Diweddarwyd ddiwethaf: Gorffennaf 2026
Ionawr i Ragfyr 2025
Teithiau yng Nghymru
- Yn y cyfnod Ionawr i Ragfyr 2025, aeth trigolion Prydain Fawr ar 7.76 miliwn o deithiau dros nos yng Nghymru, gan dreulio 23.48 miliwn o nosweithiau a gwario £2.30 biliwn yn ystod y teithiau hyn.
- O'u cymharu â 2024, roedd nifer y teithiau dros nos yng Nghymru 2% yn uwch, nifer y nosweithiau a dreuliwyd 5% yn uwch, a'r gwariant 3% yn uwch.
- Roedd tua 8% o'r holl deithiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru. Y gyfran o gyfanswm nosweithiau Prydain Fawr oedd 8%, tra bo'r gyfran o gyfanswm gwariant Prydain Fawr ar deithiau dros nos yn 7%.
- Y gwariant cyfartalog fesul taith oedd £297 ar gyfer teithiau dros nos.
- Cyfartaledd hyd teithiau dros nos i Gymru oedd 3.0 noson gyda gwariant cyfartalog o £98 fesul noson.
Ymweliadau Undydd gan Dwristiaid yng Nghymru
- Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2025, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr fynd ar 59.22 miliwn o deithiau hamdden undydd yng Nghymru gyda £2.84 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
- O'u cymharu â 2024, roedd nifer y teithiau undydd yng Nghymru 11% yn uwch , a'r gwariant ar deithiau undydd yng Nghymru 18% yn uwch.
- Roedd tua 6% o'r teithiau undydd gan dwristiaid ym Mhrydain Fawr yn cynnwys ymweliad â Chymru. Cyfran cyfanswm gwariant Prydain Fawr ar deithiau dydd twristiaeth yng Nghymru oedd 5%.
- Y gwariant cyfartalog ar deithiau undydd oedd £48 y daith.
Darllenwch ein hadroddiad i gael rhagor o wybodaeth am deithiau i Gymru yn 2025.
Ynglŷn â'r Arolwg
Daw'r ystadegau am ymwelwyr dros nos o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr. Mae hwn yn arolwg ar-lein wythnosol lle holir rhyw 60,000 o drigolion Prydain bob blwyddyn. Rheolir yr arolwg ar y cyd gan Croeso Cymru, VisitEngland a VisitScotland. Darllenwch ein Hadroddiadau Ansawdd Cefndirol i gael manylion llawn am ddull yr arolwg a mesurau sicrhau ansawdd.
Ewch i'n hadran ymchwil am yr ystadegau a'r wybodaeth ddiweddaraf am deithiau i Gymru gan ymwelwyr o Brydain.