Dulliau ymarferol o gyrraedd cwsmeriaid newydd

Mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i gyfres o dri sesiwn hyfforddi ar-lein ymarferol, hawdd eu dilyn sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddysgu am ffyrdd newydd o gyrraedd cwsmeriaid newydd.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn eich helpu:

  • Ddeall sut mae'r diwydiant deithio yn gweithio a pham mae'n bwysig i'ch busnes
  • Gwnewch y gorau o sianeli dosbarthu - cwmniau teithiau, asiantau teithio, a phlatfformau ar-lein, i gynyddu gwelededd ac archebion.
  • Magu hyder a darganfod y tueddiadau diweddaraf, p'un a ydych yn newydd i'r diwydiant teithio neu angen gloywi.

Mae recordiad o Sesiwn 3 (a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2026), ynghyd â dolenni defnyddiol eraill, ar gael isod. 

Mae recordiad o sesiynau 1 a 2 ar gfael hefyd:

Sesiwn 3: Dosbarthu digidol a gwelededd 

Gwneud i bresenoldeb ac archebion ar-lein weithio i chi. Rydym yn cynnwys:

  • Beth yw'r diwydiant teithio digidol?
  • Pam dosbarthu digidol?
  • Beth sydd ei angen arnoch i werthu ar-lein
  • Sut gall AI helpu?
  • Sut gallwch chi hyrwyddo eich cynhyrchion yn ddigidol?

Gwybodaeth ddefnyddiol:

TTMentorCyfle mentora un-i-un

I gael eich ystyried ar gyfer y cyfle mentora un-i-un, cwblhewch a chyflwynwch y Ffurflen Gais ar-lein erbyn 10:00 yb ar 3 Chwefror 2026. Ffurflen Gofrestru Archwilio/Mentora Busnes

Bydd y cyfnod archwilio busnes/mentora’n cael ei gynnal rhwng dechrau/canol Chwefror a chanol/diwedd mis Mawrth 2026, ac fe fydd yn cynnwys dau alwad wedi’u trefnu ymlaen llaw ar ddechrau ac ar ddiwedd y cyfnod hwn. Sicrhewch eich bod ar gael o amgylch y dyddiadau hyn cyn cyflwyno’ch cais. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch chi a Karin yn cytuno ar y dyddiadau penodol cyn gynted â phosib.

Cysylltwch â ni

I gael y manteision llawn, mynychwch neu gwyliwch bob un o'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein*.

*Archwiliadau busnes am ddim - Yn ogystal, mae lleoedd cyfyngedig ar gael ar gyfer archwiliadau busnes un-i-un a mentora i'r busnesau hynny sy'n cwblhau'r hyfforddiant.  I fod yn gymwys i wneud cais am un o'r 10 lle cychwynnol sydd ar gael, bydd angen i chi fod wedi mynychu neu wylio'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein erbyn 28 Ionawr 2026 a chwblhau ffurflen ar-lein (bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn meini prawf penodol). Bydd yr archwiliadau un-i-un yn cael eu cynnal ar-lein rhwng Chwefror a diwedd Mawrth 2026 gan ddarparu cymorth wedi'i deilwra a map ffordd pwrpasol i bob busnes.

Straeon Perthnasol