Wal Hwyl
Fel rhan o'n hymgyrch farchnata mae'r “Wal Hwyl” yn ymddangos ar hafan Croeso Cymru. Mae'r "wal" yn llawn adegau o hwyl a llawenydd - hwyl - ledled Cymru ac wrth i'r ymgyrch fynd rhagddi, byddwn yn gofyn i ymwelwyr ein tagio fel ei bod yn cynnwys pobl yn cael hwyl yng Nghymru.
Defnyddiwch y tagiau canlynol #FeeltheHwyl, #Hwyl, #VisitWales a #CroesoCymru. Bydd cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn ymddangos gydol y flwyddyn, ond i ddechrau, h.y. yn y lansiad, bydd Croeso Cymru yn defnyddio rhai o'n hoff bostiadau hwyliog ein hunain.
Os hoffech i'ch busnes neu'ch cyrchfan gael ei ystyried i fod yn rhan o gynnwys lansio’r Wal Hwyl, e-bostiwch Croeso@llyw.cymru – y cyfan sydd ei angen arnom yw enw cyswllt, e-bost, ac enw eich busnes, ac yna byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod pa fath o fideo neu bostiad yr ydym yn chwilio amdano a'ch helpu i gael eich cynnwys.


