Cyflogaeth
Roedd y Diwydiannau Twristiaeth yn cyfrif am 11.8% o gyflogaeth (159,000) yng Nghymru yn 2022, gostyngiad o 161,000 yn 2019 (12.1% o gyflogaeth yng Nghymru). Roedd 77% o’r swyddi twristiaeth (123,000) mewn lletygarwch.
Mae'r tabl isod yn dangos cyflogaeth ym maes twristiaeth a lletygarwch ar gyfer pob is-sector y diwydiant, fel cyfran o’r holl gyflogaeth yng Nghymru ar gyfer 2022.
cyflogaeth ym maes twristiaeth a lletygarwch ar gyfer pob is-sector y diwydiant, fel cyfran o’r holl gyflogaeth yng Nghymru ar gyfer 2022
Mentrau
Roedd mentrau twristiaeth (12,625) yn cynrychioli 11.8% o fentrau cofrestredig yng Nghymru yn 2023. Roedd 80% (10,065) o fentrau twristiaeth mewn lletygarwch, sy’n cyfrif am 9.4% o fentrau cofrestredig yng Nghymru.
Enillion
Roedd y cyflog canolrifol fesul awr yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2023 yn £14.85 yng Nghymru, ond o fewn diwydiannau cysylltiedig â thwristiaeth, roedd yn sylweddol is. Ymysg swyddi gweithwyr mewn Gweithgareddau Llety a Gwasanaethau Bwyd, roedd y cyflog canolrifol fesul awr yn £10.99, ar gyfer swyddi yn y diwydiant Celfyddydau, Adloniant a Hamdden, roedd yn £12.83.
Gwariant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth
Yn 2023, bu £4.98 biliwn o wariant cysylltiedig ar deithiau twristiaeth yng Nghymru. Roedd £2.48 biliwn ar ymweliadau diwrnod twristiaeth gan drigolion Prydain Fawr, £2 biliwn ar ymweliadau dros nos gan drigolion Prydain Fawr a £0.45 biliwn gan ymwelwyr.
Gwerth Ychwanegol Gros (GVA)
Gyda’i gilydd, roedd y saith diwydiant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ar lefel is adran SIC yn cyfrif am 5.1% o GVA yng Nghymru yn 2022 (£3.8 biliwn).
Ceir rhagor o fanylion am y diffiniad o'r Economi Ymwelwyr a’r ffynonellau data sylfaenol yma: Proffil Economi Ymwelwyr Cymru: 2024