Pleser i Croeso Cymru oedd cael rhannu’r profiad a chynghorion da ein panel o arbenigwyr wrth iddynt drafod y tueddiadau a’r disgwyliadau diweddaraf ar gyfer denu ymwelwyr uchel eu gwariant i Gymru.
Mae recordiad o’r weminar a dolenni defnyddiol eraill o’r sesiwn ar gael isod nawr. Dyma sesiwn hanfodol i bob busnes sydd am wneud y gorau o’r pethau unigryw y mae gan Gymru i’w gynnig.
Yn ystod y drafodaeth, cafodd y panel:
- rannu enghreifftiau o’r byd go iawn
- ystyried sut y gall busnes ennyn diddordeb ymwelwyr heb gyllideb farchnata fawr
- sut mae gan Gymru gyfle unigryw i fanteisio ar farchnadoedd rhyngwladol a domestig ar gyfer ymwelwyr uchel eu gwariant, gan gynnig manteision arbennig ar sail ei threftadaeth ddiwylliannol a naturiol gyfoethog.
- a sut y mae cydweithio’n allweddol i sicrhau bod twristiaeth yn tyfu’n gynaliadwy. Ystyried sut y gall gweithio gyda Croeso Cymru a phartneriaid eraill, gan gynnwys platfformau digidol, helpu i adeiladu diwydiant twristiaeth cryf a llewyrchus yng Nghymru.
Ein panelwyr:

Joss Croft OBE, Prif Weithredwr, UKInbound

Karin Gidlund, Karin Tourism Solutions

Phil Scott, Partner Sefydlu a Pherchennog Gyfarwyddwr RibRide

Jane Rees-Baynes, Tŷ Gwledig Elm Grove
Gweminar – gwybodaeth ddefnyddiol
- Cwestiynau/canlyniadau pôl
- Gwybodaeth am Gymru i'r Fasnach Teithio | Fasnach Teithio Cymru (Saesneg yn unig)
- Hanfodion y Diwydiant Teithio | Diwydiant Croeso Cymru
- Gweithio gyda’r Diwydiant Teithio | Diwydiant Croeso Cymru
- Jargoniadur ar gyfer y Diwydiant Teithio | Diwydiant Croeso Cymru
- TXGB | Cynyddu gwerthiannau eich busnes | Diwydiant Croeso Cymru