Pam mae hygyrchedd yn bwysig

Nid rhywbeth braf i'w gael yn unig yw hygyrchedd a chynhwysiant - maen nhw'n hanfodol. Mae pob ymwelydd yn haeddu'r cyfle i brofi'r harddwch, y diwylliant a'r antur sydd gan Gymru i'w gynnig. Trwy wneud eich cyfleusterau a'ch profiadau yn hygyrch, nid yn unig rydych yn bodloni gofynion cyfreithiol—rydych yn agor eich drysau i gynulleidfa ehangach ac yn creu croeso Cymreig gwirioneddol gynnes.

Pam mae'n bwysig i'ch busnes

Nid arfer da yn unig yw twristiaeth hygyrch—mae'n dda i fusnes. Mae ymwelwyr sy'n teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cefnogi yn fwy tebygol o ddychwelyd ac argymell eich cyrchfan. Trwy gofleidio hygyrchedd, rydych chi'n helpu Cymru i ddod yn gyrchfan i bawb.

Y cyfle

Oeddech chi'n gwybod bod dros 14 miliwn o bobl yn y DU yn byw gydag anabledd? Mae llawer yn teithio gyda theulu, ffrindiau, neu ofalwyr, sy'n golygu bod twristiaeth hygyrch o fudd i bawb. Drwy fuddsoddi mewn nodweddion hygyrch, rydych yn helpu Cymru i sefyll allan fel cyrchfan sy'n gofalu.

  • Mae ymwelwyr anabl a'u cymdeithion yn cyfrif am oddeutu chwarter yr ymwelwyr â Chymru.
  • Mwy na £1.1bn o wariant ymwelwyr yn 2024.
  • Gallai twristiaeth hygyrch dyfu ymhellach os caiff rhwystrau eu dileu.
  • Mae 83% o bobl anabl wedi penderfynu peidio ag ymweld â busnes oherwydd ei fod yn ymddangos yn anhygyrch neu'n anghroesawgar. 
  • Mae tua 25% o deithiau gwyliau dros nos i Gymru yn cynnwys rhywun sydd ag amhariad neu ofyniad mynediad.

Sut beth yw cymorth yn y cyd-destun hwn? 

Gall gynnwys:

  • Mynediad corfforol: Mynedfeydd di-risiau, rampiau, drysau llydan, arwyddion clir a hygyrch a thoiledau hygyrch.
  • Hygyrchedd gweledol: Goleuadau da, arwyddion cyferbynnedd uchel, deunyddiau mewn print mawr, gwybodaeth gyffyrddadwy, a systemau cyfeirio hygyrch.
  • Hygyrchedd clywedol: Dolenni clyw, cynnwys sain a gweledol gydag isdeitlau, mannau tawel ar gyfer cyfathrebu, a staff wedi'u hyfforddi i gefnogi pobl â nam ar y clyw.
  • Anableddau cudd ac niwroamrywiaeth: Mannau tawel neu gyfeillgar i'r synhwyrau, dulliau gwasanaeth cwsmeriaid hyblyg, gwybodaeth glir, a staff wedi'u hyfforddi i ddeall anableddau cudd ac anghenion pobl niwroamrywiol.
  • Profiadau cynhwysol: Gweithgareddau wedi'u haddasu, llwybrau sy'n addas i gadeiriau olwyn, a lleoliadau sy'n darparu ar gyfer anghenion dietegol a synhwyraidd.
  • Mynediad Digidol Gwefannau sy'n bodloni safonau WCAG, cynnwys hawdd ei ddarllen, a gwybodaeth archebu glir.

Ysbrydoliaeth o bob cwr o Gymru

Ledled Cymru, mae busnesau twristiaeth yn dod o hyd i ffyrdd newydd o groesawu mwy o ymwelwyr. Mae Bythynnod Gwyliau Stangwrach yn dangos sut y gall nodweddion hygyrch fod yn rhan o brofiad gwych i ymwelwyr. Tra bod Llwybr Arfordir Cymru yn cynnwys llwybrau sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, teuluoedd â bygis a phobl â symudedd cyfyngedig. Mae'r enghreifftiau hyn yn profi nad oes angen gwneud newidiadau mawr i wella hygyrchedd. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr, gan helpu eich busnes i gyrraedd mwy o bobl a gwneud Cymru yn gyrchfan groesawgar i bawb.

  • Bythynnod Gwyliau Stangwrach - Creu Llety Cynhwysol

    Mae Bythynnod Gwyliau Stangwrach yn enghraifft wych o sut y gellir plethu hygyrchedd i'r profiad ymwelwyr. Mae eu hymrwymiad i letygarwch cynhwysol wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025.

    Designed to welcome guests travelling independently, with carers, families and groups, their accessible cottages include features such as step-free access, wheelchair-accessible bedrooms, spacious wet rooms, mobility equipment and adaptable spaces.

    Their success highlights how thoughtful design can help more people enjoy a break in Wales. Whether through small changes or larger investments, creating accessible experiences can open your business to new audiences and help ensure everyone feels welcome.

    Bythynnod Gwyliau Stangwrach
  • Llwybr Arfordir Cymru – Llwybrau Hygyrch

    Gall pawb fwynhau Llwybr Arfordir Cymru. Ar hyd ei 870 milltir, mae nifer o rannau hygyrch sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, teuluoedd â phramiau ac ymwelwyr sydd â symudedd cyfyngedig.

    I helpu mwy o bobl i brofi harddwch arfordir Cymru, mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig amrywiaeth o deithiau hygyrch. Wedi’u datblygu mewn partneriaeth ag Experience Community, mae nifer o’r llwybrau wedi’u hasesu’n bersonol ac yn cynnwys gwybodaeth hygyrchedd fanwl am raddiannau, arwynebau ac unrhyw rwystrau posibl, gan helpu ymwelwyr i gynllunio eu taith yn hyderus.

    Llwybr Arfordir Cymru: Llwybrau Hygyrch
  • Croeso Cymru a Pippa Stacey yn tynnu sylw at lwybrau hygyrch yng Ngogledd Cymru

    Bu Croeso Cymru yn gweithio gyda’r crëwr cynnwys Pippa Stacey i dynnu sylw at rannau hygyrch o Lwybr Arfordir Cymru yng Ngogledd Cymru, gan ysbrydoli mwy o bobl i ddod i Gymru yn hyderus. Yn ystod ei harhosiad yn Llandudno, bu Pippa yn profi amrywiaeth o atyniadau hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, lleoedd i fwyta ac yfed, a rhannau hygyrch o Lwybr Arfordir Cymru. Trwy fideos, ffotograffau a’i phrofiadau personol, mae’r ymgyrch yn dangos yr hyn y gall ymwelwyr ei ddisgwyl, yn arddangos hygyrchedd yr ardal ac yn helpu pobl i gynllunio a mwynhau anturiaethau arfordirol hygyrch yng Nghymru.

    Take a look at Pippa Stacey Instagram account
Mainc hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn Talog Country Retreat
Codi cadair olwyn yn Rheilffordd Ysgafn Trallwng a Llanfair, Canolbarth Cymru
Mae Pippa Stacey yn crwydro rhan o Lwybr Arfordir Cymru yng Ngogledd Cymru

Mainc hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn Talog Country Retreat | Codi cadair olwyn yn Rheilffordd Ysgafn Trallwng a Llanfair, Canolbarth Cymru | Mae Pippa Stacey yn crwydro rhan o Lwybr Arfordir Cymru yng Ngogledd Cymru

Creu croeso Cymreig cynnes i bawb

  • Gwnewch addasiadau i'ch cynnyrch i ddod yn fwy hygyrch

    Ystyriwch anghenion hygyrchedd corfforol, synhwyraidd, gwybyddol ac anableddau cudd. 

    Gall hyn gynnwys: 

    • mynediad di-risiau
    • toiledau hygyrch
    • dolenni clyw
    • mannau tawel
    • arwyddion clir
    • gwybodaeth mewn print mawr
    • gweithgareddau wedi’u haddasu
    • a ffyrdd hyblyg i ymwelwyr gael mynediad at eich gwasanaethau.
  • Darparu gwybodaeth hygyrchedd clir a manwl ar-lein

    Esboniwch eich trefniadau mynediad yn onest ac yn fanwl, gan gynnwys gwybodaeth am:

    • barcio
    • mynedfeydd
    • toiledau
    • cymorth clywedol
    • amgylcheddau synhwyraidd
    • mynediad i bobl â symudedd cyfyngedig
    • unrhyw offer sydd ar gael
    • ac unrhyw gyfyngiadau. 

    Po fwyaf o wybodaeth a ddarperir gennych, y mwyaf hawdd fydd hi i ymwelwyr wneud penderfyniadau gwybodus cyn teithio.

  • Hyfforddi eich tîm i ddeall anghenion hygyrchedd

    Rhowch yr wybodaeth a’r hyder i staff groesawu a chefnogi pobl ag ystod eang o ofynion mynediad, gan gynnwys pobl anabl, ymwelwyr niwroamrywiol a phobl ag anableddau cudd. Gall agwedd gadarnhaol, ddeallus a rhagweithiol wneud cymaint o wahaniaeth â gwelliannau ffisegol.

    Cymorth ac adnoddau sgiliau
  • Cyfathrebu mewn ffyrdd hygyrch

    Defnyddiwch iaith glir, cynigiwch wybodaeth mewn fformatau amgen lle bo modd, a sicrhewch fod ymwelwyr yn gallu cysylltu â chi drwy amrywiaeth o sianeli. Mae cyfathrebu syml a chynhwysol yn helpu pawb i deimlo'n groesawgar ac yn hyderus wrth gynllunio eu hymweliad.

  • Meddyliwch am daith gyfan yr ymwelydd

    Nid yw hygyrchedd yn ymwneud â’r lleoliad yn unig. Ystyriwch bob cam o daith yr ymwelydd, gan gynnwys systemau archebu, cyrraedd a parcio ac arwyddion, gweithgareddau, arlwyo ac gwasanaeth cwsmeriaid ac ymadael. 

    Gall mabwysiadu dull cyfannol helpu i greu profiad cynhwysol a chroesawgar o’r dechrau i’r diwedd.

Eisiau gwneud eich busnes yn fwy cynhwysol?

Dysgwch fwy am y cyllid, y canllawiau a'r adnoddau sydd ar gael i'ch helpu i greu profiad croesawgar a chynhwysol i bawb.

  • Archwiliwch ein cyllid Croeso I Bawb ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch i'ch helpu i wella eich cynnig i fod yn fwy hygyrch a chael gwared ar rwystrau i ymwelwyr - Croeso i Bawb | Diwydiant

    Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 21 Medi 2026

  • Manteisio ar adnoddau PIWS; y sefydliad nid-er-elw yng Nghymru sydd, trwy gydweithio â sefydliadau sy'n rhannu eu hangerdd dros gydraddoldeb a newid, yn gweithio i greu Cymru fwy hygyrch, croesawgar a chyfartal.

    Gadewch i ni greu Cymru mwy hygyrch gyda'n gilydd | Piws

  • Fel Fel busnes graddedig, gallwch restru eich cynnyrch neu ddigwyddiad am ddim ar visitwales.com. Gwnewch yn siŵr bod eich rhestr yn gyfredol ac yn arddangos nodweddion hygyrch yn glir. Bydd rhestr yn eich helpu i gyrraedd ymwelwyr sy'n cynllunio taith i Gymru, elwa o'n hymgyrchoedd marchnata sy'n gyrru traffig i'r wefan ac yn galluogi eich cynnyrch i fod yn fwy tebygol o ymddangos mewn chwiliadau AI. 

    Rhestrau cynnyrch twristiaeth Croeso Cymru | Croeso Cymru Diwydiant.

Ysbrydoliaeth ar gyfer profiadau hygyrch

Straeon Perthnasol

Gweinyddes yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor

Cymorth ac adnoddau sgiliau

Dewch o hyd i wybodaeth am y nifer o adnoddau a chyfleoedd sydd ar gael i helpu i ddatblygu’r sgiliau yn eich busnes.

Grŵp yn bwrddio cwch Dale Princess ym Martin’s Haven, Sgomer, Sir Benfro.

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw