Polisïau a deddfwriaeth sy'n dylanwadu ar y sector twristiaeth yng Nghymru:
O Hydref 2026 ymlaen, bydd angen i bob darparwr llety i ymwelwyr sy'n derbyn archebion ar gyfer arhosiad dros nos yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Refeniw Cymru.
Mae cofrestru yn rhad ac am ddim a bydd yn cynnig data a gwybodaeth werthfawr i'r sector twristiaeth ledled Cymru.
Mae cofrestru yn ofyniad cyfreithiol a bydd cosbau ariannol i fusnesau nad ydynt yn cydymffurfio.
Mae Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025 yn caniatáu i gynghorau gyflwyno ardoll ymwelwyr dros nos i godi arian i gefnogi twristiaeth leol.
Prif bwyntiau:
- Gall cynghorau lleol ddewis a ydyn nhw am gyflwyno'r ardoll ymwelwyr yn eu hardal. Byddant yn gwneud y penderfyniad ar ôl ymgynghori â thrigolion a busnesau.
- Y cynharaf y gallai cyngor gyflwyno ardoll ymwelwyr yw ym mis Ebrill 2027.
- Bydd yr arian newydd hwn yn helpu ardaloedd lleol i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â lletya ymwelwyr, megis glanhau strydoedd, casglu gwastraff, cynnal toiledau, a diogelu atyniadau naturiol a diwylliannol i bawb eu mwynhau.
Deddfwriaeth sylfaenol yw'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) arfaethedig . Mae'r Bil wedi'i gynllunio i hyrwyddo datblygiad twristiaeth yng Nghymru ac mae'n darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cynllun trwyddedu ar gyfer llety i ymwelwyr. Mae'r cynllun trwyddedu yn adeiladu ar y gofrestr a sefydlwyd gan Ddeddf Llety i Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025 a bydd yn rheoleiddio llety i ymwelwyr yng Nghymru i sicrhau ei fod yn bodloni safonau penodol.
Mae rhagor o wybodaeth ar Trwyddedu llety i ymwelwyr yng Nghymru | LLYW. CYMRU.
Gan adeiladu ar y gofrestr o lety ymwelwyr a darparwyr, rydym yn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru. Bydd hyn yn cychwyn gyda llety hunanddarpar, hunanarlwyo, gyda'r gallu i ymestyn i fathau eraill o lety yn y dyfodol. Bydd hyn yn cefnogi twristiaeth yng Nghymru trwy:
- rhoi sicrwydd i ymwelwyr bod y llety yn cwrdd â'r safonau y byddent yn ei ddisgwyl
- darparu rheolaeth glir a chyson ar gyfer y darparwyr.
Cafodd y ddeddfwriaeth i gefnogi'r dull hwn ei gosod gerbron Senedd Cymru ar 3 Tachwedd 2025, ochr yn ochr ag Atodiad Esboniadol. Mae'r Bil bellach wedi cwblhau'i daith drwy'r Senedd ac wedi derbyn Cymeradwyaeth Frenhinol, gan ddod yn Ddeddf.
Mae'r Ddeddf hefyd yn creu Cod cyfraith Cymru sy'n ymwneud â thwristiaeth. Mae hyn yn dod â chyfreithiau twristiaeth bresennol ynghyd ac yn gwneud y gyfraith yn haws ei gyrchu a'i deall.
Y rhagosodiad cyfreithiol yw y bydd y cynllun trwyddedu yn dod i rym ym mis Mawrth 2030. Cyn hynny, bydd ymgynghori pellach ar y rheoliadau i’w gwneud o dan y Ddeddf, a bydd canllawiau ar y cynllun yn cael eu cyhoeddi.
Gwybodaeth bellach: Trwyddedu llety ymwelwyr yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Mae eiddo a ddefnyddir fel llety gwyliau hunanarlwyo yn cael eu dosbarthu naill ai'n ddomestig neu'n annomestig at ddibenion trethiant lleol. Mae eiddo domestig yn destun y dreth gyngor ac eiddo annomestig yn destun ardrethi annomestig (a elwir yn aml yn ardrethi busnes).
Mae angen diffiniad penodol i ddosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion trethi lleol, am ei bod yn bosibl y gallai'r un eiddo gael ei ddefnyddio naill ai at y diben hwn neu fel annedd ddomestig.
Rhagor o fanylion: Ardrethi Annomestig ar gyfer Eiddo Hunanddarpar yng Nghymru | Busnes Cymru
Y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005 (“y Gorchymyn Diogelwch Tân”) yw’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli diogelwch tân ym mhob eiddo yng Nghymru a Lloegr sy’n darparu llety i westeion sy’n talu.
Mae’r Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol os yw unrhyw un yn talu i aros yn eich eiddo neu mewn ystafell o fewn eich eiddo, heblaw am fyw yno’n barhaol. Mae’r Gorchymyn yn berthnasol i bob llety tymor byr nad yw’n cael ei osod fel prif breswylfa, hyd yn oed os ydych yn rhentu ystafell yn eich eiddo unwaith yn unig.
Mae’r Canllaw hwn yn darparu rhagor o wybodaeth ar sut i gydymffurfio â chyfraith diogelwch tân mewn llety bach, fel Gwely a Brecwast ac eiddo hunanddarpar.
Mae Equality Act 2010 (Deddf Cydraddoldeb 2010) yn berthnasol i bob busnes. Mae’r Ddeddf yn amddiffyn unrhyw un sy’n anabl, y tybir ei fod yn anabl, neu sy’n gysylltiedig â rhywun sy’n anabl. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawliau mynediad i’r unigolion hyn at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau (gan gynnwys atyniadau twristaidd a llety) ac yn sicrhau nad ydynt yn cael eu trin yn llai ffafriol na chwsmeriaid eraill.
Mae gofyn hefyd i chi wneud addasiadau rhesymol i’r ffordd rydych yn darparu eich gwasanaethau ac i nodweddion ffisegol eich eiddo er mwyn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid anabl eu defnyddio. Byddai’n anghyfreithlon gwrthod mynediad i berson anabl sydd gyda chi cymorth, ac eithrio dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol.
Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Cydraddoldeb a chymorth ar arferion busnes da ar gael ar Hafan | EHRC.