I gael gwybodaeth gyffredinol ynghylch sut i gael gafael ar gyllid a dewis y math cywir, ewch i brif wefan Busnes Cymru.
Ein prif gronfa fuddsoddi ar gyfer cyllido twristiaeth yw'r Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru (CBTC) ac Y Pethau Pwysig.
Gallwch weld manylion cynlluniau ariannu hanesuddol a'r rhai o'r prosiectau sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar y dudalen prosiectau a gefnogir
Blwyddyn Croeso: Cronfa Lliniaru Effeithiau'r Tywydd ar gyfer Busnesau Twristiaeth a Lletygarwch Bach 2025–2026
Yn dilyn llwyddiant ein Cronfa Lliniaru Effeithiau'r Tywydd gychwynnol ar gyfer atyniadau yn ystod Blwyddyn Croeso 2025, mae Croeso Cymru yn lansio ail rownd o grantiau cyfalaf ar gyfer 2025–2026. Cyfanswm y gronfa hon £1.75 miliwn a'i nod yw helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i fuddsoddi mewn mesurau lliniaru effeithiau'r tywydd.
Pwy all wneud cais?
Mae busnesau cymwys yn cynnwys:
- darparwyr llety (â gwasanaeth a hunanddarpar)
- lleoliadau bwyd a diod gyda gwasanaeth eistedd i lawr, (bwytai, tafarndai, caffis)
- darparwyr gweithgareddau awyr agored (e.e. heicio, beicio, caiacio, saffaris bywyd gwyllt, gweithgareddau yn y dŵr, syrffio a physgota)
NODWCH: Nid yw busnesau a dderbyniodd gyllid yng Ngham 1 yn gymwys ar gyfer Cam 2.
Manylion y grant
- Mae grantiau'n amrywio o £5,000 i £20,000 fesul prosiect
- Mae'r cyllid yn cefnogi'r gost o roi mesurau lliniaru tywydd ar waith sy'n gwella amodau masnachu ac yn gwella profiad ymwelwyr yn ystod tywydd gwael.
- Mae enghreifftiau'n cynnwys ardaloedd awyr agored wedi'u gorchuddio, podiau bwyta, neu arwynebau a draenio.
Meini Prawf Busnes
I wneud cais, rhaid i fusnesau fodloni'r meini prawf canlynol:
- Bod yn fusnes bach neu ganolig ym maes twristiaeth neu letygarwch
- Cyflogi 9 – 49 o staff llawn amser
- Wedi bod yn masnachu am o leiaf blwyddyn.
Anogir ymgeiswyr i ystyried sut y gallai eu gwelliannau ddenu ymwelwyr a newid canfyddiadau o gyrchfannau Cymru mewn tywydd gwael.
Dyddiadau Pwysig
Rhaid cwblhau a hawlio am yr holl waith y derbynnir arian ar ei gyfer erbyn 31 Mawrth 2026.
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law. Bydd y cynllun yn cael ei lansio cyn bo hir