Partneriaethau cyfryngau

Lansiwyd ein hymgyrch Hydref ym mis Medi drwy gyfres o bartneriaethau cyfryngau proffil uchel. Bydd cydweithrediadau â Cool Stays, British Vogue, Women & Home, RSPB, a Wanderlust yn targedu ein cynulleidfaoedd craidd drwy hysbysebion print a chynnwys digidol a chymdeithasol deinamig, gan adeiladu mwy o ymwybyddiaeth o Gymru fel prif gyrchfan gwyliau byr.

Gwestai yn aros yn Rhiw Wood Treehouses yn dal Tylluan
Rhiw Wood Treehouses, Powys

Teledu/ffrydio/allan o'r cartref

Yr hydref / gaeaf hwn rydym yn ehangu ein presenoldeb ar draws ffrydio a theledu gydag ymddangosiad cyntaf ar Amazon Prime Video, gan ddefnyddio eu targedu parti cyntaf unigryw i gyrraedd pob rhan allweddol o’r gynulleidfa. Bydd y gweithgaredd hefyd yn parhau ar Netflix, Disney ac ITVX.

Fideo wedi'i ffrydio ar y teledu fel rhan o ymgyrch Blwyddyn Croeso

Ymgyrch Hwyl

Mae ymgyrch bresennol Hwyl wedi bod yn canolbwyntio'n bennaf ar deuluoedd a’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored. Mae uchafbwyntiau diweddar yn dangos Pinterest fel sianel sy'n perfformio orau, yn enwedig wrth ysbrydoli’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored, tra bod Reddit wedi cyflwyno cyfradd clicio drwodd trawiadol ymhlith cynulleidfaoedd teuluol. Byddwn yn ymgorffori'r mewnwelediadau hyn yn yr ymgyrch nesaf, sydd i’w lansio ym mis Rhagfyr.

Hysbysebion amserlenni

Rydym wedi cyflwyno hysbysebion amserlenni misol ar Meta, pob un yn targedu cynulleidfa benodol ac yn cynnwys taith enghreifftion dri diwrnod mewn ardal wedi’i hamlygu. Mae'r hysbysebion hyn yn sicrhau cyfraddau ymgysylltu uchel yn gyson, gan hyrwyddo atyniadau, gweithgareddau ac opsiynau bwyta lleol yn effeithlon.

Hwyl - Selogwr Awyr Agored yn mwynhau gŵyl yng Nghymru
Hwyl - Selogwr Awyr Agored - Parc Beicio Cymru
Hysbysebion teithio ar Meta, pob un yn targedu cynulleidfa benodol.

Cyfryngau cymdeithasol â thâl Medi – Rhagfyr

O fis Medi i fis Rhagfyr, bydd y cyfryngau cymdeithasol â thâl yn canolbwyntio ar themâu tymhorol fel lliwiau'r Hydref, teithiau cerdded, hanner tymor Hydref, cynnwys amserlenni, a gwyliau Nadolig yn y wlad hon. Mae'r hysbysebion Meta hyn yn targedu archebwyr munud olaf, teuluoedd, gwyliau diwylliannol, y rhai sy’n mwynhau’r awyr agored, a mwy, gan anfon traffig i dudalennau glanio ffocws ar vw.com.

Ymgyrch Addo

Daeth ymgyrch "diogelwch yn yr awyr agored" Addo i ben ddiwedd mis Awst. Mae canlyniadau cynnar yn dangos perfformiad cryf i'r creadigol ar thema arfordirol ar draws Meta, Stackadapt, a YouTube.

Addo - Hysbysebion YouTube sy'n prerfformio orau
Addo - Hysbysebion YouTube sy'n prerfformio orau
Addo - Hysbysebion YouTube sy'n prerfformio orau
Addo - hysbysebion YouTube sy'n perfformio orau (mae'r engreifftiau hyn yn (Saesneg yn unig)).          

Ymgyrch Trafnidiaeth Cymru

O ganol mis Hydref ymlaen, byddwn yn cynnal ymgyrch ar y cyd gyda Trafnidiaeth Cymru i hyrwyddo opsiynau teithio cynaliadwy ar hyd llwybrau allweddol megis arfordir Gogledd Cymru, arfordir Ceredigion o Bwllheli i Aberystwyth, a phrif linellau sy’n arwain i Gaerdydd. Nod yr ymgyrch yw meithrin twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru drwy annog mwy o ymwelwyr i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Normaleiddio trafnidiaeth gyhoeddus — gan ei chyflwyno fel ffordd hawdd, bleserus a chynaliadwy o gyrraedd cyrchfannau gwyliau ac egwyl fer yng Nghymru.
  • Amlygu cyrchfannau allweddol yng Nghymru sy’n hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus ac annog ymweliadau — wedi’u harwain gan y tri blaenoriaeth allweddol: tymhoroldeb, gwariant ac ymlediad.
Menywod yn dal trên TrC
Ymgyrch Trafnidiaeth Cymru

Cŵn: Mwynhau Cymru gyda’ch ci yn 2025

Gan adeiladu ar fomentwm y llynedd, cyflawnodd ymgyrch Cymru gyda’ch ci eleni 3.7 miliwn o argraffiadau a chynhyrchu dros 1.58 miliwn o wyliau. Er bod yr ymgyrch â thâl wedi dod i ben, rydym yn parhau i ymgorffori'r thema sy'n gyfeillgar i gŵn mewn cynnwys parhaus. Er enghraifft, bydd dylanwadwr hygyrchedd WCP yn dod â'i chi ar ei thaith ym mis Medi ac mae'r dylanwadwr y llynedd Amy Parry wedi rhannu post arall yn ddiweddar yn tynnu sylw at ei phrofiad blaenorol ym Metws-y-Coed ((Instagram and TikTok (Saesneg yn unig)).

Parhewch i rannu cynnwys cysylltiedig ar gyfryngau cymdeithasol a rhowch wybod i ni os ydych yn cynnig mentrau newydd i'n hymwelwyr pedair coes.

Fideo ymgyrch Cymru i'ch ci 2025 (Saesneg yn unig)

Straeon Perthnasol