Nid yw Llywodraeth Cymru’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gynnwys a gyflenwir gan drydydd partïon.  Pan fydd cynnwys trydydd parti ar ein gwefan a/neu ddolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y rhain er gwybodaeth i chi yn unig. Ni ddylid dehongli’r ffaith bod cynnwys trydydd parti ar ein gwefan neu ddolenni i gynnwys o’r fath fel ardystiad neu gymeradwyaeth gennym o’r cynnwys neu’r wybodaeth y gallwch eu cael drwy’r dolenni hynny.

Cydraddoldeb

Mae mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn ganolog i Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.  Mae’n rhaid i bob digwyddiad sy’n derbyn cyllid gan Ddigwyddiadau Cymru/Llywodraeth Cymru fod â pholisïau cydraddoldeb ar waith sy’n ymwneud â chyflogaeth, defnyddio gwirfoddolwyr a darparu gwasanaethau, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae canllawiau ar nodweddion gwarchodedig ar gael ar dudalen hafan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol | EHRC (epualityhumanrights.com).

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan o Gyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.  Mae rhestr lawn o’r hawliau gwarchodedig (a elwir yn Erthyglau), a rhagor o wybodaeth, ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol Poster Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn (llyw.cymru).

Bachgen yn cymryd rhan yn Aquathlon Go Tri, Abertawe, Gorllewin Cymru
Bachgen yn cymryd rhan yn Aquathlon Go Tri, Abertawe, Gorllewin Cymru

Y Gymraeg

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, ac yn sefydlu’r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r Gymraeg a diwylliant Cymreig ac mae strategaeth y Gymraeg - Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg (Cymraeg 2050) yn darparu gweledigaeth ar gyfer twf a datblygiad pellach y Gymraeg. Ffocws pwysig y strategaeth yw sicrhau bod cyfleoedd i bobl, yn enwedig pobl ifanc a siaradwyr newydd, ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Fe’ch anogir i fabwysiadu agwedd greadigol a chynhwysol tuag at ddefnyddio’r Gymraeg.  Mae hyn yn cynnwys mynd ati i hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg yn eich digwyddiad, a sicrhau bod cyfleoedd i ymwelwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y digwyddiad.

I gael cyngor cyffredinol ar ddarparu gwasanaethau’n ddwyieithog ac i gael gwybodaeth am ba sefydliadau sy’n gallu eich cefnogi, ffoniwch y gwasanaeth cyngor yn y Gymraeg “Helo Blod” ar 03000 25888888 neu anfonwch e-bost at heloblod@llyw.cymru gyda’ch ymholiad. 

Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Gyfathrebu a Marchnata a Safonau’r Gymraeg hefyd yn darparu canllawiau defnyddiol ac mae ar gael yn Safonau’r Gymraeg: canllawiau cyfathrebu a marchnata | LLYW.CYMRU.

Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru rydym i gyd am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau ein bod ni gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Rheoli Digwyddiadau’n Gynaliadwy

Rhaid i’ch defnydd o’r Cyllid gyd-fynd â’r uchelgeisiau a’r camau gweithredu a nodir yn Mwy nag Ailgylchu a chyfrannu atynt (e.e. cael gwared ar eitemau untro diangen; cefnogi newid ymddygiad drwy ymddygiad mewn digwyddiadau; lleihau gwastraff bwyd; parhau i ddefnyddio deunyddiau am gyhyd â phosibl; cefnogi modelau busnes cylchol) ac ymrwymiad i Cymru Sero Net | LLYW.CYMRU.

 

Llun o gwch yn y Volvo Ocean Race, Leg Depart, 2018
Llun o gwch yn y Volvo Ocean Race, Leg Depart, 2018

Safon BSI ar Reoli Digwyddiadau’n Gynaliadwy: ISO20121:2024

Safon BSI ar Reoli digwyddiadau’n Gynaliadwy: Mae ISO 20121:2024 (Saesneg yn unig) yn seiliedig ar y Safon Brydeinig gynharach o’r enw ‘BS 8901 Specification for a Sustainability Management System for Events’ a ddatblygwyd am y tro cyntaf yn 2007. Oherwydd y diddordeb mawr yn BS 8901, penderfynwyd creu fersiwn ryngwladol o’r safon i gyd-fynd â Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Yn syml iawn, mae ISO 20121:2024 (Saesneg yn unig) yn disgrifio blociau adeiladu system reoli a fydd yn helpu unrhyw sefydliad sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad i wneud y canlynol: 

  • Parhau i fod yn llwyddiannus yn ariannol,
  • Dod yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol,
  • Lleihau ei ôl troed amgylcheddol.

Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) – Canllaw a Pecyn Digwyddiadau Byd-eang

Diffiniad yr OECD o digwyddiadau byd-eang yw ‘digwyddiadau am gyfnod cyfyngedig sydd â chyrhaeddiad byd-eang, sydd angen buddsoddiad cyhoeddus sylweddol ac sy’n cael effaith ar y boblogaeth a’r amgylchedd adeiledig’. 

Mae’r Pecyn Cymorth Digwyddiadau Byd-eang (Saesneg yn unig) yn troi Argymhelliad yr OECD ar Ddigwyddiadau Byd-eang a Datblygiadau Lleol (Saesneg yn unig) yn realiti. Mae’n darparu canllawiau pendant i lywodraethau lleol a chenedlaethol, trefnwyr digwyddiadau a chynhalwyr. Mae’n cynnig camau gweithredu pendant i’w hystyried drwy gydol oes digwyddiadau byd-eang, gan gynnwys y cam cyn-ymgeisio, y cam ymgeisio, y cam gweithredol a chyflawni, a’r cam gwerthuso. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.oecd.org/cfe/leed/global-events-recommendation.html (Saesneg yn unig).

 

Cymdeithas Ryngwladol y Sefydliadau Cynnal Digwyddiadau (IAEH)

Mae’r IAEH yn bodoli er mwyn i gynrychiolwyr cyrchfannau rhyngwladol gydweithio i greu’r gwerth gorau posibl am arian drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr, a rhoi llais i’r rhai sy’n cynnal digwyddiadau nid-er-elw.

Mae IAEH yn rhoi llwyfan i aelodau ddysgu o lwyddiannau a heriau digwyddiadau mawr, rhannu gwybodaeth a dod â mwy o fuddion cymdeithasol ac economaidd tymor hir o gynnal digwyddiadau.

Er mai dim ond i aelodau y mae’r rhan fwyaf o ddogfennau ar gael, mae nifer o adnoddau sydd ar gael i’r cyhoedd yma Resources Archive - International Association of Event Hosts (Saesneg yn unig).

eventIMPACTS.com

Bwriad pecyn eventIMPACTS (Saesneg yn unig) yw rhoi rhai canllawiau allweddol ac egwyddorion arfer da i drefnwyr a chefnogwyr digwyddiadau cyhoeddus er mwyn gwerthuso’r effeithiau Economaidd, Cymdeithasol, Amgylcheddol a Chyfryngol sy’n gysylltiedig â’u digwyddiad.  

UK Sport

UK Sport yw prif asiantaeth y llywodraeth ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr ar lefel y DU. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid chwaraeon a chynnal i sicrhau bod y DU yn gwneud cynigion llwyddiannus am amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mwyaf y byd ac yn eu llwyfannu.  I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth ac ymchwil ac effeithiau digwyddiadau, ewch i Buddsoddi mewn digwyddiadau | UK Sport (Saesneg yn unig) neu yma i weld eu Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol (Saesneg yn unig) ddiweddaraf. 

Beicwyr yn y Tour of Britain, 2023, Caerffili
Beicwyr yn y Tour of Britain, 2023, Caerffili

Diogelu’r DU

Mae’r Ddyletswydd Diogelu, a elwir hefyd yn ‘Gyfraith Martyn’, yn rhan o ymateb llywodraeth y DU i Ymchwiliad Arena Manceinion Cyfrol 1 (Saesneg yn unig) a oedd yn argymell cyflwyno deddfwriaeth i wella diogelwch lleoliadau cyhoeddus. Bydd yn gosod gofyniad ar y rheini sy’n gyfrifol am leoliadau penodol i ystyried y bygythiad o derfysgaeth a chyflwyno mesurau lliniaru priodol a chymesur.  Lansiwyd ProtectUK (Saesneg yn unig) yn 2022, ac mae’n ganolfan ganolog newydd sy’n rhoi cyngor gwrthderfysgaeth a chyngor ar ddiogelwch.

WRAP Cymru

Mae WRAP Cymru’n gweithio gyda llywodraethau, busnesau a chymunedau i ddarparu atebion ymarferol i wella effeithlonrwydd adnoddau ledled y byd.

Vision:2025

Sefydlwyd Vision:2025 fel mudiad nid-er-elw yn 2015 sy’n cael ein harwain gan grŵp llywio o gymdeithasau ac arweinwyr y diwydiant digwyddiadau awyr agored ym maes cynaliadwyedd mewn digwyddiadau byw a’r celfyddydau. Tyfodd Vision:2025 (Saesneg yn unig) o’u chwaer brosiect Powerful Thinking ac fe’i gynhelir gan Julie’s Bicycle.

Hynt Cymru

Cynllun mynediad cenedlaethol newydd yw Hynt sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i sicrhau bod darpariaeth gyson ar gael i ymwelwyr sydd â namau neu ofynion mynediad penodol, a’u Gofalwyr neu Gynorthwywyr Personol. Menter gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Hynt sy’n cael ei rheoli gan Creu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru.

Attitude is Everything

Eu gweledigaeth yw gweld diwydiannau cerddoriaeth a digwyddiadau byw yn gwerthfawrogi pobl anabl fel aelodau o’u cynulleidfaoedd, perfformwyr, gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr. Attitude is Everything - Improving access together (Saesneg yn unig).

Straeon Perthnasol