Diweddarwyd ddiwethaf: Tachwedd 2026
Cefndir
Mae Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru wedi'i gynllunio i roi adborth cyflym ar sut mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn perfformio ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn. Mae’r don hon yn edrych ar berfformiad dros haf 2026 ac yn cynnwys cwestiynau am dwristiaeth beicio a hygyrchedd.
Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar arolwg ffôn gyda 900 o gyfweliadau â busnesau Twristiaeth ledled Cymru.
Canfyddiadau
Denwyd ymwelwyr gan dywydd heulog cynnes
- Cafodd oddeutu traean (34%) o fusnesau fwy o ymwelwyr yr haf hwn o gymharu â’r haf diwethaf, a chafodd 45% yr un lefel o ymwelwyr.
- Dim ond lleiafrif o fusnesau (21%) a ddywedodd fod nifer eu hymwelwyr wedi gostwng.
- Mae’r cynnydd hwn i’w weld yn gyson ar draws pob sector a rhanbarth.
Yn dilyn camau cynharach y baromedr eleni, mae perfformiad y diwydiant yn parhau i fod yn gymysg yn y rhan fwyaf o sectorau.
- Y rheswm mwyaf cyffredin a nodwyd am fod yn brysurach nag arfer oedd y tywydd (dywedwyd hyn yn ddigymell gan 54% o’r gweithredwyr a fu’n brysurach).
- Yn ôl y Swyddfa Dywydd, credir mai haf 2026 (Mehefin – Awst) fu’r haf cynhesaf i’w gofnodi yn y DU, gyda sawl diwrnod dros 30 gradd ac ychydig iawn o law tua diwedd mis Awst.
Mae ansicrwydd ynghylch incwm gwario yn parhau i lesteirio’r galw
- Ni chafodd pob busnes haf prysur. Y rheswm mwyaf cyffredin a nodwyd yn ddigymell gan weithredwyr oedd bod ‘pobl yn brin o incwm gwario’ (34%).
- Hefyd, dywedodd rhai busnesau na fu’r tywydd cynnes o help iddynt, yn enwedig atyniadau dan do yn ystod cyfnodau o dywydd dymunol yn yr awyr agored, neu atyniadau awyr agored nad oedd ganddynt lawer o gysgod i’w gynnig yn ystod tywydd poeth iawn.
Cynnydd yn niferoedd ymwelwyr tramor
- Dywedodd traean (32%) o fusnesau eu bod wedi cael mwy o ymwelwyr tramor o gymharu â’r llynedd, a dywedodd eu hanner (50%) eu bod wedi cael yr un lefel o ymwelwyr tramor.
- Perfformiodd marchnadoedd tir mawr Ewrop yn dda, yn enwedig yr Almaen a’r Iseldiroedd.
Cyfleoedd beicio’r Tour de France
- Dywedodd rhai busnesau (13%) fod twristiaeth feicio’n ‘bwysig iawn’ i ddyfodol eu busnes, a dywedodd 22% yn ychwaneg fod yr elfen honno’n ‘weddol bwysig’.
- Ymhlith y rhai a oedd o’r farn bod twristiaeth feicio’n bwysig, roedd 42% yn bwriadu manteisio ar y cyfle hirdymor a ddaw yn sgil hybu beicio yng Nghymru trwy gyfrwng y Tour de France.
Diwallu anghenion hygyrchedd
- Roedd un o bob pump (20%) o weithredwyr o’r farn bod eu busnes wedi’i gynllunio’n ‘dda iawn’ ar gyfer cwsmeriaid ag anghenion hygyrchedd, ac roedd 40% yn ychwaneg o’r farn bod eu busnes wedi’i gynllunio’n ‘weddol dda’.
- Yn achos y rhai a oedd o’r farn bod eu busnes wedi’i gynllunio’n dda ar gyfer cwsmeriaid ag anghenion hygyrchedd, roedd eu hanner (50%) yn hyrwyddo’r agwedd honno ar eu busnes.
- Roedd gan oddeutu chwarter (23%) o weithredwyr ddiddordeb mewn cael cyngor gan Croeso Cymru ynglŷn â sut y gallai eu busnes fod yn fwy hygyrch.
Dyma’r math o gyngor y byddent yn dymuno’i gael:
- sut i ymgeisio am grantiau (69%)
- sut i ddiwallu anghenion mewn modd cost-effeithiol (52%)
- esboniad o’r gwahanol anghenion a’r modd y gellir eu diwallu (52%)
- sut i gydymffurfio â’r gyfraith (45%)
Hyder
- Roedd oddeutu un o bob pump (18%) o weithredwyr yn teimlo’n ‘hyderus iawn’ ynglŷn â rhedeg busnes proffidiol eleni, a dywedodd 44% yn ychwaneg eu bod yn ‘weddol hyderus’.
- Llwyddodd y tywydd braf dros yr haf i roi hwb i nifer yr ymwelwyr, ond dywedodd rhai gweithredwyr fod costau cynyddol yn ei gwneud hi’n anodd iddynt barhau i fod yn broffidiol.
- Llwyddodd perfformiad da dros yr haf i roi hwb i hyder gweithredwyr eleni. Cafodd y lefelau hyder a fesurwyd ar yr un adeg y llynedd eu llesteirio’n fawr gan y cynnydd mewn costau byw.
- Ym mis Medi 2025, roedd 21% o weithredwyr yn teimlo’n ‘hyderus iawn’ ac roedd 31% yn teimlo’n ‘weddol hyderus’.
Darllenwch yr adroddiad llawn ar y Baromedr Twristiaeth: cam yr haf 2026