Gall gweithwyr Proffesiynol Cerdded, Dringo a Mynydda hunan-ardystio eu manylion achredu i'w cynnwys ar gronfa ddata gweithgareddau Croeso Cymru. Mae rhestru ar Croeso Cymru gan gynnwys gwefannau ‘Travel Trade’ (Saesneg yn unig) a ‘Meet In Wales’ (Saesneg yn unig) yn parhau i fod yn rhad ac am ddim, ond mae angen i chi hunanardystio manylion eich achrediad gan ddefnyddio’r ffurflen hon.

Mae'r dull hwn wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â'r Cymdeithas Twristiaeth Anturiaeth Cymru (WATO) a Chymdeithas Hyfforddiant Mynydd (MTA) (Saesneg yn unig), yn darparu ffordd syml i bobl sy’n ymweld â Chymru ddewis darparwyr gweithgareddau a gweithredwyr yn seiliedig ar eu gallu i gyflwyno ymarfer diwydiant diogel ac effeithiol. Mae hefyd yn caniatáu i ni gydnabod darparwyr gweithgareddau sy’n bodloni ein disgwyliadau o ran:

  • Twristiaeth gweithgareddau cynaliadwy
  • Arferion a safonau da o ran gofal cwsmeriaid

Mae hefyd yn rhoi hyder i ni fod darpariaeth gweithgareddau risg a reolir, o ansawdd da, ar gael ledled Cymru.