Gan weithio i Strategaeth Digwyddiadau Cenedlaethol Cymru 2022-2030, rydym wedi datblygu ffordd gydgysylltiedig a chydlynol o gefnogi digwyddiadau mawr.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn manylu sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni, nodi targedau a blaenoriaethau, a rhoi mwy o fanylion am y cynllun. 

Mae digwyddiadau’n hybu enw da rhyngwladol Cymru a lles ei phobl a'i chymunedau. Maent yn darparu manteision economaidd sylweddol i'r dinasoedd a'r rhanbarthau sy'n eu cynnal. Yn ei dro, mae hyn yn helpu i ysgogi twf busnes a mentrau newydd. 

Nid yw Digwyddiadau Cymru ei hun fel arfer yn cynnal digwyddiadau. Ond rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector, yng Nghymru a thu hwnt. 

Ffocws y gwaith yw:

  • Denu digwyddiadau rhyngwladol mawr sy'n creu elw mawr ar fuddsoddiad ac yn cyfrannu at hyrwyddo brand Cymru.
  • Gweithio'n strategol gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i nodi digwyddiadau twf posibl a chwilio am gyfleoedd i greu digwyddiadau newydd. 
  • Ffocws parhaus a phenodol ar ddigwyddiadau busnes (MICE).
  • Helpu i ddatblygu sylfaen sgiliau gref o wybodaeth a phrofiad. Mae hyn yn hanfodol i ddatblygu diwydiant digwyddiadau cynaliadwy sy’n cynnig portffolio o ddigwyddiadau deniadol.
  • Cefnogi cyflawni yn erbyn 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys nodi a thynnu sylw at yr hyn sy'n gwneud profiad y digwyddiad yng Nghymru yn wahanol.
Llun o Gynhadledd Gofod y DU yn ICC Cymru, Casnewydd
Prosiect Balimaya yn perfformio yn FOCUS Cymru 2022
Llun o Gynhadledd Gofod y DU yn ICC Cymru, Casnewydd    |    Prosiect Balimaya yn perfformio yn FOCUS Cymru 2022

Buddion bod yng Nghymru

Dyma ychydig o fanteision i gynnal digwyddiad yng Nghymru:

  • Gallwn gynnig cefnogaeth partneriaeth gref tîm Cymru, sy’n hen gyfarwydd â llwyddiant.
  • Gallwn gydweithio’n rhagweithiol â chi i gryfhau’ch brand drwy ddatblygu ‘naws am le’ unigryw a Chymreig ar gyfer eich digwyddiad.
  • Gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleusterau o safon fydeang i chi, gan gynnwys Stadiwm Principality, ICC Wales, Venue Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.
  • Mae gennym hefyd olygfeydd godidog. Mae ein tirwedd a’n harfordir yn cynnig cefndir ac arena awyr agored anhygoel.
  • Mae gennym naratif dilys cyfoethog ac amrywiol y gellir ei ysgogi er mwyn gwella eich digwyddiad.

Dolenni

Ffilm Digwyddiadau Mawr Croeso Cymru 2022

Cysylltwch â ni

E-bost Digwyddiadau Cymru : digwyddiadaucymru@llyw.cymru

Os hoffech y cyfle i gael eich ychwanegu at Gronfa Ddata Rhanddeiliaid Digwyddiadau Cymru er mwyn gallu derbyn gwybodaeth a diweddariadau am y sector, anfonwch e-bost gan ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Teitl swydd
  • Digwyddiad/Sefydliad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Dewis o ran iaith ar gyfer gohebiaeth (Cymraeg/Saesneg)

Gallwch weld manylion ynghylch sut rydym yn storio, rheoli a defnyddio eich gwybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Rhanddeiliaid Digwyddiadau Cymru.

Straeon Perthnasol