Mae'n bwysig bod pobl sy'n ymweld â Chymru yn mwynhau eu hunain tra maent  yma. Os  bydd ein hymwelwyr yn cael amser da yng Nghymru maent yn fwy tebygol o ddychwelyd a’n hargymell i eraill. Pobl yw ein hased pwysicaf i helpu  sicrhau bod hyn yn digwydd.

Ceir llawer o adnoddau ar gyfer i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau cywir i chi a'ch staff.

Mae'r sector Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau yn un amrywiol. Mae'n cwmpasu llawer o elfennau is-sectorau gwahanol, gan gynnwys gweithgareddau ym maes llety a gwasanaethau bwyd, fel

  • gwestai a mathau eraill o lety
  • bwytai
  • gwasanaethau diodydd ac arlwyo ar gyfer digwyddiadau
  • gweithgareddau antur awyr agored 
  • atyniadau i ymwelwyr.

Ymgyrch Croeso Cymru: Gweithio ym Maes Twristiaeth a Lletygarwch

Ymgyrch Croeso Cymru: Pecyn Cymorth ac asedau

Postio swyddi gwag a recriwtio

Partneriaeth Sgiliau dan arweiniad diwydiant

Cymorth Sgiliau, Recriwtio a Hyfforddi i Fusnesau

SkillsCampWorkInIndustryYmgyrch Croeso Cymru: Gweithio ym maes Twristiaeth a Lletygarwch

Ers mis Awst 2021, mae Croeso Cymru wedi bod yn rhedeg ymgyrch i annog pobl i weithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch. 

Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar y swyddi gwag sydd yn y sector, sy’n ymateb i’r cynnydd yn y galw gan gwsmeriaid a bod mwy o bobl yn dewis aros yn y wlad hon am eu gwyliau eleni. 

Mae’n ymdrin â chyfleoedd datblygu personol a llwybrau gyrfaol posibl mewn swyddi fel

  • blaen y tŷ 
  • coginio 
  • cadw tŷ 
  • goruchwylio a rheoli 

Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal ar y cyd â Cymru’n Gweithio – porth cyflogaeth Llywodraeth Cymru, i bobl 16 oed a throsodd. Mae’n cynnig cyngor a chymorth diduedd, cynhwysol a phenodedig i helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant iddynt allu datblygu eu gyrfaoedd a gwella’u lles. 

I weld y manylion llawn, ewch i wefan Cymru’n Gweithio. Bydd mwy o astudiaethau achos a ffilmiau ar gael yn y misoedd i ddod. 

Cogydd yn The Grove, Arberth
Cogydd yn The Grove, Arberth

SkillsCampToolkitAssetYmgyrch Lletygarwch: Pecyn cymorth ac asedau

Fel rhan o'r ymgyrch, mae asedau a phecyn cymorth newydd ar gael nawr. Mae'r pecyn cymorth ar gael i

  • helpu rhanddeiliaid i recriwtio staff
  • codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa gwych ym maes twristiaeth a lletygarwch

Cefnogwch yr ymgyrch trwy gadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio #LlunwyrProfiadau. I gael manylion llawn yr ymgyrch, ewch i wefan Cymru’n Gweithio.

SkillsRecruitementPostio swyddi gwag gyda darparwyr lleol

Nid yw’r wybodaeth ganlynol yn gyflawn – os nad yw eich coleg lleol wedi ei restru, ffoniwch y coleg yn uniongyrchol am wybodaeth.

Recriwtio adnoddau, mentrau a chyfleoedd

Dewch o hyd i'ch colegau lleol a'ch darparwyr hyfforddiant a all helpu i hysbysebu swyddi gwag a rhywfaint o wybodaeth am fentrau ac ymgyrchoedd lleol sy'n cael eu cynnal.

Colegau/darparwyr hyfforddiant

  • Mae Grwp Llandrillo Menai yn cynnwys Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor ac yn cyflwyno cyrsiau ar draws Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd. Gall busnesau sydd â swyddi gwag lenwi'r Ffurflen Swyddi Gwag i Gyflogwyr a'i chyflwyno i employerjobs@gllm.ac.uk - bydd y swyddi gwag yn cael eu rhoi ar wefan y coleg a'u hamlygu i fyfyrwyr.
  • Mae gan Goleg y Cymoedd gampysau yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda (Llwynypia) ac Ystrad Mynach. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Coleg y Cymoedd.  i drafod eich swyddi gwag, cysylltwch â thîm y Ganolfan Gyflogaeth ar 01443663229 / 07971341251 neu e-bostiwch Futures@Cymoedd.ac.uk 
  • Gall Coleg Pen-y-bont ar Ogwr drafod amrywiaeth o ddulliau ar gyfer cefnogi recriwtio ar gyfer busnesau o unrhyw faint ledled De Cymru. Gellir dod o hyd i ragor o cyfleoedd.co.uk a chysylltu â Steve Jones - Cyfleoedd@bridgend.ac.uk neu 01656 302302 est 184
  • Mae gan Goleg Cambria chwe safle ledled y Gogledd-ddwyrain sy’n cynnig cyrsiau. Gall busnesau ddarganfod sut i hysbysebu swyddi gwag ar y Siop Swyddi ar lein. Cewch wybodaeth hefyd am sut i gynnig profiad gwaith i fyfyrwyr.
  • Mae Coleg Sir Gâr sy’n cwmpasu ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn galluogi busnesau i hysbysebu swyddi ar draws pob campws. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Filipe Nunes, Filipe.Nunes@colegsirgar.ac.uk neu 07468 470 245.
  • Hysbysebu cyfleoedd ym Met Caerdydd - Gallwch hysbysebu swyddi’n uniongyrchol i fyfyrwyr ar safle swyddi mewnol Met Caerdydd, MetHub. I hysbysebu swydd, bydd angen cofrestru a chreu cyfrif. Caiff eich cyfrif ei gymeradwyo mewn 2-3 diwrnod gwaith ac wedyn, cewch lwytho swyddi’n syth i’r safle. Cofrestrwch gyda MetHub https://methub.cardiffmet.ac.uk/employers/ ar-lein. Am ragor o help, cysylltwch â careers@cardiffmet.ac.uk.
  • Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu hyfforddiant prentisiaeth sy’n seiliedig ar waith ledled Cymru ac mae'n arbenigo mewn cefnogi busnesau yn y sector Lletygarwch a Thwristiaeth.
    Bydd eu tîm yn trafod eich anghenion busnes a’r cyllid sydd ar gael i recriwtio a hyfforddi staff a
    helpu i hysbysebu a recriwtio prentis yn rhad ac am ddim a darparu hyfforddiant prentisiaeth o ansawdd uchel: Hysbysebir eu swyddi prentisiaeth gwag ar eu gwefan, gwasanaeth cenedlaethol swyddi gwag prentisiaeth a'u cyfryngau cymdeithasol. I gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Hyfforddiant Cambrian.

Byddwn yn parhau i wirio a rhannu'r math hwn o wybodaeth, yn y cyfamser, cysylltwch â'ch coleg lleol i weld a allant helpu i hysbysebu eich swyddi gwag.

 

SkillsPartnershipGrpPartneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru

Ym mis Medi 2019, ar ôl trafod yn eang â rhanddeiliaid, ffurfiwyd partneriaeth sgiliau sy’n cael ei harwain gan y diwydiant. Penodwyd Cadeirydd annibynnol, a threfnwyd bod Croeso Cymru yn darparu gwasanaethau ysgrifenyddol. Mae’r bartneriaeth yn cyfarfod bob chwarter.

Nod y Bartneriaeth yw 

  • casglu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a cheisio barn y diwydiant 
  • nodi problemau a phryderon o ran prinder pobl a sgiliau
  • cynnig atebion i randdeiliaid yn y sector, er enghraifft, Llywodraeth Cymru, Partneriaethau Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol 
  • lledaenu gwybodaeth i'r sector am recriwtio, darparu hyfforddiant, cyllid, arferion gorau etc.

Rôl y Bartneriaeth yw: 

  • rhoi arweiniad a phennu chyfeiriad y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru mewn perthynas â materion sy’n gysylltiedig â sgiliau
  • annog rhannu gwybodaeth a chynnig atebion er mwyn mynd i'r afael â phryderon
  • ystyried blaenoriaethau strategol a nodwyd gan randdeiliaid 
  • cynghori ar y camau gweithredu a'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn cyflawni canlyniadau strategol
  • rhoi arweiniad ar wella'r sylfaen sgiliau yn y sector, ac ar ddenu newydd-ddyfodiaid a chadw gweithwyr proffesiynol medrus.

I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth, cysylltwch â Kerry.Thatcher@llyw.cymru.

Straeon Perthnasol