1. Beth yw pwrpas y gronfa?
- Darparu cyllid ar gyfer prosiectau Twristiaeth yng Nghymru
- Helpu’r sector Twristiaeth i newid o fod yn ddibynnol ar arian grant i allu gweithredu trwy fenthyciadau masnachol
- Defnyddio arian cyhoeddus mewn maes a allai gael effaith sylweddol ar yr economi.
- Cefnogi buddsoddiadau strategol, a allai fod yn rhai sylweddol, yn ôl yr angen.
2. Beth bydd y grant yn talu amdano?
- Bydd y gronfa newydd yn darparu £100,000 - £5,000,000 o gyfalaf dros dymor estynedig i fusnesau ar gyfer prosiectau cymwys. Gellir ei defnyddio naill ai i wella neu i greu asedau o ansawdd uchel yn y sector Twristiaeth.
3. Am faint y bydd y cyllid yn para?
- Bydd disgwyl ichi ad-dalu'r arian cyn pen 10-15 mlynedd a gellir cynnwys seibiau talu tymhorol.
4. Pa rannau o Gymru sy'n cael elwa?
- Cymru gyfan.
5. Beth yw'r amodau ar gyfer cael arian o'r gronfa?
- Bydd angen i ymgeiswyr:
- ymrwymo i gefnogi strategaeth Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a dangos ymrwymiad i bedwar gofyn y Contract Economaidd
- cynnal eu busnes yng Nghymru a dangos sut y bydd y prosiect yn sbarduno twf mewn marchnadoedd hen a newydd a chreu a/neu ddiogelu swyddi
- profi y gall y prosiect lwyddo'n ariannol a bod modd ad-dalu'r arian dros gyfnod y pecyn.
- Os cynigir cymorth, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y byddant yn bodloni un o'r Meysydd Gweithredu canlynol, fydd yn rhan o'r amod ar gyfer rhoi cefnogaeth:
- datgarboneiddio - er mwyn i Gymru allu manteisio ar y newid ym marchnadoedd y byd yn y galw am gynnyrch, nwyddau a gwasanaethau carbon isel ac i hyn roi hwb i weddnewid ein ffyniant, iechyd a'n lles
- arloesi, entrepreneuriaeth a phencadlys - er mwyn i fusnesau allu datblygu'u cynnyrch a'u gwasanaethau'n ddi-dor i'w galluogi i barhau i fod yn gystadleuol a chynaliadwy yn ogystal â rhoi hwb i berfformiad cyffredinol yr economi.
- allforio a masnachu - er mwyn i fusnesau allu tyfu trwy fasnachu â gweddill y DU ac allforio i farchnadoedd tramor, gan gynyddu'u cynhyrchiant a'u cryfhau i allu gwrthsefyll newidiadau yn economi'r byd
- swyddi o safon uchel, datblygu sgiliau a gwaith teg - cymdeithas deg a ffyniannus
6. A ydw i'n gymwys?
- Mae pob busnes twristiaeth yn y sector preifat a'r trydydd sector yn gymwys.
7. A yw fy mhrosiect yn gymwys?
- Byddwn yn ystyried helpu'ch prosiect i:
- greu a diogelu swyddi
- dod â manteision a thwf economaidd
- sicrhau ansawdd ac arloesedd a chryfhau ymdeimlad o le.
- Nod y cymorth yw cefnogi prosiectau unigryw a nodedig sy'n atgyfnerthu brand Cymru, yn adlewyrchu'r gwerthoedd craidd ac yn arbennig, yn gwireddu amcanion craidd y brand:
- codi statws Cymru
- synnu ac ysbrydoli
- atgyfnerthu canfyddiadau cadarnhaol
- ogwneud pethau da
- Yn amlwg yn cynrychioli 'Cymru'.
8. Faint o arian y ca i ymgeisio amdano?
- Rhwng £100,000 a £500,000 ar gyfer prosiectau cymwys.
9. Beth fydd yr arian yn talu amdano?
- Mae'r gronfa yn cynnwys cymysgedd o gyllid ad-daladwy a chyllid nad oes rhaid ei ad-dalu, gan dargedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gall gael ei defnyddio i wella neu i greu cynnyrch o ansawdd.
- Dyma rai o flaenoriaethau'r gronfa (nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth):
- cynhyrchion twristiaeth arloesol o safon uchel
- gwestai moethus (estyniadau, gwelliannau a gwestai newydd)
- atyniadau blaenllaw pob tywydd sydd ar gael gydol y flwyddyn
- atyniadau blaenllaw
- profiadau drwy weithgareddau arloesol
- profiadau bwyd sy'n unigryw Gymreig sy'n canolbwyntio ar yr ymwelydd
- cyfleusterau sba a hamdden o ansawdd uchel
- prosiectau arloesol sy'n gysylltiedig â diwylliant neu dreftadaeth
- tafarndai, llety gwesteion sy'n unigryw ac o ansawdd uchel
- mannau anghyffredin i bobl aros.
10.Beth na chaiff yr arian dalu amdano?
- Nid yw cyllid refeniw yn gymwys.
11.Beth yw'r broses ymgeisio a sut mae gwneud cais?
- Er mwyn cael eich ystyried am gymorth y Gronfa Fuddsoddi mewn Twristiaeth, bydd angen i gais:
- Cam 1: ymrwymo i gefnogi strategaeth Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a dangos ymrwymiad i bedwar gofyn y Contract Economaidd
- Cam 2: datblygu cynnyrch twristiaeth cynaliadwy o ansawdd uchel a symbylu twf mewn marchnadoedd hen a newydd a chreu a/neu ddiogelu swyddi.
- Mae dau gam i wneud cais. Mae'r cyntaf yn cynnwys ffurflen Datgan Diddordeb ac os bydd honno'n llwyddiannus, caiff y busnes ei wahodd i wneud cais llawn.
- Os hoffech fwy o wybodaeth am y Gronfa, e-bostiwch CBTC@llyw.cymru neu alw 03000 622418.
12.Pryd ca' i wneud cais am arian o'r Gronfa?
- Mae'r gronfa'n agored i ymholiadau'r cam cyntaf nawr. Os hoffech fwy o wybodaeth am y Gronfa, e-bostiwch CBTC@llyw.cymru neu alw 03000 622418.
13.Beth bydd angen imi ei gyflwyno gyda'r cais?
- Fel rhan o'r cam cyntaf, bydd angen ichi Ddatgan Diddordeb ynghyd â chyflwyno gwybodaeth, fel copïau o gyfrifon eich cwmni a Chontract Economaidd, i brofi'ch bod yn fusnes llwyddiannus.
14.Beth yw'r gymysgedd o grantiau a benthyciadau?
- Bydd y gymysgedd yn dibynnu ar asesiad o'r cais ei hun. Bydd y grant yn cynrychioli'r lefel isaf o ymyriad sydd ei hangen er mwyn gwneud y cynnig yn hyfyw'n fasnachol. Y norm fodd bynnag fydd cynnig 80% o fenthyciad a 20% o grant.
15.Sut caiff fy nghais ei asesu?
- Caiff pob cais ei asesu yn y cam Datgan Diddordeb ac os bydd yn llwyddiannus, caiff cais manwl a llawn ei asesu ar sail meini prawf asesu'r gronfa. Bydd yn rhaid iddo fod yn gyson â'r strategaeth ac yn fasnachol hyfyw.
16.Pwy fydd yn cysylltu â fi?
- Tîm Buddsoddi mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru ar CBTC@llyw.cymru neu alw 03000 622418