Amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer 2022 a 2023

Mae amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer 2022 a 2023 bellach wedi'u cyhoeddi. Am fwy o wybodaeth am y diwygiadau, gweler y datganiad ar yr adolygiad methodolegol.

Teithiau yng Nghymru

  • Yn 2022, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 178.69 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy yng Nghymru, gyda £5.37 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 34% o'r teithiau hamdden undydd a wnaed yng Nghymru yn deithiau twristiaeth undydd, gyda 61.62 miliwn o deithiau yn cael eu gwneud yn 2022, gyda gwariant cysylltiedig o £2.30 biliwn.
  • Yn 2023, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 169.60 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy yng Nghymru, gyda £5.50 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 36% o'r teithiau hamdden undydd a wnaed yng Nghymru yn deithiau twristiaeth undydd gyda 60.90 miliwn o deithiau twristiaeth undydd yn cael eu gwneud yn 2023, gyda gwariant cysylltiedig o £2.49 biliwn.
  • Roedd tua 6% o ymweliadau hamdden undydd o 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr yn cynnwys ymweliad yng Nghymru, yn 2022 ac yn 2023. Yn 2022, 6% oedd cyfran y teithiau twristiaeth undydd ym Mhrydain Fawr a oedd yn cynnwys ymweliad yng Nghymru, gan ostwng ychydig i 5% yn 2023.
  • Yn 2022, gwariwyd tua 6% o'r gwariant ar ymweliadau hamdden undydd o 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr yng Nghymru, gan ostwng ychydig i 5% yn 2023. Arhosodd y gyfran o gyfanswm gwariant ar deithiau twristiaeth undydd ym Mhrydain Fawr yng Nghymru yn sefydlog ar draws 2022 a 2023, ar 5%.
  • O'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022, roedd nifer y teithiau hamdden undydd o 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru 5% yn is, ac roedd nifer y teithiau twristiaeth undydd a wnaed 1% yn is.
  • Yn 2022, y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd o 3 awr neu fwy oedd £30 o'i gymharu â £37 ar gyfer teithiau twristiaeth undydd a wnaed yng Nghymru; roedd gwariant cyfartalog yn uwch yn 2023, sef £32 ar gyfer tripiau hamdden undydd o 3 awr neu fwy, a £41 ar gyfer teithiau twristiaeth undydd.

Darllenwch ein hadroddiad am ragor o wybodaeth am deithiau a wnaed i Gymru yn 2023 a 2022.

Yr Arolwg

Daw'r ystadegau hyn am ymwelwyr undydd o Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr. Mae hwn yn arolwg ar-lein wythnosol lle holir rhyw 35,000 o drigolion Prydain bob blwyddyn. Rheolir yr arolwg ar y cyd gan Croeso Cymru, VisitEngland a VisitScotland. Darllenwch ein Hadroddiadau Ansawdd Cefndirol i gael manylion llawn sut cafodd yr arolwg ei gynnal a'r mesurau sicrhau ansawdd.

Straeon Perthnasol