Cyfleoedd i ymgysylltu ag arweinwyr diwydiant Digwyddiadau Busnes Prydain Fawr i rannu arfer gorau a datblygu perthnasoedd i gydweithio

Mae arweinwyr diwydiant, Cynllunwyr Digwyddiadau Busnes a phrynwyr o gynadleddau cymdeithas, llysgenhadon cynadleddau, profiadau cymhelliant i gyflenwyr adeiladu tîm, yn cydweithio i ddatblygu eu perthnasoedd, rhannu arfer gorau, datblygu arweinyddiaeth meddwl a thrafodaethau cyfalaf deallusol er mwyn gwahodd digwyddiadau busnes i gyrchfan. Mae pobl yn cyfarfod i wneud penderfyniadau byd.

Disgwylir i'r diwydiant Digwyddiadau Busnes fod yn werth £27 biliwn erbyn 2026.   Gyda chynrychiolwyr rhyngwladol sy'n dod i mewn yn werth tua chwe gwaith o gynrychiolwyr domestig yn y dyfodol agos, rhaid i ni wneud llawer mwy i ddenu'r ymwelwyr rhyngwladol hyn i fynychu digwyddiadau busnes yn y DU. "

Felly, mae deall tueddiadau, rhannu arfer gorau ac addysgu yn hanfodol i bob cyflenwr diwydiant sydd â chynnig digwyddiadau busnes a all elwa o weithio gyda'r Farchnad Digwyddiadau Busnes. O brofiadau i fwyta, lleoliadau i lety, mae gan bawb ran i'w chwarae i rannu arfer gorau a chydweithio â'i gilydd i ennill busnes cynaliadwy i Gymru.

Mae MeetInWales, fel rhan o dîm Digwyddiadau Cymru, yn mynychu llawer o weithdai, cyfarfodydd a chynadleddau gydag arweinwyr diwydiant, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i drafod tueddiadau'r farchnad, datblygu sgiliau, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am leoli Cymru fel cyrchfan digwyddiadau busnes hyfyw. Yna caiff hyn ei rannu â chyflenwyr diwydiant Cymru sydd â diddordeb, gan rannu arfer gorau a datblygu eu dealltwriaeth i fod yn rhagweithiol ac i barhau'n gystadleuol yn y farchnad.

Cyfleoedd i gymryd rhan yn y Farchnad Digwyddiadau Busnes a gwella eich cyfleoedd busnes

Mae'r farchnad Digwyddiadau Busnes yn gweithio gydag ystod eang o gynhyrchion a chyrchfannau, felly mae digon o gyfleoedd i gwrdd â nhw a gwneud busnes â nhw. Cyn i chi wneud hynny, mae'n well nodi'r hyn rydych chi am ei gael allan o'r farchnad a'r rhai yr hoffech chi ddatblygu busnes â nhw.

Mae'r farchnad Digwyddiadau Busnes yn ymwneud â meithrin perthnasoedd ansoddol â'r rhai a fydd yn addas i'ch busnes. Gan nad yw'r farchnad fel arfer yn gyfarwydd â rhanbarth neu gyrchfannau, bydd prynwyr yn edrych i chi fel yr arbenigwyr ac eisiau bod yn sicr y gallwch gydlynu a chyfeirio cynhyrchion eraill yn eich rhanbarth a all eu helpu i ddeall sut y gallent wneud eu digwyddiad yn un cofiadwy gydag argraffiadau cadarnhaol o'r gyrchfan ar gyfer eu digwyddiad yn ogystal ag ar gyfer ymweliadau busnes neu hamdden pellach.

Felly, mae cydweithio â chynnyrch diwydiant eraill yn eich rhanbarth chi, ledled Cymru a hyd yn oed dros y ffin i Loegr, yn allweddol i bob cyflenwr diwydiant. Nodwch yn gynnar pwy arall gall ychwanegu gwerth a chanmol eich cynnyrch , a naill ai eisoes yn rhagweithiol neu eisiau bod yn fwy rhagweithiol yn y farchnad hon. Bydd hyn yn rhoi gwell cyfle i chi gyflwyno cynnig mwy cynhwysol a chryfhau'r cyfle i drosi busnes i'ch rhanbarth ac i Gymru yn y farchnad hynod gystadleuol hon.

Er enghraifft, os ydych yn lleoliad gyda lle i 100 o gynadleddwyr heb lety mewn ardal wledig yng Nghymru, bydd dylanwadu ar y prynwr i ddewis eich cynnyrch ar gyfer digwyddiad 2 ddiwrnod a dros nos, pan nad ydynt erioed wedi bod i Gymru, ond yn gynhyrchiol os gallwch hefyd awgrymu ychwanegiadau perthnasol, megis sut i gyrraedd eich lleoliad, opsiynau llety gerllaw, opsiynau bwyta yn lleol ac y tu allan i'r gynhadledd y gallent hefyd eu gwneud yn yr ardal gyfagos, a bod yn sicr y bydd unrhyw atgyfeiriadau yn cael eu trin yn effeithiol.

Enghraifft arall yw prynwr sy'n bwriadu trefnu ymweliad cymhelliant tridiau â Chymru sydd am wneud o leiaf 6 phrofiad safon uchel, bwyta mewn 2 fwyty unigryw ac aros mewn llety bwtîc 4-5 seren. Fel gweithgaredd neu atyniad a fyddech chi'n gallu adnabod y cynhyrchion a allai gydweithio, a pheidio cystadlu, ac a allai gynhyrchu taith gofiadwy trwy gydweithio? Byddai angen i chi gael sȇl bendith pob cynnyrch sy'n cymryd rhan yn y daith a bod yn sicr bod eich awgrymiadau yn cael eu dilyn yn effeithiol gan y partneriaid a awgrymir.

Mae'n bwysig cofio os nad ydych yn gallu manteisio ar y cyfle busnes ar yr adeg y mae ei angen, yna trosglwyddwch y busnes i gynnyrch addas arall yn eich ardal neu rhywle arall yng Nghymru a allai ddarparu ar gyfer y busnes o bosib. Mae pob digwyddiad busnes o fudd i'r economi ymwelwyr, i gyflenwyr twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru, a gallai cyfle busnes mwy addas arall gael ei gyfeirio atoch gan y cyflenwr hwnnw yn y dyfodol

Nid yw hon yn farchnad lle mae penderfyniadau busnes yn digwydd dros nos, felly mae datblygu cynllun busnes hirdymor gydag ymrwymiad gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn eich busnes ar gyfer y marchnadoedd B2B yn hanfodol. Gallai prynwyr a chynllunwyr rhyngwladol gan gynnwys DMCs (Cwmnïau Rheoli Cyrchfannau) a PCOs (Trefnwyr Cynadleddau Proffesiynol) fod yn cynllunio digwyddiadau unrhyw le o 12 mis hyd at 6 blynedd ymlaen llaw, yn dibynnu ar y digwyddiad.

Mae hyn yn cyd-fynd â fy angen busnes - beth nesaf?

Yn gyffredinol, mae Meet In Wales yn mynychu'r digwyddiadau canlynol ac mae cyfleoedd i bartneru â ni. Mae cyfleoedd ehangach hefyd wedi'u rhestru isod i gymryd rhan i ddatblygu eich cynnig busnes trwy aelodaeth, gweithdai, dysgu gan gymheiriaid ac adeiladu perthynas yn ogystal â rhannu arfer gorau. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un o'r rhai a restrir, e-bostiwch meetinwales@gov.wales i drafod eich cynnig neu am ragor o wybodaeth cliciwch ar y dolenni isod.

Arddangosfeydd a digwyddiadau

Mae prynwyr yn y digwyddiadau hyn yn amrywio o adeiladu tîm a chynllunwyr cymhelliant i drefnwyr corfforaethol a chymdeithasau a chynllunwyr digwyddiadau ar gyfer digwyddiadau mawr a bach. Gall digwyddiadau cymdeithas fod yn unrhyw beth rhwng 150 a 2000 o gynrychiolwyr. Maint cyfartalog digwyddiad cymdeithas yw tua 350 o gynrychiolwyr.

IMEX Frankfurt yw’r sioe fasnach fwyaf yn Ewrop ar gyfer y diwydiant cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae’n ymuno hynllunwyr a phrynwyr digwyddiadau byd-eang ynghyd sydd â phŵer prynu sylweddol.

The Meetings Show ExCel Llundain, yw prif arddangosfa'r DU ar gyfer y diwydiant cyfarfodydd, digwyddiadau, cynadleddau a chymhellion, gan gyflwyno'r rhaglen brynwyr fwyaf a gynhelir o unrhyw ddigwyddiad diwydiant yn y DU.

Mae IMEX America Las Vegas rhoi cyfle i gwrdd â dros 4,000 o benderfynwyr Digwyddiadau Busnes o gymhellion lefel uchel i gonfensiynau cysylltiad mawr sydd â phŵer prynu go iawn yn un o'r marchnadoedd mwyaf yn y byd.

IBTM World Barcelona yw 'r ddigwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer y diwydiant cyfarfodydd, cymhellion, cynadleddau a digwyddiadau. Mae’n ymuno’r diwydiant cyfarfodydd byd-eang, , meithrin cysylltiadau wyneb yn wyneb â'r pobl cywir, cael mewnwelediad allweddol i'r diwydiant a chymryd rhan mewn cyfleoedd rhwydweithio dylanwadol.

Mae M&I Forums yn gymysgedd o gyfarfodydd 1-2-1 gyda'r prynwyr a'r cyflenwyr o'r ansawdd uchaf, profiadau cyrchfannau trochi, a chymdeithasu gyda'r nos sy'n gwneud y gorau o ROI gyda sparc go iawn trwy gysylltiadau personol. .

Aelodaeth a chyfleoedd cyfoedion i gyfoedion

 

VisitBritain yw'r asiantaeth dwristiaeth genedlaethol ar gyfer Prydain. Mae VisitBritain yn gwerthu Prydain yn rhyngwladol yn ogystal â Lloegr. Bob mis rydym yn rhannu straeon newyddion gan gyflenwyr diwydiant Cymru sy'n anfon gwybodaeth atom drwy ein blwch post productnews@gov.wales , sydd wedyn yn cael ei ddanfon gan VisitBritain i'w swyddfeydd a'u timau rhyngwladol i helpu i hyrwyddo'r DU.

Yn ogystal â denu busnes rhyngwladol i'r DU, mae VisitBritain yn cynnig Rhaglen Twf Digwyddiadau Busnes. Mae'r Rhaglen Twf Digwyddiadau Busnes yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i dyfu'r sector digwyddiadau busnes ledled Prydain. Trwy'r gronfa hon, mae VisitBritain yn cefnogi sefydliadau i gynnal digwyddiadau busnes rhyngwladol, p'un a hoffech chi ennill digwyddiadau rhyngwladol neu i ddatblygu, tyfu a rhyngwladoli eich digwyddiadau, gall y Rhaglen Twf Digwyddiadau Busnes helpu.

 

Mae Meetings Industry Association (mia) yn sefydliad aelodaeth sy'n hyrwyddo lleoliadau a chyrchfannau yn y farchnad digwyddiadau busnes. mia yw'r brif gymdeithas sy'n cefnogi ac yn tyfu'r diwydiant cyfarfodydd busnes a digwyddiadau yn y DU. Mae'n geidwad a’r raglen AIM Secure, yr unig safon ansawdd cydnabyddedig yn y DU ar gyfer y diwydiant cyfarfodydd. Mae mia yn cefnogi aelodau drwy arweinyddiaeth meddwl, ymchwil, addysg, hyfforddiant, canllawiau arfer gorau, a'i nôd yw hyrwyddo cynaliadwyedd, DEI a lles trwy offer a mewnwelediadau arfer gorau. Mae mia yn cynnig cyfres o sesiynau addysg am ddim a thâl, grwpiau cyfoedion i gyfoedion, gwobrau blynyddol a rhaglen ragoriaeth i'w haelodau a hefyd digwyddiadau am ddim i'r rhai nad ydynt yn aelodau sydd yn y diwydiant. Mae'n casglu ymchwil, manylion a phorthiannau amserol i Lywodraeth y DU. Mae grŵp Cyrchfan i gyfoedion sy'n cwrdd yn chwarterol ac yn canolbwyntio ar heriau cyrchfan i'r diwydiant. Mae yna hefyd Uwchgynhadledd Cyrchfan flynyddol sy'n cael ei gynnal mewn gwahanol rannau o'r DU bob blwyddyn ac mae wedi'i gynnal yng Ngogledd Cymru o'r blaen, sy'n cynnig gweithdai addysg, cydweithredu ac arfer gorau ar gyfer cyflenwyr y diwydiant digwyddiadau ledled y DU.

ICCA UK & Ireland Chapter yw'r aelodaeth gyfunol sy'n cynrychioli'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae'n cynnal rhaglen flynyddol o gyfarfodydd gan arwain at gynhadledd flynyddol Chapter a gynhelir yn flynyddol mewn gwahanol rannau o'r DU ac Iwerddon ac mae'n galluogi aelodau o'r diwydiant digwyddiadau i gydweithio, rhannu arfer gorau, trafod meysydd sy'n peri pryder a datblygu sgiliau wrth ddenu Digwyddiadau Busnes. Mae ymdrechion y penodau hyn yn cael eu bwydo i sefydliad ehangach ICCA.

Mae ICCA yn gymuned fyd-eang a chanolfan wybodaeth ar gyfer y gymdeithas ryngwladol a'r diwydiant cyfarfodydd llywodraethol. Mae ICCA yn arbenigo yn y sector cyfarfodydd cymdeithasau rhyngwladol, gan gynnig data, addysg, sianeli cyfathrebu heb ei ail, yn ogystal â chyfleoedd datblygu busnes a rhwydweithio. ICCA yw un o'r sefydliadau amlycaf ac mae'n eiriol dros fyd cyfarfodydd rhyngwladol. Mae Cymuned Cymdeithas ICCA yn cynnig cymdeithasau ar draws y byd addysg, cysylltiadau, offer ac adnoddau i'w helpu i drefnu cyfarfodydd mwy effeithiol a llwyddiannus tra'n cynnig y gallu i aelodau nodi trwy eu cronfa ddata cynadleddau a chyngresau cymdeithas allweddol sydd ar gael i leoliadau a rhanbarthau wneud cais i'w cynnal.

ABPCO yw Cymdeithas Trefnwyr Cynadleddau Proffesiynol Prydain (ABPCO) – corff proffesiynol blaenllaw’r DU ar gyfer Cynhadledd Cymdeithas a Sefydliad Digwyddiadau Nid-er-elw. Ymroddedig i rymuso a chefnogi aelodau i gyflwyno cynadleddau eithriadol sy’n gadael effaith barhaol. Gydag etifeddiaeth o ragoriaeth sy’n rhychwantu blynyddoedd, mae’n dwyn ynghyd gymuned fywiog o weithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n angerddol am greu profiadau cynhadledd trawsnewidiol.

UKEVENTS (BVEP gynt) yw llais cydnabyddedig a chyfunol diwydiant digwyddiadau blaenllaw’r DU sy’n cynrychioli pob rhan o’r sector digwyddiadau ledled y DU ac yn hyrwyddo gwerth economaidd, cymdeithasol a thrawsnewidiol digwyddiadau i helpu i greu diwydiant digwyddiadau cryf, cynyddol a chynaliadwy yn y DU ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau, arddangosfeydd, sioeau masnach, teithio cymhelliant, lletygarwch, seremonïau, chwaraeon, diwylliannol, awyr agored a gwyliau, addysg a hyfforddiant digwyddiadau, yn ogystal â gwasanaethau eraill a ddarperir gan y gadwyn gyflenwi ehangach.

Mae Great Ambassador Network Group (GANG) yn gasgliad o Gyrchfannau a CVBs sy’n rhedeg Rhaglenni Llysgennad. Mae’n cynnal digwyddiad blynyddol i gydweithio, rhwydweithio, rhannu mewnwelediadau a syniadau ar redeg Rhaglenni Llysgennad, recriwtio a chadw Llysgenhadon, gwneud cais, ennill a chynnal digwyddiadau gyda Llysgenhadon Cynhadledd a’i nôd yw dod ag Academyddion, Prifysgolion a Chyrchfannau ynghyd i rannu arfer gorau.

Destination International yw sefydliad proffesiynol sy'n cynrychioli sefydliadau cyrchfan a chanolfannau cynadledda ac ymwelwyr ledled y byd. Mae Rhaglen Pathfinders DI yn gweithio gyda'r tîm Cyrchfannau Rhyngwladol (UDA) i ddod â thueddiadau allweddol mewn cyrchfannau Ewropeaidd i oleuo a deall sut mae arweinwyr yn y diwydiant yn camu i fyny i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd. Mae'r Pathfinders yn gweithio gyda Destinations International (UDA) i ddatblygu fframwaith i godi llais cyfunol sefydliadau cyrchfan yn Ewrop, a chyfathrebu effaith y gwaith mewn gwahanol gymunedau yn well.

Mae PCMA EMEA yn cynrychioli cynllunwyr digwyddiadau a chyflenwyr ledled Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica. Convening EMEA yw digwyddiad blaenllaw blynyddol PCMA EMEA sy'n dod â'r diwydiant digwyddiadau busnes byd-eang at ei gilydd ar gyfer rhaglen 3 diwrnod ymgolli yn Ewrop. Mae'r digwyddiad yn denu 500+ o arweinwyr digwyddiadau busnes o dros 40 o wledydd i herio ei gilydd a datblygu ffyrdd o symud ymlaen gyda'i gilydd. Dyma'r llwyfan i rannu gwybodaeth, gwneud cysylltiadau ystyrlon, dysgu, gwneud busnes, cael eich ysbrydoli a thyfu fel unigolion, timau a sefydliadau.

Straeon Perthnasol