Diolch i bawb a ymunodd â'n gweminar ddiweddar ar gyfer y diwydiant, Cymru ar lwyfan y byd: Pŵer Digwyddiadau Mawr, a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2025.

Mae recordiad o'r weminar, a dolenni defnyddiol eraill o'r sesiwn, bellach ar gael isod.

Edrychodd y weminar hon ar yr effaith digwyddiadau mawr yng Nghymru:-

  • gyrru twristiaeth, a cefnogi busnesau lleol,
  • gwella enw da rhyngwladol Cymru,
  • cyfrannu at les ein pobl.

Bydd hefyd yn rhoi cipolwg i'r dyfodol o ran tirwedd digwyddiadau, gan dynnu sylw at gyfleoedd allweddol, partneriaethau strategol, a rôl Digwyddiadau Cymru.

Mae digwyddiadau mawr yn gonglfaen i hunaniaeth ddiwylliannol, economaidd a rhyngwladol Cymru. O ddigwyddiadau chwaraeon a gwyliau cerddoriaeth o'r radd flaenaf i gynadleddau byd-eang, maen nhw’n arddangos bywiogrwydd, gwydnwch a chreadigrwydd ein cenedl. Maent yn dod â chymunedau at ei gilydd, yn ysgogi economïau lleol, ac yn gosod Cymru fel cyrchfan ddeinamig ar y llwyfan byd-eang.

Dros y degawd diwethaf, mae Cymru wedi dangos ei gallu i gynnal digwyddiadau mawr a phwysig. Mae'r digwyddiadau hyn nid yn unig wedi darparu budd economaidd uniongyrchol ond hefyd wedi gadael gwaddol parhaol o ran seilwaith, y broses o ddatblygu sgiliau a gwaith ymgysylltu â'r gymuned. Wrth edrych ymlaen, mae Cymru'n barod i adeiladu ar y momentwm hwn a bydd digwyddiadau sydd ar y gweill yn parhau i adlewyrchu ein blaenoriaethau a'n gwerthoedd cenedlaethol.

Recordiad o'r weminar 6 Tachwedd 2025 (Saesneg yn unig).  Gweminar Croeso Cymru - Hysbysiad preifatrwydd recordiad Microsoft Teams

Gweminar – gwybodaeth ddefnyddiol

 

Cysylltwch â Digwyddiadau Cymru:

Cysylltwch â'r tîm i ddarganfod sut allwch chi ymgysylltu a pha gefnogaeth sydd ar gael i drefnwyr digwyddiadau.

 

 

Straeon Perthnasol