• Croeso i Bawb

    Oedd Croeso i Bawb yn gronfa gynllid cyfalaf oedd yn

    • cefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch i greu amgylcheddau ymwelwyr mwy hygyrch a chynhwysol. 
    • ariannu gwelliannau ffisegol sy'n dileu rhwystrau ac yn gwneud ymweliadau yn haws i bobl ag ystod eang o anghenion mynediad.
    • annog busnesau i fynd y tu hwnt i ofynion cyfreithiol. Gwneud newidiadau ymarferol sy'n gwella mynediad, cynhwysiant a phrofiad cyffredinol ymwelwyr.

    Gall gwella hygyrchedd helpu'ch busnes i ddenu mwy o ymwelwyr. Gall helpu pobl i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt cyn iddynt gyrraedd, leihau rhwystrau a chreu profiad mwy croesawgar.

    Y cyllid oedd ar gael

    Oedd grantiau o £5,000 i £20,000 ar gael i gefnogi hyd at 75% o'r costau cyfalaf cymwys ar gyfer gwelliannau hygyrchedd.

    Pwy all wneud cais?

    Busnesau twristiaeth a lletygarwch a mentrau cymdeithasol yng Nghymru sydd:

    • Yn cyflogi llai na 250 o bobl
    • Wedi bod yn masnachu am o leiaf flwyddyn
    • Gyda eu gwefan eu hunain
    • Yn ariannol hyfyw
    • Wedi gwylio fideo esboniad Croeso i Bawb video

    Gallwch gael rhagor o adnoddau, ysbrydoliaeth a chyngor ar wneud hygyrchedd yn rhan o'ch busnes twristiaeth yn Twristiaeth hygyrch: Creu profiadau i bawb | Diwydiant.

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Croeso i Bawb oedd 28 Medi 2026.

  • Croeso i Feicwyr

    Ym mis Gorffennaf 2027, am y tro cyntaf erioed, bydd Cymru'n cynnal un o gymalau ras fyd-enwog y Tour de France. Bydd cymal olaf y DU (Cam 3) yn rhedeg o'r Trallwng i Gaerdydd.

    Mae’r digwyddiad mawreddog hwn yn cynnig cyfle unigryw i:

    • godi proffil Cymru ar lwyfan y byd,
    • cryfhau ei henw da fel cyrchfan o safon fyd-eang, a
    • chefnogi ein huchelgais i sefydlu Cymru fel cenedl flaenllaw ar gyfer beicio.

    Oedd Cronfa Croeso i Feicwyr yn buddsoddi mewn seilwaith a chyfleusterau led led Cymru sy’n: 

    • gwneud Cymru’n fwy croesawgar i feicwyr,
    • helpu i dyfu twristiaeth beicio ar draws yr holl ddisgyblaethau
    • cefnogi economïau lleol 
    • manteisio i’r eithaf ar fuddion hirdymor cynnal y digwyddiad eiconig hwn.

    Pwy oedd all wneud cais?

    Roedd gronfa yn agored i:

    • Awdurdodau Lleol
    • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

    (Anogir y ddau i gynnwys prosiectau a gyflawnir gan y trydydd sector a sefydliadau nid-er-elw eraill yn eu ceisiadau)

    Rhaid i bob cais fodloni blaenoriaeth (I) isod ac o leiaf dwy o’r pedair blaenoriaeth allweddol arall:

    1. Ysgogi cynhyrchiant busnes a thwf Economaidd
      Cefnogi cynhyrchiant busnesau, cynyddu gwariant ymwelwyr, a chryfhau effaith economaidd twristiaeth beicio.
    2. Profiadau o Ansawdd Uchel
      Darparu profiadau beicio unigryw a chynhwysol o ansawdd uchel sy’n arddangos Cymru fel cyrchfan feicio flaenllaw.
    3. Profiadau Diwylliannol, Treftadaeth a Thirwedd
      Dangos sut y mae beicio yn cael ei ddefnyddio fel modd i brofi a dathlu diwylliant, treftadaeth, tirweddau a chymunedau unigryw Cymru, gan greu profiadau ymwelwyr nodedig a chofiadwy sy’n ddilys ac yn nodweddiadol Gymreig.
    4. Cydweithio a Phartneriaethau
      Cyfrannu at gynnig twristiaeth beicio mwy cydgysylltiedig a chydlynol ledled Cymru drwy gydweithio effeithiol a gweithio mewn partneriaeth.
    5. Cefnogi Pobl, Cymunedau, Iechyd a Llesiant
      Sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl a chymunedau, gan gefnogi iechyd, llesiant a chyfranogiad cynhwysol drwy feicio.

    Lefel y Cyllid oedd ar Gael
    Cronfa gyfalaf oedd hon. Nid oedd costau refeniw yn gymwys.

    • Cyfanswm y grant sydd ar gael yw £100,000; fodd bynnag, gall Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gyflwyno mwy nag un Datganiad o Ddiddordeb (EOI).
    • Y gyfradd ymyrraeth uchaf yw 80%
    • Nid oes isafswm grant

    Y dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb oedd 07 Awst 2026.

  • Blwyddyn Croeso: Cronfa Addasu i’r Tywydd ar gyfer Busnesau Twristiaeth a Lletygarwch 2025-2026

    Roedd Croeso Cymru yn rhedeg cronfa grantiau cyfalaf ar raddfa fach yn 2025-2026. Cefnogodd fusnesau twristiaeth i fuddsoddi mewn mesurau gwrthsefyll tywydd.

    Ymyrraeth 1 ar gyfer Atyniadau
    Dechreuodd y daith ein cynllun peilot gwerth £1 miliwn yn canolbwyntio ar ein hatyniadau.
    Y nod oedd sicrhau parhad busnes ar gyfer ein safleoedd yr ymwelwyd â nhw fwyaf. Roedd y peilot yn llwyddiant ysgubol, gan liniaru effaith amodau anffafriol, caniatáu i atyniadau ymestyn amser preswylio, a darparu profiad gwell, mwy cyfforddus i filoedd o ymwelwyr.

    Ymyrraeth 2 ar gyfer busnesau bach a microfusnesau
    Gan adeiladu ar fomentwm y cynllun peilot, fe wnaethom lansio'r ail gam gyda rhaglen benodol gwerth £1.75 miliwn.
    Fe wnaethom ymestyn y cymhwysedd i gwmpasu cwmnïau bach (9-49 o weithwyr). Gan gydnabod eu bod yn ffurfio calon economi dwristiaeth Cymru, gwnaethom sicrhau ein bod yn cynnwys ein microfusnesau hanfodol. Cadarnhaodd y galw llethol yr angen am y gefnogaeth hon, gan ddangos awydd brwd y diwydiant i fuddsoddi mewn cynnig drwy gydol y flwyddyn.

    Ymyrraeth 3 i'n arloeswyr canolig 
    Roedd yr ymyrraeth olaf hon yn canolbwyntio ar gwmnïau canolig (50-250 o weithwyr), gan sicrhau bod busnesau ar draws pob graddfa o'n diwydiant yn cael y cyfle i wella eu cynnig. 
    Mae'r ymyrraeth hon yn caniatáu inni gefnogi prosiectau strategol ar raddfa fwy a chwblhau ein hymrwymiad sector i wydnwch hinsawdd.

    Pwrpas y Gronfa 
    Fe wnaethom ariannu mesurau gwrthsefyll tywydd a fyddai:

    • Gwella'r profiad ymwelwyr ym mhob tywydd
    • Helpwch eich busnes i dyfu a dod yn fwy gwydn
    • Eich galluogi i gynnig y croeso gorau posibl i ymwelwyr yn ystod Blwyddyn Croeso

    Beth oedd yn ei ariannu?
    Roedd grantiau rhwng £5,000 a £20,000 ar gael i gefnogi'r gwaith o osod mesurau gwrthsefyll tywydd yn ogystal ag offer a chyfleusterau sy'n cynnig profiadau gwell mewn tywydd gwlyb megis:

    • Canopïau, pergolas, neu seddi wedi'u gorchuddio
    • Llwybrau cerdded wedi'u gorchuddio neu lochesi i ymwelwyr
    • Llwybrau sglodion pren neu raean
    • Sefyll yn galed ar gyfer meysydd parcio
    • Meysydd chwarae dan do

    Roedd yn rhaid i gyfleusterau fod ar gael ar gyfer ymwelwyr dydd - nid oedd cyfleusterau sydd at ddefnydd gwesteion dros nos/aros yn unig yn gymwys.

    Roedd y grant yn cefnogi hyd at 75% o gostau'r mesurau gwrthsefyll tywydd (neu hyd at £20,000 os oedd hyn yn llai na 75% o'r costau). Ni ystyriwyd unrhyw gostau refeniw.

    Roedd yn rhaid cwblhau prosiectau, talu amdanynt a'u hawlio erbyn 13 Mawrth 2026.

  • Y Pethau Pwysig 2025-2027

    Oedd Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i gyflawni gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru. 

    Pwy oedd yn medru gwneud cais?
    Roedd y gronfa eleni yn agored i: 

    • Awdurdodau Lleol 
    • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol 

    Diben y gronfa oedd sicrhau gwelliannau mewn seilwaith sylfaenol ond hanfodol i ymwelwyr mewn cyrchfannau twristiaeth strategol ledled Cymru i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy ymhob agwedd ar eu harhosiad.

    Ar gyfer y cylch ariannu hwn, oedd rhaid i bob cais ganolbwyntio ar flaenoriaeth (1) isod ynghyd ag o leiaf un o’r 3 flaenoriaeth arall

    1. Cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy. Datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith sy'n bodoli eisoes i wneud y gyrchfan yn fwy cynaliadwy, gan helpu i leihau'r ôl troed carbon.
    2. Lleddfu mannau prysur mewn lleoliadau poblogaidd a chefnogi cyrchfannau ymwelwyr o safon uchel  
    3. Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol. Cefnogi prosiectau sy'n dileu rhwystrau ac yn gwella mynediad at gyfleusterau i bawb.
    4. Gwella y cynnig i ymwelwyr drwy gynnig profiadau sy’n rhoi ymdeimlad o le, er enghraifft trwy ddarparu seilwaith ar gyfer digwyddiadau, cynlluniau dehongli, llwybrau cerdded a phrosiectau sy’n rhoi llwyfan i fwyd, treftadaeth, diwylliant a’r Gymraeg. 

    Cronfa gyfalaf oedd hon. Nid oedd costau refeniw yn cael eu hystyried. Cyfanswm y grant ar gael oedd £300,000 gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%. Nid oedd isafswm grant

    Y dyddiad cau ar gyfer y rownd hon oedd 22 Tachwedd 2024.

    Cynigion a wnaethbwyd Ebrill 2025 i Ionawr 2027

  • Y Pethau Pwysig 2023-2025

    Roedd Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf ar gyfer 2023-2025 i gyflawni gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru. 

    Pwy oedd yn medru gwneud cais?
    Roedd y cynllun eleni yn agored i: 

    • Awdurdodau Lleol 
    • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol 

    Amcanion y gronfa oedd:

    • Buddsoddi mewn seilwaith sylfaenol sydd o fudd i gymunedau ac ymwelwyr mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig.  
    • Datblygu prosiectau seilwaith o ansawdd uchel sy'n cefnogi twristiaeth ehangach mewn cyrchfannau ac sy'n rhoi profiad cofiadwy i ymwelwyr drwy gydol eu harhosiad. 
    • Sicrhau bod cyfleusterau sylfaenol ar agor drwy'r flwyddyn ac yn darparu ar gyfer ymwelwyr gyda'r nos.

    Ar gyfer y cylch ariannu hwn, canolbwyntiodd y flaenoriaeth ar 4 maes allweddol:

    • Lleddfu mannau prysur. Dod o hyd i atebion seilwaith i oresgyn pwysau ar ardaloedd o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr.
    • Cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy. Datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith sy'n bodoli eisoes i wneud y gyrchfan yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan helpu i leihau'r ôl troed carbon.
    • Twristiaeth Hygyrch/Gynhwysol. Cefnogi prosiectau sy'n dileu rhwystrau o fewn cyrchfan ac yn gwella mynediad at gyfleusterau i bawb.
    • Gwella cynhyrchion llofnod cenedlaethol, er enghraifft, prosiectau sy'n gwella ac yn codi proffil Llwybr Arfordir Cymru.

    Lefel y cyllid sydd ar gael
    Cronfa gyfalaf oedd hon. Nid chafodd costau refeniw eu hystyried.

    Cyfanswm y grant ar gael oedd £300,000 gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%. Nid oes isafswm grant.

    Y dyddiad cau ar gyfer y cylch hwn oedd 16 Mawrth 2023.

    Cynigion a wnaethbwyd Mehefin 2023 i Mawrth 2025

  • Y Pethau Pwysig 2022-2023

    Roedd Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf ar gyfer 2022-23 i gyflawni gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru. 

    Pwy oedd yn medru gwneud cais?
    Mae'r cynllun eleni yn agored i: 

    • Awdurdodau Lleol 
    • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol 

    Amcanion y gronfa oedd:

    • Buddsoddi mewn seilwaith sylfaenol sydd o fudd i gymunedau ac ymwelwyr mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig.  
    • Datblygu prosiectau seilwaith o ansawdd uchel sy'n cefnogi twristiaeth ehangach mewn cyrchfannau ac sy'n rhoi profiad cofiadwy i ymwelwyr drwy gydol eu harhosiad. 
    • Sicrhau bod cyfleusterau sylfaenol ar agor drwy'r flwyddyn ac yn darparu ar gyfer ymwelwyr gyda'r nos.

    Ar gyfer y cylch ariannu hwn, canolbwyntiodd y flaenoriaeth ar 4 maes allweddol:-

    • Lleddfu mannau prysur. Dod o hyd i atebion seilwaith i oresgyn pwysau ar ardaloedd o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr.
    • Cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy. Datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith sy'n bodoli eisoes i wneud y gyrchfan yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan helpu i leihau'r ôl troed carbon.
    • Twristiaeth Hygyrch/Gynhwysol. Cefnogi prosiectau sy'n dileu rhwystrau o fewn cyrchfan ac yn gwella mynediad at gyfleusterau i bawb.
    • Gwella cynhyrchion llofnod cenedlaethol neu ranbarthol, er enghraifft, prosiectau sy'n gwella ac yn codi proffil Llwybr Arfordir Cymru ddeng mlynedd ers ei sefydlu.

    Lefel y cyllid sydd ar gael

    Cronfa gyfalaf oedd hon. Ni chafodd costau refeniw eu hystyried.

    Cyfanswm y grant a oedd ar gael oedd £250,000 gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%. Nid oedd isafswm grant.

    Y dyddiad cau ar gyfer a cylch hwn oedd 4 Mawrth 2022

    Cynigion a wnaethbwyd Ebrill 2022 i Mawrth 2023

  • Y Pethau Pwysig 2021-2022

    Roedd Y Pethau Pwysig yn gronfa ledled Cymru a oedd yn cefnogi’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a sefydliadau di-elw i: 

    • ddarparu gwelliannau bychain sylfaenol i seilwaith twristiaeth a 
    • sicrhau bod pob ymwelydd â Chymru yn cael profiad positif a chofiadwy drwy gydol eu arhosiad.  

    Adeiladwyd y gronfa hon ar y cylchoedd ariannu blaenorol drwy Cefnogi Buddsoddiad mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS) a lansiwyd yn 2017 ac a gefnogwyd drwy Raglen Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 (RDP), sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru. 

    O dan y cylch cyllido TAIS blaenorol, dim ond wardiau gwledig oedd yn gymwys, yn unol â rheolau’r Cynllun Datblygu Gwledig. Drwy gynnig cyllid ychwanegol nad oedd yn gyllid yr UE, roedd cynllun TAIS yn medru cael ei ymestyn i’r ardaloedd hynny y tu allan i wardiau gwledig drwy’r gronfa Y Pethau Pwysig.  Roedd hyn yn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn gallu elwa o’r gronfa newydd.  Ar gyfer y prosiectau hynny oedd wedi cael eu lleoli o fewn y wardiau cymwys, roedd Y Pethau Pwysig yn parhau i gael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Datblygu Gwledig yr UE Llywodraeth Cymru.  

    Amcanion Cyllid

    Roedd cyllid o hyd at £10m ar gael rhwng 2020 a 2025 tuag at flaenoriaethu prosiectau a oedd yn:  

    • darparu profiadau o safon i ymwelwyr sydd â naws Cymreig
    • sicrhau bod modd i amrywiaeth eang o ymwelwyr fanteisio ar gyfleoedd llesiant newydd a’u mwynhau
    • gwella mynediad at gyfleusterau a chyflwyno cipolwg cynhwysol ar Gymru 
    • buddsoddi mewn cyfleusterau sy’n gwella arlwy antur Cymru 
    • cyfrannu at brif fentrau twristiaeth Llywodraeth Cymru gan gynnwys ymgyrch Blwyddyn Awyr Agored 2020 – 2021 a Ffordd Cymru 
    • annog cyrchfannau glân, gwyrdd, er enghraifft drwy welliannau i seilwaith cynaliadwy  
    • hyrwyddo ymdeimlad o le, diwylliant a iaith yn fwy rhagweithiol  
    • darparu cyfleusterau  sydd ar agor gydol y flwyddyn ledled Gymru 
    • buddsoddi mewn profiadau a chyfleusterau ar gyfer digwyddiadau o safon byd-eang 

    Roedd cymorth o rhwng £25,000 a £128,000 ar gael i brosiectau gydag uchafswm gwariant cymwys o £160,000 a chyfradd ymyrraeth o 80%.

    Cynigion a wnaethpwyd Awst 2021 i Mawrth 2022

Straeon Perthnasol