Diweddarwyd ddiwethaf: Hydref 2025
Cefndir
The Wales Tourism Business Barometer is designed to give quick feedback on how the tourism industry in Wales is performing at key times during the year. This wave looks at:
- The performance year to date and expectations for the summer.
- This Barometer includes questions on:
- tourism imbalance
- seasonality
- collaboration with other operators and recruitment.
- Findings are based on a telephone survey with 900 interviews with Tourism businesses across Wales.
Mae Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru wedi'i gynllunio i roi adborth cyflym ar sut mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn perfformio ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn. Mae'r don hon yn edrych ar:
- Y perfformiad hyd yma yn y flwyddyn a'r disgwyliadau ar gyfer yr haf.
- Mae'r Baromedr hwn yn cynnwys cwestiynau ar:
- anghydbwysedd twristiaeth
- tymhoroldeb
- cydweithio â gweithredwyr eraill a recriwtio.
- Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar arolwg ffôn gyda 900 o gyfweliadau â busnesau Twristiaeth ledled Cymru.
Canfyddiadau
Blwyddyn gymysg yn parhau
Yn dilyn camau cynharach y baromedr eleni, mae perfformiad y diwydiant yn parhau i fod yn gymysg yn y rhan fwyaf o sectorau.
- Ar y cyfan, mae 29% o fusnesau twristiaeth wedi cael rhagor o ymwelwyr yr haf hwn o'i gymharu â'r haf diwethaf, ac mae 45% wedi cael oddeutu'r un lefel.
- Serch hynny, mae 26% wedi gweld gostyngiad.
- Nid oes gwahaniaethau sylweddol yn y perfformiad yn ôl rhanbarth.
Tywydd gwell o lawer na haf y llynedd
Haf 2025 (mis Mehefin i fis Awst) oedd yr haf sychaf ar gofnod yn y DU yn ôl y Met Office, gyda lefelau o heulwen yn uwch na’r cyfartaledd a lefelau glaw yn is na'r cyfartaledd.
- Mae dros hanner (57%) y busnesau sydd â mwy o gwsmeriaid yr haf hwn yn dweud yn ddigymell mai’r rheswm dros y cynnydd hynny yw’r tywydd, a oedd yn gymysg yn ystod haf y llynedd.
- Mae 90% o feysydd carafannau a gwersyllfaoedd a 68% o atyniadau yn arbennig yn dweud mai'r tywydd sydd wrth wraidd eu cynnydd mewn busnes.
Ond mae diffyg incwm gwario yn parhau i amharu ar y galw
Mae dau ym mhob pum busnes (40%) sydd wedi gweld llai o gwsmeriaid yn dweud yn ddigymell bod y gostyngiad oherwydd ‘diffyg incwm gwario gan bobl’. Yn sicr dyma’r rheswm sy’n codi fwyaf aml, a hynny uwchlaw ‘polisïau Llywodraeth Cymru’ (22%).
Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn gosod pwysigrwydd mawr ar gwsmeriaid sy’n dychwelyd
Wrth ymateb i gyfuniad o ddatganiadau i'w cymell, dywedoedd:
- 12% o weithredwyr eu bod ‘yn canolbwyntio’n fawr ar ddenu cwsmeriaid newydd’ a bod hynny’n disgrifio orau eu dull gweithredu tuag at gwsmeriaid newydd a chwsmeriaid sy’n dychwelyd.
- Wedi dweud hynny, mae cyfran llawer uwch (68%) yn cytuno fwy gyda’r datganiad: ‘mae gennym ddiddordeb mewn denu cwsmeriaid newydd, ond mae’n bwysicach annog a chynnal busnes drwy gwsmeriaid sy’n dychwelyd’.
- Mae cwsmeriaid sy’n dychwelyd yn hynod werthfawr oherwydd eu bod yn cynnig sefydlogrwydd ac yn haws a llai costus i'w cynnal fel sylfaen gwsmeriaid nag ymdrechu’n gyson i ddenu rhai newydd.
- Mae nifer o weithredwyr yn mynd i drafferth fawr i annog cwsmeriaid presennol i ddychwelyd.
Hyder i wneud elw
Mae oddeutu un ym mhob pump (21%) o weithredwyr yn dweud eu bod yn ‘hyderus iawn’ ynghylch rhedeg y busnes yn broffidiol eleni, ac mae 31% arall yn dweud eu bod yn ‘weddol hyderus’.
Darllenwch yr adroddiad llawn ar y Baromedr Twristiaeth: cam yr haf 2025