Croeso i Gymru

Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025 - Yr hyn fyddwn ni’n ei wneud i wella’r sector twristiaeth.

Croeso i Gymru 2020 – 2025 Blaenoriaethau i’r economi ymwelwyr: crynodeb - Crynodeb o’r wybodaeth a’r data a ddefnyddiwyd i ddatblygu '2020 – 2025 Blaenoriaethau i’r economi ymwelwyr'.

Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 – 2030

Lansiwyd Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol newydd Cymru ym mis Gorffennaf 2022. Mae’n nodi’r weledigaeth, y genhadaeth a’r amcanion ar gyfer gweithgarwch Digwyddiadau Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Gan gylchdroi o amgylch tri maes sef Pobl, Lle a Phlaned, mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sut y gall digwyddiadau a gyllidir ac a gefnogir gyfrannu at saith nod llesiant Llywodraeth Cymru, a sut y dylent wneud hynny.

Strategaeth ddigwyddiadau genedlaethol Cymru: cynllun gweithredu

Mae’r Cynllun Gweithredu, a ddatblygwyd yn dilyn y lansiad, yn:

  • manylu sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni, 
  • nodi targedau a blaenoriaethau, a 
  • rhoi mwy o fanylion am y cynllun. 

Datblygwyd y Cynllun mewn cydweithrediad llawn Grŵp Cynghori Diwydiant Digwyddiadau Cymru a’i is-grwpiau. Gan gynnwys cynrychiolwyr y diwydiant digwyddiadau o bob rhan o Gymru, mae’r gwaith ymgysylltu yn sicrhau dull gweithredu dan arweiniad y diwydiant o ran y rhaglen sy’n datblygu.  

Cenhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach

Cenhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach | LLYW.CYMRU

Mae’r genhadaeth yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer adeiladu economi ffyniannus, gyfartal a gwyrddach.

Strategaeth ryngwladol i Gymru

Strategaeth ryngwladol i Gymru | LLYW.CYMRU

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio ein dull ni o ymgysylltu’n rhyngwladol ac yn tynnu sylw at y camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau bod Cymru yn ehangu ei phroffil a’i dylanwad yn y byd.

Straeon Perthnasol

Grŵp yn bwrddio cwch Dale Princess ym Martin’s Haven, Sgomer, Sir Benfro.

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw