Uwchgynhadledd Twristiaeth Cymru 2025
Mae arbenigwyr blaenllaw o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, y DU a thu hwnt wedi dod at ei gilydd i drafod tueddiadau a heriau'r dyfodol i dwristiaeth mewn Uwchgynhadledd Twristiaeth sy'n cael ei threfnu gan Croeso Cymru.
Roedd y digwyddiad pwysig hwn ar gyfer arweinwyr twristiaeth ac arbenigwyr o Gymru, y DU ac Ewrop i:
- rhannu mewnwelediadau a phrofiadau,
- a annog cydweithio ac arloesi o fewn y sector.
Roedd yn darparu:
- cyfle i glywed gan arbenigwyr am ddenu ymwelwyr rhyngwladol, trethi ymwelwyr, a rheoli cyrchfannau
- y cyfle i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac arbenigwyr gyfarfod a rhwydweithio ag arweinwyr twristiaeth eraill
- y posibilrwydd i archwilio cyfleoedd i’r diwydiant twristiaeth, sy’n ychwanegu £3.8 biliwn at economi Cymru bob blwyddyn.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector dros y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys:
- Croeso Cymru: Cyllideb refeniw o dros £9m a chyllideb gyfalaf o £6m
- Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru sy’n werth £50m
- Cronfa Y Pethau Pwysig gwerth £5m


Gyda chyfrifoldeb am Dwristiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad yn y digwyddiad."Mewn byd lle mae teithio yn ein cysylltu yn fwy nag erioed o'r blaen, nid wyf yn cymryd yn ganiataol y rôl hynod bwysig y mae busnesau twristiaeth a lletygarwch yn ei chwarae. Maent yn gyrru economïau lleol ac yn cynhyrchu incwm i gymunedau ledled Cymru. Mae ein huchelgais yn glir: datblygu profiadau o ansawdd uchel, gydol y flwyddyn sy'n cyfoethogi bywydau ymwelwyr a'n cymunedau lletyol. Rydyn ni'n buddsoddi i barhau â'n marchnata arobryn o Gymru i'r byd – ac rwy'n gwybod y gallwn weithio gyda'n gilydd i adeiladu ar y cryfderau niferus sy'n dod â phobl yma."
Adnoddau ar gael o'r digwyddiad
Mae’r cyflwyniadau canlynol bellach ar gael yn ein hasedau:
Cyflwyniad - David Edwards - Tourism Prospects for Wales (Saesneg yn unig)
Cyflwyniad - Joss Croft OBE - How can Wales compete to attract high-spending year-round international and domestic visitors? (Saesneg yn unig)
Cyflwyniad - Misa Novak - Case SLOVENIA (Saesneg yn unig)
Mewngofnodwch i Assets.Wales.com i weld y lluniau o'r digwyddiad.