Diweddariad Hwyl
Mae'r haf bron yma, ac rydym am wneud yn siŵr bod pobl yn meddwl am ymweld â Chymru. Rydym yn cynnal llawer o ymgyrchoedd a gweithgareddau hyrwyddo i fanteisio ar archebion munud olaf a throsiadau ar gyfer marchnad y DU ac yng Nghymru a mwy o ystyriaeth hirdymor ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol.
Rydym wedi dechrau ail gam ein hymgyrch "Hwyl", sy'n cynnwys gweithgaredd digidol wedi'i dargedu ar draws pob platfform - gan gynnwys chwiliadau â thâl, Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO), hysbysebu rhaglennol, ac actifadu cysylltiadau cyhoeddus.
Ar gyfer cam 2 rydym yn canolbwyntio ar y cynulleidfaoedd targed canlynol:
- bobl sy'n caru diwylliant,
- teuluoedd sy'n chwilio am hwyl,
- bobl sy'n mwynhau'r awyr agored.
Mae adnabod eich cynulleidfa yn allweddol, darllenwch ein gwybodaeth ar ddeall ein cynulleidfa darged.


Cymru i'ch Ci 2025
Yn ogystal â'n prif ymgyrch Hwyl, rydym yn cynnal ymgyrch Cymru i'ch Ci - ymgyrch hwyliog i gyplau a theuluoedd sydd â chŵn. Mae'n dangos bod Cymru yn lle gwych ar gyfer gwyliau sy'n gyfeillgar i gŵn drwy gydol y flwyddyn.
Mae mwy o bobl yn chwilio am gyrchfannau gwyliau lle mae eu cŵn yn cael eu croesawu ac rydym yn manteisio ar y duedd hon ac yn sicrhau bod Cymru yn eu meddwl pan ddaw i gyrchfan sy'n gyfeillgar i gŵn.
Beth rydyn ni'n ei wneud:
- Hysbyseb deledu - mae'r hysbyseb ar y teledu (ITVX) ac ar-lein ym mis Mai a mis Mehefin. Mae wedi'i gwneud i ddenu sylw cŵn a'u perchnogion, gan ddefnyddio lliwiau glas a melyn llachar a synau ASMR fel sŵn chwibanu, cyfarth, allweddi'n tincian a chŵn yn anadlu.
- Rhannu negeseuon - annog pobl i fod yn berchnogion cŵn da. Rydym yn eu hatgoffa i ddilyn rheolau cefn gwlad a gweithredu'n gyfrifol, gan sicrhau bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn mewn lleoliadau amaethyddol.
Os ydych chi'n cynnig profiadau sy'n gyfeillgar i anifeiliaid anwes ac yn rhan o'n cynllun graddio Croeso Cymru, gallwch gael Gwobr Croeso am ddim.
Croeso i Wrecsam: Nawdd Disney+
Mae tymor 4 o Welcome to Wrexham wedi ddechrau ar 16 Mai, rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Disney i hyrwyddo Cymru cyn pob pennod gyda hysbysebion wedi'u lleoli a noddi rhaglenni sy'n targedu gwylwyr yn y DU. Croeso Cymru yw un o'r brandiau teithio cyntaf i hysbysebu ar Disney + ac mae'r cyfle noddi hwn yn cyd-fynd yn berffaith â brand Cymru gan ein galluogi i hyrwyddo Cymru ymhellach a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Welcome to Wrexham, Ymgyrch Reddit yn yr Unol Daleithiau
Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyffro gan gefnogwyr yn yr Unol Daleithiau sy'n caru'r sioe Welcome to Wrexham, rydym cynnal ymgyrch arbennig ar Reddit. Bydd hyn yn digwydd tua'r amser y daw Tymor 4 allan yng nghanol mis Mai. Bydd yr ymgyrch yn dangos Wrecsam a lleoedd cyfagos fel mannau gwych i bobl sy'n meddwl am daith i Gymru.
Bydd yr ymgyrch yn cynnwys:
- Fideo byr - bydd yr ymgyrch yn cynnwys fideo byr yn arddangos Wrecsam ac atyniadau cyfagos.
- Tudalen we arbennig - gan gynnwys cynllun teithio i helpu ymwelwyr i gael syniadau ar gyfer eu taith.
- Cynllun cysylltiadau cyhoeddus - rydym hefyd yn gweithio ar gynllun cysylltiadau cyhoeddus i dargedu defnyddwyr yn yr Unol Daleithiau.
- Gweithio gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam - i helpu hyd yn oed mwy o bobl i ddysgu am Gymru. Yr haf hwn, mae'r tîm yn mynd ar daith yn Awstralia a Seland Newydd, a byddant yn rhannu ysbryd hwyliog a chyfeillgar Wrecsam a Chymru gyda chefnogwyr yno.


Expedia
Dechreuodd ein hymgyrch Expedia ym mis Ebrill a bydd yn rhedeg tan fis Tachwedd. Mae wedi ei anelu at bobl yn yr Unol Daleithiau a'r Almaen. Y brif neges yw "Teimla'r Hwyl," sy'n golygu rhannu hwyl ac ysbryd Cymru. Rydym yn defnyddio hysbysebion baner ar wefan Expedia ac yn talu am negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol. Hyd yn hyn, mae'r canlyniadau'n edrych yn dda! Cyn bo hir, bydd yr ymgyrch yn symud i'r cam nesaf, lle gobeithiwn y bydd mwy o bobl yn archebu teithiau. Mae'n bwysig iawn i Gymru gael ei gweld ar wefannau mawr fel Expedia, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau. Mae'n helpu mwy o bobl i ddysgu am ein gwlad.
VisitBritain
Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda VisitBritain i sicrhau bod Cymru'n ymddangos yn amlwg yn yr ymgyrch ddiweddaraf i'w lansio, sef Starring Great Britain. Mae House of the Dragon yn ymddangos yn y brif ffilm arwr a ffilmiwyd rhannau ychwanegol yn hyrwyddo traethau Cymru gan VisitBritian yng Ngogledd Cymru y llynedd.
Dysgwch fwy am sut i gymryd rhan yn yr ymgyrch 'Serennu Prydain Fawr'.

Ymgyrch hwyl yr Almaen
Lansiwyd yr ymgyrch Hwyl yn yr Almaen ar 6 Mai. Mae wedi'i chynllunio i dargedu tri math o gynulleidfaoedd:
- selogion awyr agored
- teuluoedd
- teithwyr dinasoedd diwylliannol.
Bydd y cam cyntaf hwn o weithgaredd yn rhedeg tan 30 Mehefin ac mae'n cynnwys ystod o weithgareddau gan gynnwys; cynnwys fideo arwr, ymgyrch Hoffi Tudalen Facebook a hysbysebion a straeon Facebook ac Instagram.
Gweithgarwch partneriaeth y Diwydiant Deithio
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn partneriaeth â 4 Gweithredwr Teithiau allweddol yn yr Almaen (DERTOUR, Wolters Rundreisen, Eberhardt a Travelling Britain) i hyrwyddo eu pecynnau teithio Cymru i asiantau teithio yn yr Almaen a defnyddwyr yn yr Almaen, gyda'r nod o gynyddu archebion teithiau 'Cymru'.
Bydd y gweithgaredd marchnata yn digwydd rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2025 ac mae'n cynnwys amrywiaeth o elfennau digidol - hysbysebion cyfryngau cymdeithasol ar draws Facebook, Instagram a Pinterest, cynnwys cylchlythyrau B2C a B2B, cynnwys tudalen lanio Cymru a hysbysebion arddangos digidol.
Ymweliadau’r wasg 2025
Ar gyfer 2025/26, rydym yn canolbwyntio ein hymweliadau gan y wasg a’r cyfryngau ar hyrwyddo Blwyddyn Croeso.
Beth rydyn ni'n ei wneud:
- Newyddiadurwyr a Dylanwadwyr - rydym yn gwahodd dros 100 o awduron teithio a dylanwadwyr o'r DU i ymweld â Chymru a rhannu eu straeon. Rydym am iddynt brofi'r teimlad unigryw o hwyl - cyflwr dwfn o lawenydd a brwdfrydedd sy'n dod o ymgolli yn llwyr yn y foment. O'n traethau a'n mynyddoedd i wyliau a chroeso cynnes Cymru, rydym am dynnu sylw at yr eiliadau sy'n gwneud Cymru yn wirioneddol arbennig ac rydym am sicrhau ein bod yn cael cymaint o newyddiadurwyr a gweithwyr o'r cyfryngau i brofi'r eiliadau hyn i sicrhau sylw cysylltiadau cyhoeddus gwych i Gymru.
- Grwpiau rhyngwladol - rydym yn gwahodd grwpiau o newyddiadurwyr o wledydd eraill i ymweld â Chymru. Rydym yn cynnal tua deg taith grŵp bob blwyddyn a llawer mwy o deithiau i ymwelwyr unigol. Mae'r rhain yn helpu teithiau i ddangos rhannau gorau Cymru i bobl o bob cwr o'r byd.
Cymerwch olwg ar ychydig o sylw diweddar yn y cyfryngau yn y DU:
The best beaches in Wales: 16 spectacular spots (Saesneg yn unig)
A good walk: Mynydd Garthmyn and Capel Garmon, Eryri (Snowdonia) National Park (Saesneg yn unig)
The South Wales mining village that made Richard Burton a global icon (Saesneg yn unig)
Teithiau i'r wasg ryngwladol mewn grwpiau
Rydym yn cynnal amrywiaeth o deithiau i'r wasg drwy gydol y flwyddyn, yn aml ar y cyd â VisitBritain.
Mae themâu eleni ar gyfer y teithiau hyn yn cynnwys:
- Moethusrwydd
- Golff
- Llenyddiaeth
- Cynaliadwyedd
- Iechyd a lles
- Bwyd a diod
- Lleoliadau teledu a ffilm
- Lleoliadau cyfeillgar i gŵn
Blwyddyn Cymru a Japan 2025
Ar 29 Ebrill 2025, cynhaliwyd Dathlu Cymru ym Mhafiliwn y DU yn Expo 2025, Osaka fel rhan o Flwyddyn Cymru a Japan 2025.
Profodd miloedd o ymwelwyr arddangosfa ymgolli, golygfeydd, synau a blasau Cymru mewn dathliad o greadigrwydd ac arloesedd – gyda pherfformiadau cerdd a dawns, samplau o fwyd a diod Cymreig a chomisiynau arbennig o grefftau Cymreig i ddathlu'r cysylltiad rhwng ein dwy genedl.
Cafodd ymwelwyr yr Expo gyfle unigryw hefyd i gasglu gasglu set arbennig o stampiau Eki sy'n cynnwys y Ddraig Goch, a ddyluniwyd gan y darlunydd Cymreig Jonathan Edwards, blasu bwyd a diod, a theimlo ffabrigau traddodiadol Cymru.



Cynhaliwyd perfformiadau gan gerddorion o Calan, Taf Rapids, a NoGood Boyo a'r criw dawns Qwerin y tu allan i'r Pafiliwn, gan ddenu torfeydd i ddathlu tapestri diwylliannol Cymru. Perfformiodd llysgennad ieuenctid yr Urdd a myfyriwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Owain Rowlands, fersiwn a gomisiynwyd yn arbennig o'r gân draddodiadol Japaneaidd, Furusato, ac ymunodd â Tim Rhys-Evans (cyfarwyddwr cerddorol y Coleg Cerdd a Drama) wrth iddo arwain y dorf o Japan i ganu Calon Lân. Gwnaeth Mistar Urdd ymddangosiad hefyd ochr yn ochr â masgot Expo 2025 Myaku-Myaku.
Bydd pob arddangosfa ddigidol yn arddangosfa Cymru yn cael ei bweru gan Raspberry Pi; y ddyfais gyfrifiadurol chwyldroadol, maint poced, sy'n cael ei chynhyrchu yng Nghanolfan Dechnoleg Sony UK yng Nghymru. Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys negeseuon allweddol ynglŷn ag ymrwymiad Cymru i arloesedd cynaliadwy a Choedwig Genedlaethol Cymru, i gyd-fynd â dathliad 10fed pen-blwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Croeso a Chestyll
Dathlodd tîm masnach teithio Croeso Cymru Flwyddyn Croeso gan ymweld â Himeji ac Osaka yn Japan, gan feithrin cysylltiadau newydd a chryfhau perthnasoedd sefydledig fel rhan o Flwyddyn Cymru a Japan.
Roedden nhw wrth eu bodd yn cymryd rhan yn Niwrnod Twristiaeth y DU gan VisitBritain yn Expo 2025 Osaka, lle cawsant gyfle i gysylltu ag aelodau allweddol o'r diwydiant teithio yn Japan. Ynghyd â phartneriaid Twristiaeth Gogledd Cymru ac Academi Saesneg Geltaidd (Sesneg yn unig), fe wnaethant arddangos popeth sy’n gwneud Cymru’n gyrchfan rhaid-i’w-weld.
Ymwelodd tîm masnach deithio Croeso Cymru hefyd â chastell hardd Himeji, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sydd wedi’i gefeillio â’n castell ein hunain yng Ngonwy. Cawsant y fraint o gyfarfod â chynrychiolwyr o Ganolfan Cyfnewid Rhyngwladol Dinas Himeji, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Masahiko Yokota.
Cymerodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, ran mewn seremoni adnewyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) rhwng Castell Himeji a Chastell Conwy ym mis Ebrill.