra bo’r gwariant 11% yn uwch.
Darllenwch ein hadroddiad blynyddol manwl i gael rhagor o wybodaeth am y tripiau a wnaed yng Nghymru yn 2024, gan gynnwys manylion y mathau a dripiau a phroffil yr ymwelwyr â Chymru.
Yr Arolwg
Daw'r ystadegau am ymwelwyr dros nos o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr. Mae hwn yn arolwg ar-lein wythnosol lle holir rhyw 60,000 o drigolion Prydain bob blwyddyn. Rheolir yr arolwg ar y cyd gan Croeso Cymru, VisitEngland a VisitScotland. Cafodd yr amcangyfrifon ar gyfer 2022 a 2023 eu diwygio ym mis Medi 2024 yn dilyn adolygiad o fethodoleg y gyfres – am ragor o wybodaeth, darllenwch y datganiad ar yr adolygiad o'r fethodoleg. Darllenwch ein Hadroddiadau Ansawdd Cefndirol i gael manylion llawn sut cafodd yr arolwg ei gynnal a'r mesurau sicrhau ansawdd.