Bydd y Gwobrau yn arddangos y gorau o dwristiaeth Cymru
Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau, 27 Mawrth, yn Venue Cymru yn Llandudno. Mae busnesau twristiaeth o bob rhan o Gymru yn cael eu cyfle i ddisgleirio mewn seremoni wobrwyo.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru. Mae’r gwobrau’n arddangos y gorau o’r goreuon yn y diwydiant sy’n cyflogi bron i 12 y cant o weithlu Cymru ac yn cyfrannu £3.8 biliwn i economi’r genedl bob blwyddyn.
Mae cyfanswm o 48 yn y rownd derfynol wedi cyrraedd y rhestr fer mewn 12 categori, maent yn amrywio o’r Gwesty Gorau i’r Digwyddiad Gorau ac yn cynnwys gwobrau Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol a Busnes Cyfeillgar i Gŵn Gorau.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Aled Rhys Jones, darlledwr adnabyddus sydd hefyd yn Brif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Darperir adloniant gan Welsh of the West End, a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent a Band Pres Llareggub gyda’u cyfuniad cyffrous o bop Cymraeg, jazz traddodiadol New Orleans a Hip Hop Efrog Newydd.
Mae tocynnau ar gael ar wefan Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru.
Noddwyr y Gwobrau
Diolch enfawr i'n noddwyr! Mae eich cefnogaeth yn amhrisiadwy i lwyddiant Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025. Rydym wrth ein bodd eich bod yn ymuno â'r digwyddiad mawreddog hwn.
Edrychwch ar ein noddwyr ar wefan y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru.
Rownd Derfynol
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol! Pob hwyl ar y noson.
Edrychwch ar ein rhestr fer ar wefan y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru.
