Ymgyrch 'Starring GREAT Britain' 2025

Cymerwch ran yn ymgyrch boblogaidd newydd VisitBritain 'Starring GREAT Britain’.

Mae Croeso Cymru wedi partneru â VisitBritain i arddangos lleoliadau eiconig Cymreig yn yr ymgyrch newydd 'Starring GREAT Britain'. (Saesneg yn unig)

O fydoedd hudol House of the Dragon, His Dark Materials a Harry Potter, i anturiaethau cyffrous Doctor Who, mae Cymru wedi bod yn lleoliad i rai o'r cynyrchiadau ffilm a theledu mwyaf eiconig.

Gwyliwch y ffilm hon sy’n cynnwys Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Twristiaeth, Marchnata, Digwyddiadau a Chreadigol, sy'n siarad am  yr ymgyrch ‘Starring GREAT Britain’, a rhoi pwyslais ar Gymru fel prif leoliad ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu.

Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Twristiaeth, Marchnata, Digwyddiadau a Chreadigol, yn siarad am yr ymgyrch ‘Starring GREAT Britain’.

Bydd ffilm yr ymgyrch (Saesneg yn unig) yn tynnu sylw at olygfeydd o House of the Dragon HBO, a gafodd ei ffilmio yng Ngogledd Cymru.

Gwyliwch y golygiad 30 eiliad hwn fel rhan o ymgyrch gyffredinol 'Starring GREAT Britain'.

Ffilm fyrrach o’r ymgyrch gyffredinol ‘Starring GREAT Britain’ (Saesneg yn unig)

Mae ffilmiau a sioeau teledu yn ysgogi pobl i deithio. Mae ymchwil ddiweddaraf VisitBritain yn dangos bod mwy na 9 o bob 10 darpar ymwelydd â'r DU yn awyddus i gynnwys lleoliadau teledu a ffilm yn eu taith.

Mae Croeso Cymru yn gweithio'n agos gyda Cymru Creadigol i hyrwyddo Cymru fel lleoliad twristiaeth sgrin.

Cymerwch ran:

  • Darganfyddwch sut y gall ymuno â'n cynlluniau sicrhau ansawdd roi sicrwydd i'ch gwesteion a'ch busnes. Gall busnesau sy'n cefnogi criwiau Teledu/Ffilm gofrestru ar gyfer Gwobr Croeso Croeso  i hyrwyddo eu gwasanaethau.
  • Mae VisitBritain yn gwahodd busnesau, atyniadau a chyrchfannau i gymryd rhan trwy rannu’r profiadau y maen nhw’n eu cynnig o dwristiaeth sgrin leol fel lleoliadau ffilmio, teithiau cerdded, gweithgareddau neu brofiadau ar thema ffilm a theledu, ar draws eu sianeli eu hunain gan ddefnyddio #StarringGreatBritain.
  • Defnyddiwch y tagiau canlynol hefyd #FeeltheHwyl, #Hwyl, #VisitWales a #CroesoCymru a dywedwch wrthym am eich teithiau a'ch profiadau twristiaeth sgrin: productnews@llyw.cymru 

Dysgwch fwy am sut i gymryd rhan yn yr ymgyrch 'Starring GREAT Britain'. (Saesneg yn unig)

Straeon Perthnasol