Rydym yn croesawu ceisiadau i restru atyniadau
yng Nghymru. Bydd atyniadau yn cael eu harddangos ar wefan Croeso Cymru drwy ein Cronfa Ddata Rhestru Cynnyrch (Saesneg yn unig).
Gwybodaeth bwysig
Rydym yn annog atyniadau yng Nghymru i gymryd rhan yn ein Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau Croeso Cymru cyn eu rhestru. Os ydych chi'n ansicr a yw eich atyniad yn bodloni'r meini prawf, neu os ydych chi'n cynnig gweithgareddau antur (Saesneg yn unig) dan arweiniad neu os hoffech chi gael rhywfaint o gymorth, cysylltwch â'n desg gymorth:
E-bost: visitwalessupport@granicus.com
Ffôn: 0330 808 9410
Mae angen i ddelweddau fod o leiaf 1920 x 1440 picsel o ran maint.
Defnyddiwch gyfeiriad e-bost neu rif ffôn y gall aelod o'r cyhoedd yn unig gysylltu â nhw ynglŷn â'r atyniad.
Rydym yn cadw'r hawl i olygu neu wrthod rhestr atyniad.
Bydd pob rhestr atyniadau yn cael ei wirio cyn cael ei gymeradwyo a'i gyhoeddi.
Bydd eich data yn cael ei storio yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.
Gweler ein Telerau ac Amodau Cyfreithiol a'n Polisi Preifatrwydd