Eich data a ni
Mae timau’r Diwydiant Twristiaeth a Datblygu yn Llywodraeth Cymru yn parchu ac yn dymuno diogelu preifatrwydd ein cleientiaid a'n partneriaid. Mae'r hysbysiadau preifatrwydd isod yn nodi'r manylion mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth a gasglwn
Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Twristiaeth Llywodraeth Cymru
Gweminarau Croeso Cymru – Recordiad Microsoft Teams
Diwylliant a Chwaraeon Digwyddiadau Cymru
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgysylltu â'r Diwydiant Croeso Cymru
Grant Cyfalaf Croeso i Bawb ar gyfer prosiectau hygyrchedd 2026-2027 Hysbysiad Preifatrwydd
04/09/2026
Yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn prosesu eich data personol mewn modd teg, cyfreithlon a thryloyw.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a roddir gennych mewn perthynas â gwaith Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Twristiaeth Croeso Cymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus i feithrin perthynas â chi fel rhanddeiliad allweddol ym maes twristiaeth, i wneud y canlynol:
- rhoi gwybodaeth i chi
- tynnu sylw at ddigwyddiadau perthnasol a'ch gwahodd i'r digwyddiadau hynny
- tynnu eich sylw at gyfleoedd i drawsweithio a datblygu busnes a allai fod o fudd i chi
- eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiadau ymgynghori, ymarferion ymchwil neu grwpiau ffocws
Yn achos grwpiau penodol, efallai y cewch eich gwahodd i ymuno ar wahân, lle bydd rheolaethau a hysbysiadau preifatrwydd sy'n ymwneud yn benodol â'r gweithgaredd yn cael eu darparu.
Y data personol y byddwn ni'n eu casglu a'u prosesu
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod’.
Yn achos gwaith Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Croeso Cymru, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Enw
- Swydd
- Manylion y Busnes
- Cyfeiriad e-bost
Sut y cedwir eich data yn ddiogel
Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel yn y DU, ac yn achos gwaith Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Croeso Cymru mae eich data personol wedi'u cyfyngu i'r aelodau staff sy'n ymdrin â'r data'n uniongyrchol.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion posibl o dorri rheolau diogelu data. Os amheuir bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Dim ond ar gyfer prosiectau/gweithgareddau/gwaith ymchwil/ymgyngoriadau a digwyddiadau sy'n ymwneud yn benodol â'r sector twristiaeth y bydd eich gwybodaeth ar gael (fel y bo'n briodol) i staff/timau ehangach Llywodraeth Cymru, a bydd rheolaethau priodol yn cael eu rhoi ar waith a fydd yn ymwneud â defnyddio a storio eich data.
O bryd i'w gilydd bydd trydydd partïon yn gyfrifol am gyflawni prosiectau/gweithgareddau/gwaith ymchwil/ymgyngoriadau a digwyddiadau twristiaeth ar ran Llywodraeth Cymru a byddwn yn rhoi eich manylion iddynt gysylltu â chi at y diben hwnnw.
Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei storio’n ddiogel a, phan fo hynny'n briodol, yn cael ei rhannu a'i defnyddio yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.
Timau gwasanaethau cymorth a'r gweinyddwyr technegol ar gyfer systemau sy'n cynnal y system TG. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion cyswllt ar gyfer gweithgareddau marchnata. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data at y diben penodol hwn heb eich caniatâd.
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd eich data personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru, ac yn cael eu dinistrio'n ddiogel wedi hynny. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.
Eich hawliau unigol
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i gael gwybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a chael gweld y data hynny
- ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
- i ofyn inni ‘ddileu’ eich data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â quality.tourism@llyw.cymru.
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eich data personol yn cael eu trin yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i'r cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, mae sawl ffordd o wneud hynny:
Ffurflen ar-lein: Llenwch ein ffurflen gŵynion ar-lein
E-bost - Lawrlwythwch y ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i Cwynion@llyw.cymru
Dros y ffôn - 03000 251378
Drwy'r post i:
Y Tîm Cynghori ar Gŵynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Byddwn yn cydnabod bod eich cwyn wedi dod i law ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddog Cyswllt i Gwsmeriaid/Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
18/08/2026
Yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn prosesu eich data personol mewn modd teg, cyfreithlon a thryloyw.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a roddir gennych mewn perthynas â Chynlluniau Sicrwydd Croeso Cymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Y data personol y byddwn ni'n eu casglu a'u prosesu
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod’.
Er mwyn prosesu eich cais a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eich busnes a statws eich achrediad i bartneriaid mewnol (adrannau eraill Llywodraeth Cymru) ac allanol (Simpleview, Awdurdodau Lleol, Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru, Sefydliadau Twristiaeth Cenedlaethol, Canolfannau Croeso a'u Hasiantau Rheoli), mae Llywodraeth Cymru yn gofyn ichi roi gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth fusnes yn unol â’r hyn a nodir ar y ffurflen gais. Mae angen prosesu’r data hyn er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni'r tasgau a ganlyn.
Mae angen manylion cyswllt fel bod Croeso Cymru yn gallu cysylltu â chi i wneud trefniadau ar gyfer yr ymweliad sicrhau ansawdd, anfon adroddiadau a thystysgrifau achredu, ac am resymau gweithredol.
Anfonir manylion cyswllt hefyd at Stiward Data Croeso Cymru (Simpleview) er mwyn iddo allu cysylltu â chi at ddiben rhoi eich manylion ar wefan ddefnyddwyr Croeso Cymru, sef www.croeso.cymru
Ar gyfer Cynlluniau Sicrwydd Croeso Cymru, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Enw’r Busnes
- Enw Cyswllt a Chyfeiriad y Busnes
- Cyfeiriad e-bost
Sut y cedwir eich data yn ddiogel
Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel yn y DU, ac yn achos Cynllun Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru mae eich data personol yn cael eu storio mewn system gyfyngedig sydd wedi'i gyfyngu i'r aelodau staff sy'n ymdrin â'r data'n uniongyrchol.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion posibl o dorri rheolau diogelu data. Os amheuir bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Efallai y bydd gwybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru am eich busnes yn cael ei rhannu â’r cyrff a ganlyn am y rhesymau a nodir uchod:
- Adrannau eraill Llywodraeth Cymru
- Stiward Data (Simpleview) – mae'r sefydliad hwn wedi'i gontractio i ddarparu gwasanaethau i Croeso Cymru
- Sefydliadau Twristiaeth Cenedlaethol
- Awdurdodau Leol
- Canolfannau Croeso a'u Hasiantau Rheoli
- Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru
Timau gwasanaethau cymorth a'r gweinyddwyr technegol ar gyfer systemau sy'n cynnal y system TG. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion cyswllt ar gyfer gweithgareddau marchnata. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data at y diben penodol hwn heb eich caniatâd.
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd eich data personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru, ac yn cael eu dinistrio'n ddiogel wedi hynny. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.
Eich hawliau unigol
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i gael gwybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a chael gweld y data hynny
- ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
- i ofyn inni ‘ddileu’ eich data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â quality.tourism@llyw.cymru.
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eich data personol yn cael eu trin yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i'r cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, mae sawl ffordd o wneud hynny:
Ffurflen ar-lein: Llenwch ein ffurflen gŵynion ar-lein.
E-bost - Lawrlwythwch y ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i Cwynion@llyw.cymru
Dros y ffôn - 03000 251378
Drwy'r post i:
Y Tîm Cynghori ar Gŵynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Byddwn yn cydnabod bod eich cwyn wedi dod i law ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddog Cyswllt i Gwsmeriaid/Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
04/09/2026
Yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn prosesu eich data personol mewn modd teg, cyfreithlon a thryloyw.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a roddir gennych mewn perthynas â Gweminarau Croeso Cymru - Recordiadau Microsoft Teams. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Y data personol y byddwn ni'n eu casglu a'u prosesu
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod’.
Yn achos Gweminarau Croeso Cymru - Recordiadau Microsoft Teams, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion y Busnes
- Delwedd/llais (pan fo hynny'n berthnasol)
Sut y cedwir eich data yn ddiogel
Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel yn y DU, ac yn achos Gweminarau Croeso Cymru - Recordiadau Microsoft Teams mae eich data personol yn cael eu storio ar system gyfyngedig.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion posibl o dorri rheolau diogelu data. Os amheuir bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at sesiynau'r diwydiant twristiaeth, byddwn yn recordio'r sesiynau fel eu bod ar gael i'w gweld ar wefan Diwydiant Twristiaeth Llywodraeth Cymru am gyfnod cyfyngedig o amser er mwyn galluogi'r rhai nad oedden nhw wedi gallu bod yn y sesiwn i gael y newyddion diweddaraf.
Os byddwch yn dewis cymryd rhan mewn sesiwn ryngweithiol fyw, byddwch yn ymwybodol y gallai eich llun a'ch llais ymddangos ar y sgrin a bydd eich enw'n weladwy. Os nad ydych yn dymuno ymddangos mewn recordiadau, gwnewch yn siŵr bod eich camera a/neu eich meicroffon wedi'u diffodd yn y feddalwedd.
Dylai cyfranwyr fod yn ymwybodol bod recordiadau yn ddarostyngedig i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod recordiadau'n cael eu storio'n ddiogel, a dim ond ar gael drwy ddolen ddiogel i sianel YouTube Croeso Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd ar-lein), a gyhoeddir ar wefan Diwydiant Twristiaeth Croeso Cymru, cylchlythyrau'r diwydiant, a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol Croeso Cymru. Bydd y recordiadau ar gael i'n rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol. Bydd y recordiad yn cael ei gadw ac ar gael i'w weld drwy'r dolenni am gyfnod o flwyddyn o ddyddiad y digwyddiad cyn cael ei ddileu o'r holl fannau a ffynonellau a grybwyllwyd, oni nodir fel arall.
Ni fyddwn yn rhannu recordiadau yn ehangach na thrwy'r wefan a nodir oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith (ee y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth).
Rydym yn defnyddio Microsoft Teams ar gyfer digwyddiadau ar-lein. Mae manylion hysbysiad preifatrwydd a pholisïau diogelwch MS Teams ar gael yn y Microsoft Trust Centre.
Timau cymorth gwasanaethau Llywodraeth Cymru a'r gweinyddwyr technegol sy'n cynnal y system TG. Ni fydd gweinyddwyr y system dechnegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion cyswllt ar gyfer gweithgareddau marchnata. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data at y diben penodol hwn heb eich caniatâd.
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd eich data personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru, ac yn cael eu dinistrio'n ddiogel wedi hynny. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.
Eich hawliau unigol
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i gael gwybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a chael gweld y data hynny
- ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
- i ofyn inni ‘ddileu’ eich data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â DiwydiantCroesoCymru@llyw.cymru.
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eich data personol yn cael eu trin yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i'r cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, mae sawl ffordd o wneud hynny:
Ffurflen ar-lein: Llenwch ein ffurflen gŵynion ar-lein.
E-bost - Lawrlwythwch y ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i Cwynion@llyw.cymru
Dros y ffôn - 03000 251378
Drwy'r post i:
Y Tîm Cynghori ar Gŵynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Byddwn yn cydnabod bod eich cwyn wedi dod i law ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddog Cyswllt i Gwsmeriaid/Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
04/09/2026
Yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn prosesu eich data personol mewn modd teg, cyfreithlon a thryloyw.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yng nghyswllt gwaith Diwylliant a Chwaraeon Digwyddiadau Cymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o dasg gyhoeddus y Llywodraeth o gefnogi a datblygu'r sector digwyddiadau yng Nghymru, i wneud y canlynol:
- rhoi gwybodaeth i chi
- tynnu sylw at ddigwyddiadau perthnasol a'ch gwahodd i'r digwyddiadau hynny
- tynnu eich sylw at gyfleoedd i drawsweithio a datblygu busnes a allai fod o fudd i chi
- eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiadau ymgynghori, ymarferion ymchwil neu grwpiau ffocws
Yn achos grwpiau penodol, efallai y cewch eich gwahodd i ymuno ar wahân, lle bydd rheolaethau a hysbysiadau preifatrwydd sy'n ymwneud yn benodol â'r gweithgaredd yn cael eu darparu.
Y data personol y byddwn ni'n eu casglu a'u prosesu
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod’.
Yn achos gwaith Diwylliant a Chwaraeon Digwyddiadau Cymru, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Enw
- Swydd
- Manylion y Busnes
- Cyfeiriad e-bost
Sut y cedwir eich data yn ddiogel
Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel yn y DU, ac yn achos Diwylliant a Chwaraeon Digwyddiadau Cymru mae eich data personol wedi'u cyfyngu i'r aelodau staff sy'n ymdrin â'r data'n uniongyrchol.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion posibl o dorri rheolau diogelu data. Os amheuir bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Dim ond ar gyfer prosiectau/gweithgareddau/gwaith ymchwil/ymgyngoriadau a digwyddiadau sy'n ymwneud yn benodol â'r sector twristiaeth y bydd eich gwybodaeth ar gael (fel y bo'n briodol) i staff/timau ehangach Llywodraeth Cymru, a bydd rheolaethau priodol yn cael eu rhoi ar waith a fydd yn ymwneud â defnyddio a storio eich data.
Efallai y bydd Digwyddiadau Cymru yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon ond dim ond pan fyddant yn darparu gwasanaethau o dan gontract at y dibenion a amlinellir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu os oes rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei storio’n ddiogel a, phan fo hynny'n briodol, yn cael ei rhannu a'i defnyddio yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.
Os byddwch yn dymuno tynnu eich gwybodaeth bersonol o'r gronfa ddata cysylltiadau ar unrhyw adeg, rhowch wybod i ni drwy anfon neges e-bost at DigwyddiadauCymru@llyw.cymru.
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio a'i chadw ar y gronfa ddata nes y byddwch yn dewis peidio â chael y diweddariadau, drwy roi gwybod i ni yn ysgrifenedig.
Timau gwasanaethau cymorth a'r gweinyddwyr technegol ar gyfer systemau sy'n cynnal y system TG. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion cyswllt ar gyfer gweithgareddau marchnata. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data at y diben penodol hwn heb eich caniatâd.
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd eich data personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru, ac yn cael eu dinistrio'n ddiogel wedi hynny. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.
Eich hawliau unigol
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i gael gwybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a chael gweld y data hynny
- ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
- i ofyn inni ‘ddileu’ eich data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â DigwyddiadauCymru@llyw.cymru.
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eich data personol yn cael eu trin yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i'r cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, mae sawl ffordd o wneud hynny:
Ffurflen ar-lein: Llenwch ein ffurflen gŵynion ar-lein.
E-bost - Lawrlwythwch y ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i Cwynion@llyw.cymru
Dros y ffôn - 03000 251378
Drwy'r post i:
Y Tîm Cynghori ar Gŵynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Byddwn yn cydnabod bod eich cwyn wedi dod i law ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddog Cyswllt i Gwsmeriaid/Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
24/09/2026
Yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn prosesu eich data personol mewn modd teg, cyfreithlon a thryloyw.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a roddir gennych mewn perthynas â gwaith Ymgysylltu â Diwydiant Croeso Cymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Y data personol y byddwn ni'n eu casglu a'u prosesu
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod’.
Yn achos gwaith Ymgysylltu â Diwydiant Croeso Cymru byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Enw a manylion cyswllt
- Manylion y Busnes
- Cyfeiriad e-bost
Sut y cedwir eich data yn ddiogel
Mae data personol a roddir ar gyfer gwaith Ymgysylltu â Diwydiant Croeso Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel yn y DU, ac mae eich data personol yn cael eu storio mewn ffolder gyfyngedig sydd wedi'i gyfyngu i'r aelodau staff sy'n ymdrin â'r data'n uniongyrchol.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion posibl o dorri rheolau diogelu data. Os amheuir bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Llywodraeth Cymru.
Timau gwasanaethau cymorth a'r gweinyddwyr technegol ar gyfer systemau sy'n cynnal y system TG. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
Bydd eich data personol yn cael eu cadw'n ddiogel ac ni fyddant yn cael eu rhannu â trydydd partïon oni bai eu bod yn darparu gwasanaethau ar ran Llywodraeth Cymru at y dibenion a restrir uchod.
Tanysgrifio i'r Cylchlythyr
Pan fyddwch yn llenwi eich manylion ar ffurflen danysgrifio'r cylchlythyr ac yn dewis derbyn cylchlythyrau Ymgysylltu â'r Diwydiant Croeso Cymru, rydych yn rhoi eich caniatâd i'r cylchlythyrau hynny ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i weinyddu eich cyfrif e-bost a darparu unrhyw gynhyrchion a gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanyn nhw gennym ni.
Mae croeso i chi ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen datdanysgrifio mewn unrhyw neges e-bost y byddwch yn ei chael oddi wrthym, neu gallwch anfon e-bost atom yn DiwydiantCroesoCymru@llyw.cymru.
O dro i dro, byddwn yn anfon newyddion a gwybodaeth atoch a fydd o ddiddordeb ichi, yn ein tyb ni, yn unol â’ch diwydiant a’ch lleoliad daearyddol.
Yn unol ag arferion gorau ar draws y diwydiant twristiaeth, pan fyddwch yn dewis datdanysgrifio o'n cylchlythyr, bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gadw ar restr atal i sicrhau nad ydych bellach yn cael deunydd marchnata neu ddiweddariadau am y diwydiant gan gylchlythyrau Ymgysylltu â'r Diwydiant Croeso Cymru. Rydyn ni'n diweddaru ein rhestr bostio yn rheolaidd a byddwn yn tynnu eich manylion oddi ar ein system os nad fyddwch yn agor unrhyw e-byst a anfonir gennyn am gyfnod o dair blynedd.
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar y gronfa ddata nes i chi ddewis peidio â chael y diweddariadau.
Eich hawliau unigol
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i gael gwybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a chael gweld y data hynny
- ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
- i ofyn inni ‘ddileu’ eich data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â DiwydiantCroesoCymru@llyw.cymru.
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eich data personol yn cael eu trin yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i'r cyfeiriad isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, mae sawl ffordd o wneud hynny:
Ffurflen ar-lein: llenwch ein ffurflen gŵynion ar-lein.
E-bost - Lawrlwythwch y ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i cwynion@llyw.cymru
Dros y ffôn - 03000 251378
Drwy'r post i:
Y Tîm Cynghori ar Gŵynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Byddwn yn cydnabod bod eich cwyn wedi dod i law ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddog Cyswllt i Gwsmeriaid/Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio a phrosesu eich data personol yn deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw.
Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych wedi'i ddarparu mewn perthynas â grant Croeso i Bawb. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio ynom i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Pa ddata personol y byddwn yn ei gasglu a'i brosesu
Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.
Ar gyfer y cynllun grant hwn byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Enwau
- cyfeiriad busnes
- manylion cyswllt fel cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn
- gwybodaeth ariannol
- adnabod dyfais gan gynnwys eich cyfeiriad IP
Sut rydym yn cadw eich data yn ddiogel
Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel yn y DU, ac ar gyfer y grant hwn mae eich data personol yn cael ei storio mewn system gyfyngedig a/neu wedi'i gyfyngu i'r aelodau staff uniongyrchol.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os bydd amheuaeth o doriad yn digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Pwy fydd yn cael mynediad at eich data
Bydd gan Lywodraeth Cymru fynediad at y wybodaeth bersonol a ddarperir gennych. Efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth sy'n ymwneud â'ch cais yn ddiogel gyda thrydydd partïon dethol gan ddefnyddio systemau rhannu ffeiliau electronig diogel.
Mae trydydd partïon y gallwn rannu eich gwybodaeth gyda nhw yn cynnwys:
Piws (Cymdeithas Budd Cymunedol yr ydym yn partneru â hi ar gyfer y cynllun hwn sydd ag arbenigedd mewn materion hygyrchedd ar gyfer twristiaeth a lletygarwch) at ddibenion gwerthuso ceisiadau yn unig. Ni fydd Piws yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
Cefnogi timau a gweinyddwyr system sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd gweinyddwyr y system yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.
Asiantaethau atal twyll, lle bo angen, i helpu i atal a chanfod twyll a gwyngalchu arian.
Pa mor hir y cedwir eich manylion
Bydd eich data personol yn cael ei gadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddinistrio'n ddiogel. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.
Eich hawliau unigol
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- cael gwybod am y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi ac i gael mynediad ato
- gofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- er mwyn i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau)
- i (mewn amgylchiadau penodol) cludadwyedd data
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r CroesoiBawb@llyw.cymru
I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: dataprotectionofficer@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk (Saesneg yn unig)