Diweddarwyd ddiwethaf: Hydref 2025

Cyflwyniad

Mae'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol a gynhelir gan yr ONS yn samplu ymwelwyr o sawl porthladd ar draws y DU ac yn eu harolygu am eu taith. Defnyddir y canlyniadau i amcangyfrif nifer yr ymwelwyr, hyd eu harhosiad, eu gwariant, a phwrpas eu hymweliad.

Ystadegau Allweddol

  • Cyfanswm Ymweliadau: 929,000
  • Cyfanswm Nosweithiau: 7 miliwn
  • Cyfanswm Gwariant: £488 miliwn rhwng pawb

O’i gymharu â’r un cyfnod yn 2023:

  • Mae nifer y teithiau rhyngwladol a gwerth y gwariant wedi cynyddu.
  • Bu cynnydd o 4% yn yr ymweliadau o’i gymharu â 2023 ond gostyngiad o 10% o’i gymharu â 2019.
  • Bu gostyngiad o 5% yng nghyfanswm y gwariant o’i gymharu â 2019 (mewn termau enwol) ond cynnydd o 11% o’i gymharu â 2023.

Nodweddion Teithiau

  • Hyd Teithiau ar gyfartaledd: 7.5 noson
  • Gwariant ar gyfartaledd y noson: £70
  • Gwariant ar gyfartaledd y daith: £525

Prif Farchnadoedd i Gymru

  • Gweriniaeth Iwerddon – 123,000 ymweliad
  • Yr Almaen – 109,000 ymweliad
  • UDA – 90,000 ymweliad

Ynghylch yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol (IPS)

Mae’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol (IPS) wedi bod yn casglu data ar deithwyr sy’n gadael y DU ers 1961. Mae’n defnyddio cyfweliadau wyneb yn wyneb dienw gyda sampl ar hap o deithwyr.

  • Maint Sampl Cymru (2024): 1,074 cyfweliad
  • Cafodd y sampl ei thynnu o bob prif borthladd ymadael yn y DU. Yng Nghymru roedd hyn yn cynnwys: Maes Awyr Caerdydd, Caergybi, Penfro, ac Abergwaun.

Diweddariad yn y Fethodoleg

Yn dilyn adolygiad, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi diweddaru ei dulliau casglu data ac arolygu i wella cywirdeb a chydlyniad.

Nodyn: Mae canlyniadau chwarter tri a chwarter pedwar 2024 yn ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu, sy’n golygu ein bod yn dal wrthi’n sicrhau eu hansawdd. Efallai y bydd angen newid yr amcangyfrifon ac ni ddylid eu defnyddio ar gyfer polisi na gwneud penderfyniadau. Darllenwch fwy gan Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gwybodaeth Bellach

Am fewnwelediadau manwl gan gynnwys:

  • Dadansoddiadau rhanbarthol
  • Pwrpasau teithiau
  • Data is-farchnadoedd

Ewch i dudalen ymchwil Visit Britain a phori eu gweledydd rhyngweithiol.

Straeon Perthnasol

Dau feiciwr yn mynd tuag at bont droed yn croesi llyn enfawr.

Galw'r farchnad

Bob blwyddyn mae Croeso Cymru yn cynnal ymchwil ymhlith ei marchnadoedd blaenoriaeth