Blwyddyn Croeso: Cronfa Addasu i’r Tywydd ar gyfer Atyniadau Twristiaeth 2025-2026
Bu i Groeso Cymru redeg cronfa oedd yn cynnig grantiau cyfalaf bach yn 2025-2026 er mwyn cefnogi atyniadau twristiaeth i fuddsoddi mewn mesurau i addasu i’r tywydd.
Amcanion y gronfa
Mae atyniadau twristiaeth yn tynnu sylw at dywydd gwael fel ffactor o bwys sy'n cael effaith ar fasnachu. Mae Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei dull o liniaru effeithiau hinsawdd ac mae’r Cynllun Gweithredu Addasu ar gyfer Busnesau yn pwysleisio’r angen i ddiogelu busnesau ac ystyried dulliau ariannu sy’n cefnogi gwytnwch. Nod ein Strategaeth Dwristiaeth yw rhoi hwb i wariant ymwelwyr a hyrwyddo twristiaeth drwy gydol y flwyddyn ond mae busnesau yn adrodd bod tywydd garw yn rhwystro'r nodau hyn.
Pwrpas y gronfa
Mae cyfnodau o dywydd gwael yn effeithio'n negyddol ar fusnesau atyniad twristiaeth mewn dwy brif ffordd:
- trwy atal y busnes rhag gweithredu yn ôl ei arfer (er enghraifft, os mae cyfleuster o dan dŵr)
- trwy effeithio'n negyddol ar brofiad ymwelwyr a/neu beri iddynt beidio ymweld.
Roedd mesurau i addasu i’r tywydd a gefnogwyd gan y Gronfa hon yn anelu at:
- lliniaru'r effeithiau hyn trwy helpu i gefnogi gwytnwch economaidd y busnes a’i allu i ymaddasu,
- cryfhau gwytnwch hinsawdd y busnes,
- helpu i alluogi'r busnes i gynnig ei groeso gorau posibl i ymwelwyr yn ystod Blwyddyn Croeso 2025.
Beth oedd yn cael ei ariannu?
Roedd y Gronfa yn cynnig grantiau cyfalaf rhwng £5,000 a £20,000. Bu rhaid eu defnyddio cyn 31 Mawrth 2026. Nid oedd unrhyw gostau refeniw yn cael eu hystyried. Gallai’r grant gefnogi hyd at 75% o gostau'r mesurau addasu (neu hyd at £20,000 os oedd hyn yn llai na 75% o'r costau).
Roedd rhaid i weddill y costau gael eu hariannu gan y busnes o'i gronfeydd ei hun neu o ffynonellau cyllid preifat. Ni allai ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw fath arall o grant neu gyllid gan unrhyw sefydliad sector cyhoeddus fel arian cyfatebol.
Rhaid cwblhau’r prosiect a’r gwariant yn llawn a hawlio’r grant erbyn 31 Mawrth 2026.
Roedd mesurau cymwys i addasu i’r tywydd yn cynnwys:
- mesurau sy'n lliniaru effaith tywydd gwael ar y busnes
- mesurau sy'n lliniaru effaith tywydd gwael ar brofiad ymwelwyr
Pwy oedd yn gymwys?
Busnesau atyniadau twristiaeth yng Nghymru sydd:
- wedi'u hachredu fel atyniadau ymwelwyr o dan gynllun VAQAS (neu'n gymwys ac yn barod i geisio achrediad VAQAS fel amod grant)
- yn fentrau micro, bach neu ganolig (yn cyflogi hyd at 249 o weithwyr)
- wedi bod yn masnachu am o leiaf flwyddyn fel cwmni cyfyngedig, partneriaeth neu unig fasnachwr neu fel menter gymdeithasol
- yn derbyn ymwelwyr mewn lleoliad lle gall tywydd gwael effeithio ar berfformiad y busnes a phrofiad yr ymwelwyr
Y dyddiad cau ar gyfer y cylch hwn oedd 22 Mai 2025.
Cronfa Y Pethau Pwysig 2023-2025
Roedd Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf ar gyfer 2023-2025 i gyflawni gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru.
Pwy oedd yn medru gwneud cais?
Roedd y cynllun eleni yn agored i:
- Awdurdodau Lleol
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Amcanion y gronfa oedd:
- Buddsoddi mewn seilwaith sylfaenol sydd o fudd i gymunedau ac ymwelwyr mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig.
- Datblygu prosiectau seilwaith o ansawdd uchel sy'n cefnogi twristiaeth ehangach mewn cyrchfannau ac sy'n rhoi profiad cofiadwy i ymwelwyr drwy gydol eu harhosiad.
- Sicrhau bod cyfleusterau sylfaenol ar agor drwy'r flwyddyn ac yn darparu ar gyfer ymwelwyr gyda'r nos.
Ar gyfer y cylch ariannu hwn, canolbwyntiodd y flaenoriaeth ar 4 maes allweddol:
- Lleddfu mannau prysur. Dod o hyd i atebion seilwaith i oresgyn pwysau ar ardaloedd o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr.
- Cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy. Datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith sy'n bodoli eisoes i wneud y gyrchfan yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan helpu i leihau'r ôl troed carbon.
- Twristiaeth Hygyrch/Gynhwysol. Cefnogi prosiectau sy'n dileu rhwystrau o fewn cyrchfan ac yn gwella mynediad at gyfleusterau i bawb.
- Gwella cynhyrchion llofnod cenedlaethol, er enghraifft, prosiectau sy'n gwella ac yn codi proffil Llwybr Arfordir Cymru.
Lefel y cyllid sydd ar gael
Cronfa gyfalaf oedd hon. Nid chafodd costau refeniw eu hystyried.
Cyfanswm y grant ar gael oedd £300,000 gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%. Nid oes isafswm grant.
Y dyddiad cau ar gyfer y cylch hwn oedd 16 Mawrth 2023.
Y Pethau Pwysig 2022-2023
Roedd Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf ar gyfer 2022-23 i gyflawni gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru.
Pwy oedd yn medru gwneud cais?
Mae'r cynllun eleni yn agored i:
- Awdurdodau Lleol
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Amcanion y gronfa oedd:
- Buddsoddi mewn seilwaith sylfaenol sydd o fudd i gymunedau ac ymwelwyr mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig.
- Datblygu prosiectau seilwaith o ansawdd uchel sy'n cefnogi twristiaeth ehangach mewn cyrchfannau ac sy'n rhoi profiad cofiadwy i ymwelwyr drwy gydol eu harhosiad.
- Sicrhau bod cyfleusterau sylfaenol ar agor drwy'r flwyddyn ac yn darparu ar gyfer ymwelwyr gyda'r nos.
Ar gyfer y cylch ariannu hwn, canolbwyntiodd y flaenoriaeth ar 4 maes allweddol:-
- Lleddfu mannau prysur. Dod o hyd i atebion seilwaith i oresgyn pwysau ar ardaloedd o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr.
- Cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy. Datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith sy'n bodoli eisoes i wneud y gyrchfan yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan helpu i leihau'r ôl troed carbon.
- Twristiaeth Hygyrch/Gynhwysol. Cefnogi prosiectau sy'n dileu rhwystrau o fewn cyrchfan ac yn gwella mynediad at gyfleusterau i bawb.
- Gwella cynhyrchion llofnod cenedlaethol neu ranbarthol, er enghraifft, prosiectau sy'n gwella ac yn codi proffil Llwybr Arfordir Cymru ddeng mlynedd ers ei sefydlu.
Lefel y cyllid sydd ar gael
Cronfa gyfalaf oedd hon. Ni chafodd costau refeniw eu hystyried.
Cyfanswm y grant a oedd ar gael oedd £250,000 gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%. Nid oedd isafswm grant.
Y dyddiad cau ar gyfer a cylch hwn oedd 4 Mawrth 2022
Y Pethau Pwysig 2021-2022
Roedd Y Pethau Pwysig yn gronfa ledled Cymru a oedd yn cefnogi’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a sefydliadau di-elw i:
- ddarparu gwelliannau bychain sylfaenol i seilwaith twristiaeth a
- sicrhau bod pob ymwelydd â Chymru yn cael profiad positif a chofiadwy drwy gydol eu arhosiad.
Adeiladwyd y gronfa hon ar y cylchoedd ariannu blaenorol drwy Cefnogi Buddsoddiad mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS) a lansiwyd yn 2017 ac a gefnogwyd drwy Raglen Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 (RDP), sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru.
O dan y cylch cyllido TAIS blaenorol, dim ond wardiau gwledig oedd yn gymwys, yn unol â rheolau’r Cynllun Datblygu Gwledig. Drwy gynnig cyllid ychwanegol nad oedd yn gyllid yr UE, roedd cynllun TAIS yn medru cael ei ymestyn i’r ardaloedd hynny y tu allan i wardiau gwledig drwy’r gronfa Y Pethau Pwysig. Roedd hyn yn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn gallu elwa o’r gronfa newydd. Ar gyfer y prosiectau hynny oedd wedi cael eu lleoli o fewn y wardiau cymwys, roedd Y Pethau Pwysig yn parhau i gael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Datblygu Gwledig yr UE Llywodraeth Cymru.
Amcanion Cyllid
Roedd cyllid o hyd at £10m ar gael rhwng 2020 a 2025 tuag at flaenoriaethu prosiectau a oedd yn:
- darparu profiadau o safon i ymwelwyr sydd â naws Cymreig
- sicrhau bod modd i amrywiaeth eang o ymwelwyr fanteisio ar gyfleoedd llesiant newydd a’u mwynhau
- gwella mynediad at gyfleusterau a chyflwyno cipolwg cynhwysol ar Gymru
- buddsoddi mewn cyfleusterau sy’n gwella arlwy antur Cymru
- cyfrannu at brif fentrau twristiaeth Llywodraeth Cymru gan gynnwys ymgyrch Blwyddyn Awyr Agored 2020 – 2021 a Ffordd Cymru
- annog cyrchfannau glân, gwyrdd, er enghraifft drwy welliannau i seilwaith cynaliadwy
- hyrwyddo ymdeimlad o le, diwylliant a iaith yn fwy rhagweithiol
- darparu cyfleusterau sydd ar agor gydol y flwyddyn ledled Gymru
- buddsoddi mewn profiadau a chyfleusterau ar gyfer digwyddiadau o safon byd-eang
Roedd cymorth o rhwng £25,000 a £128,000 ar gael i brosiectau gydag uchafswm gwariant cymwys o £160,000 a chyfradd ymyrraeth o 80%.
Y Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF)
Cefnogwyd y gronfa drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a noddwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Roedd y gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) ar gael i fusnesau micro a bychan oedd â llai na 50 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn.
Roedd MSBF yn gronfa fuddsoddi oedd yn targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector Twristiaeth yng Nghymru. Fe'i defnyddiwyd naill ai i greu cynnyrch newydd o safon uchel neu i ddiweddaru cynnyrch presennol.
Roedd cymorth o rhwng £25,000 a £500,000 yn cael ei ystyried, er mwyn:
- creu a diogelu swyddi
- sicrhau lles a datblygiad economaidd
- sicrhau ansawdd, arloesedd a naws am le.
Cronfa’r Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru (WIITF)
Roedd Cronfa WIITF yn gronfa refeniw wedi'i thargedu, a gynlluniwyd i gefnogi'r gadwyn gyflenwi hanfodol yn dilyn y pandemig.
Canolbwynt y cyllid oedd sicrhau bod Cymru'n cadw ac yn adeiladu ar gysylltiadau'r gadwyn gyflenwi gyda marchnadoedd rhyngwladol gwerthfawr a ddarparwyd gan is-sector bach o:
- Cwmnïau Rheoli Cyrchfan (DMCs)/cwmnïau teithio sy’n dod I mewn i’r wlad
- arweinwyr twristiaid proffesiynol
- ysgolion Saesneg achrededig wedi'u lleoli ac yn gweithredu yng Nghymru.
Roedd i gefnogi'r sector ymwelwyr rhyngwladol
- amserlenni cynaliadwy i ymwelwyr rhyngwladol
- cyrsiau iaith a rhaglenni y gellir eu harchebu
- hybu cyrchfannau ar gyfer dechrau adfer proffil a busnes Cymru mewn marchnadoedd rhyngwladol.
Roedd yn gronfa refeniw gystadleuol gyda dyfarniadau hyd at £50,000. Dyrannwyd arian i gwmnïau cymwys:
- yn ôl rhaglen o weithgareddau y cytunwyd arni yn erbyn meini prawf gosod
- a ystyriwyd y mwyaf tebygol o hyrwyddo gwydnwch ac adferiad economaidd ar gyfer twristiaeth yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol.